Porth cymunedol

Mae Caerdydd Creadigol a’r Porth Cymunedol wedi creu partneriaeth newydd a chyffrous ar gyfer 2020.

Drwy’r bartneriaeth hon, nod Caerdydd Creadigol yw codi ymwybyddiaeth o waith y Porth Cymunedol, cysylltu mwy o bobl greadigol â’r prosiect, ac annog mwy o drigolion Grangetown i ddangos diddordeb yng ngwaith Caerdydd Creadigol.

Mae’r Porth Cymunedol yn rhaglen ymgysylltu gan Brifysgol Caerdydd sy’n trefnu partneriaethau rhwng y Brifysgol a’r gymuned yn Grangetown. Mae wedi lansio dros 48 o brosiectau cymunedol-prifysgol, gan greu cysylltiadau rhwng staff a myfyrwyr y Brifysgol a thrigolion Grangetown i helpu i wireddu syniadau dan arweiniad y gymuned. Ailddatblygu Pafiliwn Grange o fod yn hen bafiliwn bowlio i greu man cymunedol i drigolion lleol yw un o’r prosiectau hyn. Cewch wybod rhagor am Bafiliwn Grange yma.

 

I nodi a dathlu achlysur ailagor Pafiliwn Grange, bydd Caerdydd Creadigol a’r Porth Cymunedol yn cydweithio i adrodd hanes y Pafiliwn. 

Bydd Caerdydd Creadigol yn dathlu’r daith hon drwy amlygu detholiad o hanesion personol gan drigolion Grangetown. Bydd y rhain yn dod yn fyw fel gwaith celf gyda chymorth cymuned greadigol Caerdydd. Rydym ni wedi comisynu darlunydd o'r enw Jack Skivens i adrodd y stori drwy greu poster arbennig. Byddwn yn cyhoeddi'r poster yn yr wythnosau nesaf. 

Bydd Caerdydd Creadigol yn cydweithio â’r Porth Cymunedol mewn sawl ffordd arall hefyd gan gynnwys drwy gyd-gynnal a hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol 2020.

Byddwn yn rhannu’r newyddion diweddaraf drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (Twitter, Facebook, Instagram a LinkedIn) ac mewn erthyglau a blogiau ar y dudalen hon, ond mae croeso i chi gysylltu os hoffech wybod rhagor neu gymryd rhan.