Flossy & Boo yw cwmni theatr Anja Conti (Flossy) a Laura Jeffs (Boo), sy'n creu theatr ryngweithiol arloesol sy'n edrych ar y byd mewn ffordd anghonfensiynol. Maen nhw ar hyn o bryd yng Ngŵyl Ymylol Caeredin gyda'i sioe theatr i'r teulu, Ned and the Whale. ​

A allwch chi ddweud wrthym beth rydych chi’n ei wneud?

Mae Flossy and Boo yn gwmni theatr a arweinir gan fenywod wedi’i leoli yng Nghaerdydd a Phontypridd. 
Rydym ni’n artistiaid preswyl ar hyn o bryd yn Theatrau Rhondda Cynon Taf yn y cymoedd. 

Yn 2014, ffurfiwyd Flossy and Boo gyda’r nod a’r weledigaeth o greu gwaith arloesol sy’n edrych ar y byd o safbwynt anghonfensiynol. Ar ôl bod gyda’n gilydd am ychydig flynyddoedd yn unig, rydym wedi datblygu ein portffolio o waith i gynnwys; cabare, theatr dan do, theatr awyr agored, theatr stryd, actau cerdded o gwmpas ac amgylcheddau rhyngweithiol yr ymgollir ynddynt ar gyfer gwyliau yn bennaf. Yr hyn sy’n ganolog i’n gwaith yw rhyngweithio â’n cynulleidfa, ac mae pleser (a pherygl!) gofyn i bobl gymryd rhan yn hytrach na gwylio yn unig yn ein cadw ni’n effro a’n gwaith yn fyw. Mae hyn, yn ei dro, yn sicrhau ein bod yn ymatebol iawn i’r amgylcheddau rydym yn byw ac yn gweithio ynddynt.
Mae ein gwaith wedi ein galluogi i deithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan ennill adolygiadau pedair a phum seren ar y ffordd; o Ŵyl Limburg yn yr Iseldiroedd, bod yn brif act ar lwyfan Mavericks yn Glastonbury, i berfformio yng Ngŵyl Caeredin a hyrwyddo gwaith a wnaed yng Nghymru. 

Pam rydych chi wedi dewis gweithio yng Nghaerdydd? 

Y prif reswm y dechreuon ni weithio yng Nghaerdydd oedd oherwydd y cyffro a oedd yn gysylltiedig â’r cwmnïau llai a oedd yn dod o Gymru. Hyfforddodd Laura yng Nghaerdydd ac fe fwynhaodd y profiad cymaint fel bod Cymru wedi ei mabwysiadu hi. Mae Anja yn dod o orllewin Cymru yn wreiddiol ac er nad oedd hi wedi hyfforddi yng Nghaerdydd, penderfynodd roi cynnig ar y ddinas fawr. Mae hi wedi ymgartrefu yng nghymuned Grangetown yn dda iawn. Mae’r ddwy ohonom yn hoffi’r ffaith ein bod ni’n gallu gwneud gwaith yng Nghaerdydd ac yn y cymoedd. Mae ein gwaith yn ffynnu yn y cymysgedd hwn o ddiwylliannau ac amrywiaeth. Yn rhy aml, mae’r dinasoedd mawr yn cipio’r sylw, ond rydym ni wedi gweld bod y Ddinas a’r Cymoedd gyda’i gilydd yn creu gwaith gwell sy’n canolbwyntio ar y gynulleidfa. Mae’n fraint ac yn gyffrous i ni chwifio baner Theatrau Rhondda Cynon Taf ledled y byd. Rydym ni’n falch o’n gwreiddiau yn y ddinas a’r cymoedd. 

Beth sy’n eich ysbrydoli chi am fod yma?

Mae nifer o heriau yn eich wynebu a chyfleoedd ar gael i chi yng Nghaerdydd. Mae pawb yn y celfyddydau yn adnabod pawb, yn yr un modd â bod gartref yng ngorllewin Cymru, ond rydych chi’n cael platfform mwy i berfformio arno. Mae’r amrywiaeth yn Grangetown, Bae Caerdydd a’r ardaloedd amgylchynol yn helpu i wreiddio ein gwaith. Rydym ni’n gallu cerdded i ymarferion yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a’r diwrnod nesaf bod yn gweithio mewn gardd yn Grangetown i fod gyda chynulleidfa yn yr ystafell ymarfer yn y Cymoedd. Mae amrywiaeth yn rhywbeth sy’n cadw ein gwaith yn fyw. Rydym ni’n falch iawn o fod wedi dod trwy broses ddethol Gŵyl Blysh, nad yw’n cael ei chynnal mwyach yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, gwaetha’r modd. 

