Prifddinas Ewropeaidd ifanc a bywiog

Bychan, byrlymus a bywiog; mae Caerdydd yn llawn amrywiaeth ac yn ffynnu fel prifddinas Cymru. Dyma leoliad llywodraeth ddatganoledig Cymru, prif ganolfan fasnachol y wlad, a chartref ei chyfryngau cenedlaethol. Dinas lewyrchus yw Caerdydd, sydd wedi’i haileni i’r mileniwm newydd yn sgil cyfres o fuddsoddiadau mawr ôl-ddiwydiannol yn ei hisadeiledd, gan gynnwys Bae Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru, a Mecca ein gêm genedlaethol (rygbi), Stadiwm y Mileniwm.

 

Gyda phoblogaeth o 350,000 (a rhanbarth ddinesig ehangach o 1.4m o bobl – bron i hanner cyfanswm poblogaeth Cymru), mae hefyd yn un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain. Disgwylir twf pellach o 26% yn yr ugain mlynedd nesaf.

 

Lle cyfeillgar yw Caerdydd, yn croesawu newydd-ddyfodiaid a ddenir yma gan y costau byw isel, cyfraddau cyflogaeth uchel, ac ansawdd bywyd gwych. Dyma’r brifddinas Ewropeaidd agosaf at Lundain (dwy awr ar y trên) ac mae dau faes awyr rhyngwladol o fewn llai nag awr iddi, sy’n agor y ddinas i’r byd. Saif mewn lleoliad braf ar lannau de-ddwyrain Cymru, lai nag awr i ffwrdd o olygfeydd bendigedig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Oherwydd hyn i gyd, a’r ffaith fod gan Gaerdydd fwy o lefydd gwyrdd i bob trigolyn nag unrhyw un arall o ddinasoedd craidd y Deyrnas Unedig, cafodd gydnabyddiaeth fel y lle gorau i fyw ym Mhrydain.

 

Er bod ei gwreiddiau’n dyddio’n ôl i oes cyn y Rhufeiniaid, a gododd ei chastell (a gafodd sawl ychwanegiad diweddarach), dim ond tref farchnad fechan oedd Caerdydd nes y 19eg ganrif, pryd y tyfodd ei maint a’i hamlygrwydd yn gyflym iawn diolch i’r ‘aur du’. Yn sgil diwydiannu ac allforio glo, erbyn dechrau’r 20fed ganrif roedd mwy o draffig yn mynd trwy ddociau Caerdydd na thrwy Efrog Newydd. Eitha’ da, i dref oedd yn gartref i ddim ond 6,000 o drigolion gwta ganrif ynghynt!

 

Fel yr allforiodd Caerdydd ddeunyddiau crai, felly hefyd y mewnforiodd bobl, a chynifer yn cyrraedd drwy’r porthladd ag o’r bryniau. Yn ardaloedd dociau Butetown a Tiger Bay ceid un o’r cymdogaethau amlddiwylliannol hynaf ym Mhrydain, â cynrychiolaeth o 45 o wahanol genhedloedd yn byw yn y rhesi tai cyfyng, gan gynnwys rhai o’r cymunedau Yemeni a Somali cyntaf ym Mhrydain. Mae’r cymunedau hyn wedi cyfoethogi’r amrywiaeth diwylliant sydd ar gael yn y ddinas ac yn dyst i’w gallu i oresgyn ffiniau yn ei gweledigaeth greadigol.

 

Bellach mae Caerdydd yn bair lle mae gwahanol ddiwylliannau’n cymysgu, a siaredir 94 o ieithoedd ar draws y ddinas. Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn rhannu statws swyddogol a chydradd, ac mae 11% o bobl Caerdydd erbyn hyn yn siarad Cymraeg, canran a fydd yn tyfu wrth i niferoedd cynyddol o blant ddysgu’r iaith yn yr ysgol fel rhan greiddiol o’r cwricwlwm. Beth bynnag fo’r famiaith, mae’r acen leol arbennig yn aros yr un fath. We calls it Kairrdiff, see.

 

Gwnaeth Caerdydd ei marc ar y byd mewn sawl ffordd. Ymhlith plant enwog Caerdydd mae’r cyfansoddwr a’r actor o fri, Ivor Novello, un o sêr mwyaf poblogaidd Prydain ddechrau’r ganrif ddiwethaf, yn ogystal â’r awdur hynod lwyddiannus a ffefryn gan blant o bob oed, Roald Dahl. Er nad yw’r enw’n cael ei arddel bellach, gwaetha’r modd, mae Tiger Bay efallai’n fwyaf enwog fel man geni’r gantores Dame Shirley Bassey, a roddodd anfarwoldeb i’w chartref yn y gân ‘The Girl from Tiger Bay’.


Ym 1955 gwnaed Caerdydd yn brifddinas Cymru, ond yn ail hanner yr 20fed ganrif roedd hi’n anodd i’r ddinas ganfod ei llais yn y tirlun ôl-ddiwydiannol. Erbyn heddiw mae yma gyffro ac ymdeimlad cryf o fwrlwm, a hynny’n rhannol oherwydd llwyddiant cynyddol yr economi greadigol yn y ddinas.

 

Fffoto - Flickr Fred

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event