Caerdydd Creadigol Mewn Sgwrs gyda Chymru Greadigol

17/04/2020 - 11:00
Ar-lein
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Ymunwch â Chaerdydd Creadigol ar gyfer cyfres o sesiynau holi ac ateb rhwng Cyfarwyddwr Caerdydd Creadigol, Sara Pepper, ac arweinwyr sefydliadau y sector creadigol yn y ddinas.

Nod Caerdydd Creadigol yw cysylltu’r gymuned greadigol yn well, amlygu cyfleoedd a rhoi llais i’r sector. Rydym yn credu bod hyn yn bwysicach nawr nag erioed.

Mae hwn yn gyfle i gael rhagor o wybodaeth am y sefydliadau hyn a’r cyfleoedd sydd ar gael i weithwyr creadigol yn ystod y cyfnod hwn a chyfle i chi ofyn y cwestiynau sydd ar eich meddwl.

Bydd y cyntaf yn y gyfres yn sgwrs gyda Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol, Gerwyn Evans. 

Dyddiad: 17 Ebrill 2020

Amser: 10am

Cyfwelai: Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol

Anfonwch eich cwestiynau drwy ebost. Nodwch yn yr ebost a hoffech i ni ddweud mai cwestiwn gennych chi yw hwn yn ystod y cyfweliad, neu a ydych am barhau’n ddienw. Byddem yn coladu’r 10 cwestiwn mwyaf cyffredin a’u gofyn i’n cyfwelai.

Gwyliwch y sesiwn ar-lein YN FYW AR EIN GWEFAN am 10am ar fore dydd Gwener. 

Anfonwch eich cwestiwn am gronfeydd arian Cymru Greadigol ar gyfer gweithwyr creadigol yn ystod COVID-19. 

GWYLIWCH YMA