Hysbysiad Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd
Mae Caerdydd Creadigol yn brosiect yn Uned Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd. Mae Caerdydd Creadigol yn rhwydwaith sy’n cysylltu ac yn ymgysylltu’n well â gweithwyr proffesiynol creadigol, busnesau a sefydliadau ar draws Caerdydd a’r ddinas-ranbarth yn well. Ein diben yw annog cydweithio, amlygu cyfleoedd ac annog arloesedd. Aelodau sydd wrth wraidd Caerdydd Creadigol ac maent yn llywio ac ysbrydoli popeth a wnawn.

Y Rheolwr Data
Prifysgol Caerdydd yw’r rheolydd Data ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.

Manylion cyswllt y Swyddog Diogelu Data
Mae gan Brifysgol Caerdydd Swyddog Diogelu Data y gellir cysylltu ag ef drwy ebostio InfoRequest@caerdydd.ac.uk.

 

Pa wybodaeth ydym ni’n ei chasglu amdanoch?
Fel aelod o Gaerdydd Creadigol, rydym yn casglu’r data a ddarperir gennych ar gyfer eich proffil a gyhoeddir yn y parth cyhoeddus, gan gynnwys eich enw, enw'r cwmni, teitl swydd, cysylltiadau sector a dolenni’r we. At hynny, rydym yn casglu eich cyfeiriad ebost, cyfeiriad cartref a chôd post, ac ni chânt eu cyhoeddi ar eich proffil.

Sut caiff eich gwybodaeth ei defnyddio?
Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i anfon ebost wythnosol, cynnal ymchwil a dadansoddiad ystadegol, hyrwyddo ein digwyddiadau a’ch cysylltu ag aelodau perthnasol eraill yn rhwydwaith Caerdydd Creadigol.

Beth yw ein sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol?
Mae’r unigolyn sydd o dan sylw yn y data yn cydsynio i’r prosesu drwy greu proffil Caerdydd Creadigol. Mae'r ddeddfwriaeth yn rhoi hawl benodol i unigolion dynnu cydsyniad yn ôl ac mae gennych yr hawl i wneud hynny ar unrhyw adeg drwy fewngofnodi i'ch proffil Caerdydd Creadigol ar ein gwefan.

Pwy sy’n cael eich gwybodaeth?
- Caerdydd Creadigol
- Prifysgol Caerdydd

Defnydd gwefan Caerdydd Creadigol o friwsion.

Beth yw briwsion?
Mae briwsionyn yn ffeil testun bach sy’n cynnwys gwybodaeth a allai gael ei symud rhwng eich porwr (e.e. Internet Explorer, Chrome, Firefox, neu Safari) a chyfrifiadur sy’n rhedeg gwefan (fel arfer y safle wnaeth osod y briwsionyn). Nid yw’n cynnwys unrhyw gôd ac ni all wneud unrhyw beth. Mae'r rhan fwyaf o wefannau yn eu gosod ac ni allant weithio’n iawn hebddynt. Fel arfer, maent yn cynnwys dynodydd yn unig fel bod y gweinydd yn gwybod ei fod wedi gweld yr ymwelydd hwnnw o’r blaen. 

Pa friwsion ydym yn eu defnyddio ar safle Caerdydd Creadigol?

Briwsion a osodir gan Caerdydd Creadigol
HAS_JS     | Hyd y sesiwn. Yn caniatáu i'r gweinydd wybod os all ddibynnu ar javascript. Wedi’i osod ar “1”; os oes gan y defnyddiwr javascript wedi’i alluogi gan ba bynnag dudalen y mae ymwelydd wedi glanio arni

Briwsion wedi’u gosod gan Google Analytics
 _GA | _GAT | _GID | Pob un o'r uchod: Hyd amrywiol: cymysgedd o friwsion sesiwn a “pharhaol”; sy’n para 30 munud, 6 mis, neu 1-2 flynedd. Olrhain defnydd o’r wefan yn ddienw.  Mae’r briwsion hyn wedi’u gosod neu eu diweddaru ar unrhyw dudalen yr ymwelir â hi. Cewch y manylion llawn yma. Mae llawer o friwsion wedi’u gosod ond yr un yw diben pob un ohonynt: i weld sut cyrhaeddodd pobl y safle a’i defnyddio, gan gynnwys termau chwilio a ddefnyddiwyd a safleoedd cyfeirio.

Briwsion wedi’u gosod gan Add This
_
atuvc, Uit, Ssh, Sshs, Ssc, Uid, Uvc, psc. Hyd: 1 mis – 2 flynedd. Olrhain y defnydd o ddolenni AddThis. Gellir gosod y briwsion a’u defnyddio ar wefannau eraill hefyd. Mae AddThis yn esbonio eu briwsion (briwsion olrhain dienw) yma ac yn cynnig mecanwaith gwrthod yma. Mae Clearspring, y cwmni sy’n darparu AddThis, yn berchen ar rai cwmnïau a meysydd eraill sy’n gysylltiedig â hysbysebu. Nid yw eu briwsion wedi cael eu gweld ar ein safle ond maent yn cynnwys xgraph.com ac xgraph.net.

 

Unrhyw drosglwyddiadau i drydydd gwledydd a’r mesurau diogelu sydd wedi’u gosod
Ni chaiff data ei drosglwyddo y tu allan i’r UE.

Am ba hyd y caiff eich gwybodaeth ei chadw?
Bydd Caerdydd creadigol yn cadw ac yn storio data personol yn ddiogel am gylch oes y prosiect.

Beth yw eich hawliau?
Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, cywiro unrhyw wallau, trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol ac, mewn rhai achosion, gwrthwynebu cael eich gwybodaeth bersonol wedi’i phrosesu. Ewch i dudalennau Gwybodaeth Diogelu Data Prifysgol ar y we i gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau.

Dylid cyflwyno unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau mewn ysgrifen i Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol:-

Y Swyddog Diogelu Data
Gwasanaethau sicrwydd
Adran Cynllunio Strategol a Llywodraethu
Prifysgol Caerdydd
Friary House
Heol y Brodyr Llwydion
Caerdydd
CF10 3AE
Ebost: Inforequest@caerdydd.ac.uk 
Ffôn: 02920 875466

Diogelwch eich gwybodaeth
Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch y data sy’n cael drosglwyddo i’n safle; caiff unrhyw drosglwyddiad ei wneud ar eich menter eich hun. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau llym a nodweddion diogelwch i atal mynediad heb awdurdod.

Sut i wneud cwyn
Os ydych yn anfodlon â’r modd y proseswyd eich data personol, yn y lle cyntaf, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.

Os byddwch yn parhau'n anfodlon, mae gennych hawl i wneud cais am benderfyniad yn uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: -

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth,
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Sir Gaer,
SK9 5AF

www.ico.org.uk.