Cerddoriaeth Cymru Ar Ei Hennill Gyda'r Gronfa Lansio

Profile picture for user Beca Harries

Postiwyd gan: Beca Harries

Dyddiad: 15 February 2019

Mae cyfanswm o 28 o artistiaid a bandiau talentog o bob rhan o Gymru wedi llwyddo yn eu cais am fwrsariaeth cerddoriaeth gwerth £35,000 i gyd. Mae’r artistiaid buddugol yn cynnwys  y cerddor gwerin Gwilym Bowen Rhys o Gaernarfon sy’n cynhyrchu gwaith sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Hefyd, Christian Punter o’r Rhondda, sy’n saernïo cerddi drwy ddefnyddio storïau sy’n deillio o’i bentref lleol, a'r cyfan wedi'i ysbrydoli gan y tŷ y mae’n byw ynddo, yr hen swyddfa bost.

Dyfarnwyd hyd at £2,000 yr un i’r artistiaid addawol hyn o Gymru i'w helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd a'u cerddoriaeth a chynnal gweithgareddau eraill a fydd o gymorth iddyn nhw i wireddu’u potensial. Arian gan y Loteri Genedlaethol sy’n gwneud y Gronfa Lansio yn bosibl. Mae’n rhan o gynllun Gorwelion BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru. Nod y cynllun yw datblygu cerddoriaeth gyfoes newydd a daeth dros 100 o geisiadau i law o bob rhan o Gymru. Rhoddwyd y dasg o ddewis yr ymgeiswyr mwyaf cymwys i ddau banel a oedd yn cynnwys 20 o arbenigwyr o’r diwydiant cerddoriaeth. Agorodd ceisiadau i’r Gronfa Lansio ym mis Medi ac mae’n agored i artistiaid a bandiau o Gymru sy’n ysgrifennu, cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth boblogaidd, gyfoes, wreiddiol. 

Ers ei sefydlu yn 2014, mae Gorwelion a’r Gronfa Lansio wedi dyfarnu arian i 150 o artistiaid, o fwy na 60 o drefi, ar draws Cymru. Eleni, cafodd y 28 artist llwyddiannus nawdd i'w helpu gydag amrywiaeth o fentrau, o logi lle ymarfer i weithio gyda chynhyrchwyr dawnus a recordio’n broffesiynol. O’r cymysgedd amrywiol o geisiadau, bydd nifer yn cael cefnogaeth yn eu gwaith creadigol gyda grantiau tuag at amser stiwdio a chyfansoddi caneuon, ffotograffiaeth a gwaith celf wedi’u comisiynu’n arbennig, hyrwyddo gwaith sy’n cael ei ryddhau, offer ar gyfer perfformiadau byw, cynhyrchu fideo a chostau mynd ar daith.

Dyma ymateb y canwr gyfansoddwr Gwilym Bowen Rhys i’r newyddion ei fod i gael cefnogaeth:

“Mae'n fraint gen i dderbyn cefnogaeth ariannol. Mae'n hwb gwerthfawr i gerddorion Cymreig sy'n ceisio lledaenu eu gwaith adref a thramor. Byddaf yn defnyddio'r pres i greu ffilm gerddoriaeth a ffilm ddogfen fer am fy albym newydd fydd allan mis Mai”.

Dywedodd Rheolwr Prosiect Gorwelion, Bethan Elfyn: “Rydym wedi gweld cerddoriaeth o Gymru yn mynd drwy gyfnod hynod o gynhyrchiol a phroffidiol yn y 12 mis diwethaf felly mae’n dda gweld y Gronfa Lansio yn parhau i ddarparu arian y mae mawr ei angen ar gyfer y criw newydd cyffrous o artistiaid sy’n dod drwodd. Mae’r grantiau hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn darparu arian ar adeg holl-bwysig i artistiaid newydd, un ai i recordio neu i hyrwyddo deunydd newydd. Fe welwch o’r rhestr artistiaid mor gyffrous yw’r ystod o genres cerddorol a’r syniadau creadigol yng Nghymru ar hyn o bryd, yn amrywio o’r rhai sydd reit ar gychwyn eu taith i’r rhai sy’n cymryd y cam nesaf ac yn gwthio’u hunain ychydig yn bellach.”

Ychwanegodd Lisa Matthews-Jones, Cyngor Celfyddydau Cymru:  “Mae’r Gronfa Lansio wastad yn un o’r paneli penderfynu mwyaf bywiog ac anodd i ymwneud ag ef. Roedd gweld yr ystod a’r amrywiaeth o brosiectau cerddoriath sy’n dod ymlaen, o bob rhan o Gymru, yn ysbrydoliaeth. Rydym yn gobeithio y bydd y gwobrau hyn yn galluogi cerddorion sy’n cychwyn ar eu gyrfa i fynd â’u cynlluniau ymlaen. Allwn ni ddim aros i glywed y canlyniadau!!”

