Nigel Prince wedi'i benodi'n Gyfarwyddwr Artes Mundi

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 10 May 2019

Mae Nigel Prince, sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Gweithredol Oriel Celfyddyd Gyfoes (OCG) Vancouver, wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Arddangosfa a Gwobr Celfyddydau Gweledol Cyfoes Ryngwladol Artes Mundi. Bydd Prince, sydd wedi bod yn gweithio fel curadur rhyngwladol ers dros bum mlynedd ar hugain ac yn Gyfarwyddwr Gweithredol OCG ers 2011, yn ymgymryd â’r swydd ym mis Medi wrth i Artes Mundi ddechrau ar ei nawfed cylch.

Yn OCG mae wedi bod yn gyfrifol am gyfnod o dwf a datblygiad strategol heb ei debyg sydd wedi arwain at adfywio’r sefydliad yn gyfan gwbl gan gynnwys ehangu ei raglen arddangos; rheoli ei gasgliad; sefydlu cyfres gynhwysfawr o waith addysg drwy brosiectau ymestyn allan, rhaglenni cyhoeddus a chyfleoedd dysgu; estyniadau i’r oriel a denu ystod sylweddol ac amrywiol o gyllidwyr a chynulleidfaoedd newydd.

Yn ôl Nigel Prince:

Dw i wrth fy modd yn ymuno â’r tîm yn Artes Mundi. Dw i’n edrych ymlaen at ddatblygu prosiectau sydd â chysylltiadau lleol a pherthnasedd byd-eang yng Nghaerdydd a thu hwnt.

Fel sefydliad sy’n cyfuno arddangosfa a gwobr gelf eilflwydd o bwys yn y DU â rhaglen gydol y flwyddyn o ymestyn allan cyhoeddus a chymunedol, comisiynau ac arddangosfeydd ar y cyd, mae pwysigrwydd ei rôl wrth greu gofod i bobl ymgysylltu â materion hollbwysig ein hoes yn fwy angenrheidiol heddiw nag erioed.”

Cyn hynny bu’n Guradur yn Oriel Ikon, Birmingham (2004-2010) ac yn gweithio ar sefydlu Gofod Prosiectau Rhyngwladol hefyd yn Birmingham. Dechreuodd Prince ei yrfa yn Tate Lerpwl ac ochr yn ochr â gwaith curadu mae wedi dal sawl swydd academaidd ac ymchwil gan gynnwys Cyfarwyddwr Cyrsiau ym Mhrifysgol Dinas Birmingham (1997-2002). Mae ei waith gydag artistiaid cyfoes yn helaeth, yn eu plith Ryan Gander, Andrea Zittel, Donald Judd, Olafur Eliasson, Shahzia Sikander, Liz Magor, Steven Shearer ac Ayşe Erkmen yn ogystal â llawer o rai eraill ac mae’n cynnwys amrywiaeth fywiog o bartneriaethau â sefydliadau gan gynnwys Balet BC, Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes Birmingham ac amgueddfeydd ac orielau ar draws y byd. Yn ôl y beirniaid yn y Guardian/ Observer a The New York Times, roedd ei arddangosfa gyda’r artist o Giwba, Carmen Herrera, yn 2009 fel “darganfyddiad y degawd”. Mae Prince wedi ysgrifennu am gelfyddyd gyfoes i amrywiaeth eang o gyhoeddiadau a chylchgronau, gan gyfrannu’n fwyaf diweddar draethodau i fonograffau ar Lucy a Jorge Orta a Julia Dault.

Yn ôl Mathew Prichard CBE, Cadeirydd Artes Mundi:

Gwefr fawr i ni yw croesawu Nigel fel Cyfarwyddwr a Churadur Artes Mundi. Mae Nigel yn dod â thoreth o brofiad dros yrfa ryngwladol nodedig iawn ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at Nigel yn ein harwain i Artes Mundi 9 a thu hwnt.

Ers iddo fyw yng Nghanada, mae Prince wedi gwasanaethu fel aelod rheithgor ar sawl gwobr, gan gynnwys Gwobr Gelf Sobey (2019); Gwobr Sefydliad Hnatyshyn i Egin-guradur ac Egin-artist (2019); Gwobrau Celfyddydau Gweledol Sefydliad Hnatyshyn; Gwobr Paentio Canadaidd RBC (2012), ynghyd â mewn rholau ymgynghori ac eirioli gan gynnwys bod yn aelod sefydlu o Gyngor Polisi Celfyddydau a Diwylliant Dinas Vancouver. Yn y DU, bu’n gynghorydd ar y celfyddydau i Gyngor Celfyddydau Lloegr (1993-98) ac yn Gadeirydd i’r gynhadledd New Thinking in Public Art: Habitat, Community, Environment, Tate Prydain (2004). 

​Mae enwebiadau ar agor nawr ar gyfer #ArtesMundi9. Gall unrhyw un enwebu artist ac nid oes terfyn i'r nifer o enwebiadau y gallwch gyflwyno  - mwy o wybodaeth am y meini prawf yma. 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event