Cyhoeddi adroddiad llawn Sound Diplomacy ar sector cerddoriaeth Caerdydd

Profile picture for user Beca Harries

Postiwyd gan: Beca Harries

Dyddiad: 26 April 2019

Mae adroddiad hir-ddisgwyliedig Sound Diplomacy ar sector cerddoriaeth Caerdydd wedi ei gyhoeddi yn llawn heddiw. Mae'r adroddiad yn gwneud 12 o argymhellion strategol a allai, o'u hymgorffori yn llawn i Strategaeth Gerddoriaeth Caerdydd, weld gwireddu'r canlynol: 

  • Sefydlu digwyddiad neu ŵyl mawr o bwys a fydd yn rhoi llwyfan i artistiaid rhyngwladol o genres cerddorol amrywiol;
  • Sefydlu Bwrdd Cerddoriaeth ar gyfer y ddinas er mwyn cynrychioli ac eirioli dros Gaerdydd fel Dinas gerdd gyntaf y DU;
  • Uwchgynllun ar gyfer Cwr y Castell fydd yn tanlinellu ei sefyllfa unigryw o fewn sîn gerddoriaeth Caerdydd;
  • Adnewyddu ac ail-wampio Neuadd Dewi Sant i greu Neuadd Gyngerdd Genedlaethol wedi ei hadfywio;
  • Adolygu'r polisïau trwyddedu presennol a chyflwyno parthau Llwytho i Gerddorion mewn lleoliadau yn y ddinas;
  • Creu strategaeth farchnata Dinas Gerdd Caerdydd i ymwelwyr

Cymerodd adroddiad Dinas Gerdd Sound Diplomacy flwyddyn i'w lunio a bu'r ymgynghorwyr -sydd gyda'r mwyaf blaenllaw yn y byd ac sy'n helpu dinasoedd i wireddu twf economaidd, buddsoddiad a datblygiad diwylliannol trwy gyfrwng cerddoriaeth - yn siarad â channoedd o bobl sy'n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghaerdydd. 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:

Mae cerddoriaeth yn gwneud nifer o bethau dros drefi a dinasoedd. Mae'n creu swyddi. Mae'n rhoi rheswm i fod yn rhywle. Mae'n denu ymwelwyr. Mae'n cynnig teimlad o hunaniaeth i ni. Ac ni allwn anwybyddu'r ffaith bod cerddoriaeth ynddi ei hun yn beth da. 

Rydym ni eisiau bod y ddinas gyntaf yn y DU a fydd yn ymgorffori cerddoriaeth yn rhan o strwythur y ddinas, o gynllunio a thrwyddedu i lesiant cymdeithasol a thwristiaeth.Drwy hyn, byddwn ni'n creu cymunedau bywiog, cyffrous, byddwn yn datblygu ein proffil rhyngwladol a chynyddu gwerth economaidd a chymdeithasol cerddoriaeth yn ein dinas. 

Dywedodd Llywydd Sound Diplomacy, Shain Shapiro: 

Rwyf wrth fy modd bod adroddiad Sound Diplomacy yn cael ei gyhoeddi heddiw.Rydym wedi treulio misoedd lawer yn pwyso a mesur ac asesu ecosystem cerddoriaeth Caerdydd.Rydym wedi canfasio barn cannoedd o bobl, o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, artistiaid, a phobl yn y sector addysg cerddoriaeth, i gyllidwyr, athrawon, rheolwyr lleoliadau a phobl sy'n caru cerddoriaeth. 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury: 

Mae Caerdydd yn un o bwerdai creadigol y DU - mae ein sector creadigol yn cyflogi oddeutu 15,000 o bobl ac yn cynhyrchu gwerth mwy na £1 biliwn i'r economi lleol - ond mae sector cerddoriaeth fyw y DU yn tyfu, yn ogystal â'r nifer o swyddi y mae'n eu cefnogi. Mae ffigurau diweddar yn dangos yn ddiweddar yng Nghymru bod twristiaeth gerddoriaeth yn cynnal oddeutu 47,445 o swyddi a gwariant blynyddol gwerth £115 miliwn ar gyngherddau a gwyliau - mae hwn yn cynrychioli cyfle gwirioneddol i'n sector cerddoriaeth ac ar gyfer economi ehangach y ddinas. 

Mae'r adroddiad yn datgelu llu o ystadegau a ffigurau diddorol am sefyllfa bresennol sector cerddoriaeth y ddinas. Yn eu plith, mae: 

  • Gwerth sector cerddoriaeth i economi Caerdydd yw £104 miliwn y flwyddyn
  • Mae 1,440 o swyddi wedi eu creu yn uniongyrchol gan sector cerddoriaeth Caerdydd
  • Mae 840 o'r swyddi hyn yn rhai llawn amser gyda 600 yn rhai rhan amser.
  • Incwm blynyddol cyfartalog artistiaid ac asiantau creadigol yw £18,000
  • Mae gweithwyr y sector technegol a rheoli cerddoriaeth yn ennill £27,500 y flwyddyn ar gyfartaledd
  • Cyfanswm y swyddi a grëwyd ac a gefnogwyd gan sector cerddoriaeth Caerdydd yw 2,494
  • Mae nifer y bobl yng Nghaerdydd sy'n gweithio yn y sector cerddoriaeth yn debyg i'r nifer ym Mryste a Lerpwl, ond mae'r ddinas yn creu 4.3 o swyddi fesul 1,000 o drigolion o'i gymharu â 2.7 ar gyfer Bryste a Lerpwl.

Aeth y Cyng Bradbury yn ei flaen, "O dafarndai lleol a lleoliadau cymunedol i neuaddau cyngerdd a stadia mawr, mae ecosystem cerddoriaeth y ddinas eisoes yn ffynnu, ond mae'r her a nodwyd yn glir yn adroddiad Sound Diplomacy, yn golygu bod rhaid i ni sicrhau bod ein hagwedd ehangach tuag at ddatblygu'r ddinas yn alinio ag anghenion y diwydiant cerddoriaeth, fel y gall cerddoriaeth gefnogi'r ddinas yn economaidd, ac y gall y ddinas gefnogi ei cherddorion a gweithwyr proffesiynol ym maes cerddoriaeth. 

"Mae'n amlwg bod llawer i'w wneud a byddaf yn trafod yr adroddiad llawn gyda'r Cabinet yn y dyfodol agos, gan symud ymlaen i sefydlu Bwrdd Cerddoriaeth o bosib i helpu i wneud Caerdydd yn ddinas gerddoriaeth wirioneddol."  

Mae adroddiad Cabinet Cyngor Caerdydd, a gaffodd ei drafod mewn cyfarfod ddoe (18 Ebrill), i sefydlu nifer o gamau nesaf yng ngoleuni adroddiad Sound Diplomacy. 

Os caiff yr argymhellion yn yr adroddiad Cabinet eu cytuno, bydd gwaith yn dechrau ar ddatblygu cynlluniau ar gyfer Bwrdd Cerddoriaeth i'r ddinas, gan gynnwys cylch gorchwyl a opsiynau o ran adnoddau. Bydd rhaglen waith Strategaeth Cerddoriaeth hefyd yn cael ei roi ar waith i gynnig ymatebion manwl i'r argymhellion yn yr adroddiad gan Sound Diplomacy.  

Cliciwch yma i weld agenda cyfarfod y Cabinet, gyda dolenni i'r adroddiad llawn.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event