Sylfaenwyr

Rydym wedi gofyn i grŵp dethol o sefydliadau weithio gyda ni i sefydlu Caerdydd Creadigol. Ochr yn ochr â’n haelodau, bydd y sefydliadau hyn yn ein helpu i lunio ein cynlluniau i’r dyfodol.

Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am ein helpu i lansio’r rhwydwaith er budd economi greadigol y ddinas. 

Cyngor Dinas Caerdydd

Gweledigaeth Cyngor y Ddinas yw i Gaerdydd fod yn brifddinas orau i fyw ynddi yn Ewrop - yn lle gwych i weithio, i ymweld, i astudio a rhedeg busnes; yn lle y mae pobl wrth eu bodd yn byw yno; ac yn ddinas sy’n cynnig cyfle i bawb, ni waeth beth yw eu cefndir. Mae’r dystiolaeth o ddinasoedd llwyddiannus ar draws y byd yn helaeth – caiff doniau a buddsoddiadau eu denu i ddinasoedd sy’n cynnig ansawdd bywyd da, ynghyd â chyfleoedd i gael swydd o ansawdd. Dyna pam y mae Cyngor Dinas Caerdydd yn rhoi ‘bod yn lle da i fyw’ yng nghanol ein strategaeth hirdymor ar gyfer Caerdydd ac ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn deall gwerth a chyfraniad sylweddol y diwydiannau creadigol a’r economi greadigol ehangach i’n dinas a’n rhanbarth. Rydym hefyd yn gweld y potensial y mae’r economi greadigol yn ei gynnig ar gyfer ein dyfodol o ran y ffordd yr ydym yn gweithio, yn byw ac yn hyrwyddo ein dinas. Am y rhesymau hyn, rydym yn falch iawn o gefnogi Caerdydd Creadigol - rhwydwaith a fydd yn cefnogi, yn ymgysylltu ac yn galluogi economi greadigol y ddinas yn awr ac i’r dyfodol.

Visit Cardiff Council

BBC Cymru Wales

BBC Cymru yw darlledwr y genedl, yn darparu ystod eang o gynnwys Cymraeg a Saesneg ar y teledu, radio ac ar-lein i gynulleidfaoedd ledled Cymru, yn ogystal â chynnwys blaenllaw ar gyfer y rhwydwaith, gan gynnwys rhaglenni fel Doctor Who a Casualty. Mae ganddi drosiant o tua £150 miliwn y flwyddyn ac mae’n cyflogi tua 1,200 o bobl ar draws Cymru.

Mae BBC Cymru yn un o aelodau sefydlu Caerdydd Creadigol mewn cydnabyddiaeth o’r rôl bwysig y mae’r darlledwr yn ei chwarae yn economi greadigol y ddinas-ranbarth a’r rôl bwysig y mae’r economi greadigol yn ei chwarae yn llwyddiant BBC Cymru. Mae’n gweld Caerdydd Creadigol fel ffordd o ddyfnhau ei chysylltiadau ar draws y sector creadigol, gan ei helpu i wneud cysylltiadau newydd a chyflwyno syniadau ffres a ffyrdd newydd o feddwl. Mae hefyd yn gweld Caerdydd Creadigol fel cyfle i godi ymwybyddiaeth o gryfder diwydiannau creadigol y ddinas-ranbarth, gan sicrhau bod busnesau a doniau creadigol fel ei gilydd yn ei ystyried yn lle y gallant ffynnu ynddo.

 

Visit BBC Cymru

Canolfan y Mileniwm

Mae Canolfan y Mileniwm yn sefydliad creadigol blaenllaw sy’n chwarae rhan bwysig i ddarparu a sicrhau mynediad i’r celfyddydau a chreadigrwydd yng Nghymru. Mae’r ganolfan hardd hon sy’n un o atyniadau diwylliannol gorau’r DU yn croesawu dros 1.5 miliwn o ymwelwyr a deiliaid tocynnau bob blwyddyn, ac mae’n gartref i wyth partner preswyl; mae’n rhoi llwyfan i sioeau cerdd, opera, bale, syrcas a dawns gyfoes ochr yn ochr â rhaglen fwyaf y DU o berfformiadau am ddim. Gyda’r nod o fod yn wir ffwrnais awen (ysbrydoliaeth) yn unol â’i harysgrif byd enwog, mae’r Ganolfan wedi ymrwymo i weithio gyda phobl o bob oedran yn ei chymuned amrywiol.

 

Mae’r economi greadigol yn fyw iawn yng Nghymru gyda’r wlad gyfan yn elwa o’i llwyddiant. Fe wnaeth y Ganolfan ar ei phen ei hun gynhyrchu £78,000,000 i economi Cymru yn ystod y flwyddyn hyd at fis Ebrill 2015. Mae Caerdydd mewn sefyllfa unigryw i fod yn un o brifddinasoedd creadigol arweiniol Ewrop ac mae Caerdydd Creadigol yn dwyn ynghyd ystod eang o bartneriaid y ddinas gyda chylch gwaith i feithrin cysylltiadau agosach, rhannu syniadau a’r arferion gorau a chael ein hysbrydoli gan y cyfleoedd aruthrol sydd ar gael inni. Mae’r Ganolfan yn falch iawn o fod yn aelod sefydlu o Caerdydd Creadigol.

 

Mae Caerdydd Creadigol yn cael ei weinyddu a’i reoli gan Brifysgol Caerdydd ar ran ei aelodau.

Visit Canolfan y Mileniwm

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event