Dangos a Dweud yn Tafwyl

22/06/2019 - 14:00
Pabell Byw yn y Ddinas, Castell Caerdydd
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Mae Dangos a Dweud Caerdydd Creadigol yn ddigwyddiad chwarterol sy'n rhoi llwyfan i’r amrywiaeth gyffrous o bobl a phrosiectau creadigol yn y ddinas. Bydd 'Dangos a Dweud' yn dod â chymuned greadigol Caerdydd ynghyd, o dalent newydd i bobl brofiadol, i glywed am eu prosiectau cyfredol a'u dyheadau. Bydd y rhifyn yma'n taflu goleuni ar fenywod creadigol ysbrydoledig y ddinas. 

Bydd ein tri siaradwr yn rhoi sgwrs gryno, pob un yn 10 munud o hyd. Ac fe fyddent yn dod â rhywbeth i'w ddangos. Gallai'r gwrthrych fod yr hyn sydd wedi'u hysbrydoli, yn declyn maent yn ei ddefnyddio yn eu gwaith, neu'n rhywbeth sy'n rhoi cysur iddynt. Bydd y siaradwyr yn rhannu eu gwaith ac yn esbonio pwysigrwydd eu gwrthrychau.

Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig ar gyfer mynediad i'r digwyddiad hwn, anfonwch neges ebost at creativecardiff@caerdydd.ac.uk

Ein siaradwyr: 

Heledd Watkins 

Mae Heledd Watkins yn gerddor sy'n canu a chwarae gitâr / synths i'r band HMS Morris. Ar ôl astudio Theatr yn 'Royal Central School of Speech & Drama' fe aeth ati i chwarae gitâr fas ar daith gydag Emmy The Great ac mae wedi perfformio gyda Chloe Howl a Paper Airplanes. Ar ôl sefydlu'r cwmni theatr Bad Host Theatre Company fe sefydlodd ei band HMS Morris, sy'n creu seiniau eclectig, lliwgar a dwyieithog. Yn ddiweddar mae wedi cyflwyno Rockfield Sessions Gorwelion Cymru, rhaglen deledu BBC yn dangos talent gerddorol newydd o Gymru'n perfformio yn y stiwdios recordio byd-enwog ym Mynwy. 

Hanna Jarman 

Mae Hanna Jarman yn sgwennu, cyfarwyddo ac actio ar draws ffilm, teledu a theatr. Ers graddio o Goleg Cerdd a Drama yn 2011, mae wedi cydweithio'n agos â chwmnïau fel Not Too Tame Theatre i greu theatr sy'n hygyrch "i bawb”. Bu'n cyfrannu at rhaglen 'Y Labordy' a gefnogir gan Ffilm Cymru Wales, S4C, Cyngor Celfyddydau Cymru a BFI.NETwork ac fe'i mentorawyd gan yr awdur, cyfarwyddwr ac actor Desiree Akhavan (Appropriate Behaviour, The Miseducation of Cameron  Post). 
 

Yn ddiweddar mae Hanna wedi cyd-greu cyfres deledu ddwyieithog ar ffurf fer gyda'i ffrind Mari Beard - Merched Parchus, ar gyfer S4C. Ar ôl gorffen cyfnod gyda Theatr Genedlaethol yn perfformio 'Merched Caerdydd' mae Hanna'n edrych ymlaen at weithio ar amryw o brosiectau i deledu a radio gyda Mari Beard a gweithio gyda chwmni theatr Pluen yr haf hwn. 

Elan Evans 

Mae Elan Evans yn gweithio i Clwb Ifor Bach fel cynorthwy-ydd cynhyrchu a threfnydd gigs Twrw ac mae’n trefnu gigs Cymraeg mewn amryw o leoliadau gwahanol yng Nghymru. Blwyddyn diwethaf fe gyhoeddodd Clwb Ifor Bach eu bod yn cymryd dros yr ŵyl aml-leoliad boblogaidd Gŵyl Sŵn, mae Elan yn bwcio bands Cymraeg ac yn gweithio ar yr ochr cynhyrchu o’r ŵyl. Mae hefyd yn gyflwynwraig achlysurol ar BBC Radio Cymru a Radio Cymru 2 ac yn cyflwyno’r rhaglen gerddoriaeth Ochr 1.

Yn ddiweddar mae wedi bod yn trefnu gweithdai Merched yn gwneud miwisg ar y cyd a Maes B er mwyn annog rhagor o ferched i ddechrau bands a chreu cerddoriaeth yng Nghymru. Mae'r gweithdy nesaf yn Musicbox Studios ar 29 Mehefin. 

Edrychwch ar y rhaglen lawn. 

ARCHEBWCH NAWR

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event