Ychwanegodd Joel De’ath, Sony Records, aelod o’r panel: “Mae Cymru’n parhau i ddarparu doniau creadigol, ac mae’r Gronfa Lansio yno bob cam o’r ffordd i helpu i ddatblygu’r doniau newydd hyn, nid dim ond gydag arian, ond gyda chyngor ac arweiniad. Mae’n hanfodol er mwyn helpu Cymru i barhau i feithrin artistiaid sy’n cystadlu ar lefel fyd-eang,”

Bydd y rhai sy’n cael nawdd gan Gronfa Lansio 2018/19 yn cael eu dathlu gydag wythnos o sesiynau yn cychwyn heddiw (4 Chwefror) ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, lle bydd rhai o’r artistiaid llwyddiannus yn perfformio. Dyma’r 28 artist llwyddiannus sy’n cael cyfraniad o’r gronfa tuag at eu gweithgareddau:

Aleighcia Scott, Caerdydd - Fideo cerddoriaeth swyddogol a marchnata digidol ar gyfer ei halbwm cyntaf.
Accu, Maesycrugiau, Sir Gaerfyrddin – Gitâr drydan, pedalau a chysylltiadau cyhoeddus ar gyfer yr albwm nesaf.
Jessy Allen, Caerdydd – Recordio EP cyntaf 6-trac
Bandicoot, Sgeti, Abertawe – Recordio sengl gyntaf yn y Gymraeg.
Gwilym Bowen Rhys, Bethel, Caernarfon – Recordio albwm newydd ac yn ffilmio.
Chembo, Wrecsam – Gwneud copïau meistr o recordiadau newydd a fideo cerddoriaeth.
Chrles, Biwmares, Ynys Môn – Ysgrifennu caneuon a recordio.
CHROMA, Aberpennar, Rhondda Cynon Taf – Recordio albwm cyntaf.
GRAVVES, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint – Fideo cerddoriaeth a sesiwn tynnu lluniau.
EADYTH, Merthyr Tudful – Offer recordio.
Darren Eedens & The Slim Pickins, Caerdydd – Recordio albwm newydd.
Ennio the Little Brother, Shotton, Sir y Fflint – Taith o gwmpas y Deyrnas Unedig gyda’r band o Gymru, Campfire Social ac offer recordio.
Eve Goodman, y Felinheli, Gwynedd – Ysgrifennu caneuon a hyfforddiant lleisiol pellach.
HANA2K, Sili, Bro Morgannwg – Gliniadur newydd ar gyfer ysgrifennu a recordio demos, sesiynau recordio, cymysgu a gwneud copïau meistr a fideos YouTube.
Rebecca Hurn, Porthcawl – Recordio deunydd newydd ar gyfer 3ydd EP, cynhyrchu CD a hyrwyddwr radio.
I SEE RIVERS, Dinbych-y-pysgod – Amser stiwdio i recordio albwm cyntaf.
Kidsmoke, Wrecsam – Cymysgu albwm cyntaf a gwneud copi meistr.
Los Blancos, Sir Gaerfyrddin – Recordio albwm a chysylltiadau cyhoeddus.
Marged, Caerdydd – Ysgrifennu caneuon a chynhyrchu albwm cyntaf.
Mellt, Aberystwyth – Offerynnau ac offer safonol ar gyfer perfformiadau byw.
Moletrap, Llanfair-ym-Muallt - Cwblhau albwm cyntaf.
No Good Boyo, Caerdydd – Recordio a rhyddhau albwm newydd, ffotograffiaeth a fideo.
Jack Perrett, Casnewydd – Recordio deunydd, fideo cerddoriaeth a ffotograffiaeth newydd a chysylltiadau cyhoeddus.
The Pitchforks, Rhondda Cynon Taf – Recordio dwy sengl newydd, video cerddoriaeth a thaith o gwmpas y Deyrnas Unedig.
Christian Punter, Glyn Rhedynnog, y Rhondda – Prosiect EP newydd yn defnyddio storïau sy’n deillio o’r gymuned leol.
Silent Forum, Caerdydd – Ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer albwm sydd i ymddangos yn fuan.
Daniel Soley, Caerdydd – Gwefan a dosbarthu cerddoriaeth.
VOYA, Caerdydd - Offer safonol ar gyfer perfformio’n fyw.

Roedd panelau’r Gronfa Lansio yn cynnwys:

Bethan Elfyn, Rheolwr Prosiect Gorwelion, BBC Cymru Wales; Lisa Matthews, Rheolwr Portffolio, Cyngor Celfyddydau Cymru; Aeron Roberts, Cyngor Celfyddydau Cymru; Gareth Iwan, BBC Radio Cymru, Ed Richmond, BBC Radio Wales; Dwynwen Morgan, BBC Radio Cymru; Dan Potts, BBC Radio Wales; Neal Thompson, Focus Wales, Wrecsam; Joel De’ath, Sony Music; Violet Skies, Cerddor; Liz Hunt, Cerddor a Hyrwyddwr; Spike Griffiths, Prosiect Forte; Owain Schiavone,Y Selar; Leo O’Brien, PPL; Rebecca Ayres, Sound City; Ffion Wyn, Newyddiadurwr Cerddoriaeth; Christina Macdonald, Gorwelion, BBC Cymru Wales; Skip Curtis, Darlithydd Busnes Cerdd, Prifysgol De Cymru; Bill Cummings, Sound & Vision PR;Simon Parton, Gorwelion, BBC Cymru Wales; Rachel K Collier, Cerddor.

Am rhagor o wybodaeth am y ronfa lansio yn ogystal a menter Gorwelion Cymru yn gyffredinol - bbc.co.uk/gorwelion 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event