Pa heriau sydd wedi eich wynebu wrth weithio yng Nghaerdydd? 

Rydym ni wedi canfod bod gwneud eich gwaith eich hun yng Nghaerdydd yn rhoi mwy o bleser na bod yn actorion sy’n gweithio’n achlysurol. Roeddem ni eisiau gwthio ffiniau ein gwaith a theithio i wyliau a chyrraedd cymunedau mwy o faint. Mae’n gallu bod yn eithaf brawychus pan fyddwch chi’n newydd i Gaerdydd. Yn unig weithiau. Rydym ni’n teimlo y gellid gwneud mwy i gysylltu artistiaid yn syth allan o’r Brifysgol neu’r Ysgol Ddrama i weithio yn y diwydiant, sy’n rhywbeth rydym ni’n ymdrechu’n galed i’w wneud gyda’n gwaith ni. Mae cyllid yn her arall. Os ydych chi’n newydd i’r diwydiant, mae’n gallu teimlo fel maes eithriadol o anodd. Yn ffodus, rydym ni wedi cael cymorth rhai unigolion a chwmnïau rhyfeddol ar hyd y ffordd. Mae’n werth nodi’r cymorth rydym ni wedi’i gael gan y Cyngor Celfyddydau; maen nhw bob amser wedi bod yn barod iawn i glywed ein syniadau a hyrwyddo ein gwaith. Heb gymuned, rhwydweithiau, cyllid a chymorth, gallwch deimlo fel petaech chi ar goll, a gobeithiwn y bydd mwy o theatrau’n agor eu drysau, yn union fel Theatrau Rhondda Cynon Taf, Canolfan Mileniwm Cymru a Chanolfan Celfyddydau Pontardawe. 

I ba raddau ydych chi’n credu bod Caerdydd wedi llwyddo i’w gwneud ei hun yn brifddinas greadigol, yn enwedig yn eich maes gwaith chi? 

Mae Caerdydd wedi cynnal rhai digwyddiadau gwych ac, ar y cyfan, mae’n dathlu gwaith artistiaid ar sawl cam o’u gyrfaoedd. O Wyliau Bayside a phrosiectau cymunedol enfawr i waith rhyfeddol The Other Room, gallwn weld dyfnder y doniau sy’n dod allan o Gymru. Teimlwn y gallwn fynd i Ŵyl Caeredin yn llawn hyder eleni gyda Ned and the Whale gan fod cynulleidfaoedd a threfnwyr eisoes wedi mynegi diddordeb, ac mae llawer o hynny’n deillio o’r safonau uchel maen nhw’n eu disgwyl gan waith a wnaed yng Nghymru. 

Yn eich barn chi, pa dri pheth y mae angen iddyn nhw ddigwydd i wneud Caerdydd yn ddinas fwy creadigol? 

Mae angen i ni agor posibiliadau o fwy o theatr stryd a charnifalau ledled canol y ddinas. Mwy o gyfleoedd i artistiaid gyfarfod, nid dim ond mewn adeiladau crand ond mewn cymunedau i gael gwybod beth yn union y mae pobl eisiau iddo ddigwydd nesaf. Mae angen i ni weld theatr addas i deuluoedd yn cael ei datblygu a’i chefnogi, a mynediad i’r celfyddydau mewn ysgolion a phrosiectau ieuenctid. Credwn fod angen cymorth ar y genhedlaeth nesaf yn awr er mwyn i ni symud ymlaen a newid a datblygu ein syniadau diwylliannol ac economaidd. 

Beth ydych chi’n credu y dylai Caerdydd Greadigol geisio ei gyflawni? 

Rhannu mwy am yr hyn rydych chi’n ceisio ei gyflawni, a’i weiddi nerth eich pen, gan nad yw llawer o bobl yn gwybod beth rydych chi’n dymuno ei wneud. 

Beth sy’n dod nesaf i chi? Pa brosiectau sydd ar y gweill? Pa syniadau newydd ydych chi’n gweithio arnyn nhw?

Fel bob amser yma ym mhencadlys Flossy and Boo, dydyn ni ddim yn hoffi gwneud pethau’n rhwydd i’n hunain. Rydym ni’n mynd â’n sioe i Ŵyl Caeredin, gan chwifio’r faner i ddangos “Dyma yw Cymru”. Rydym ni’n gyffrous iawn i fynd â Ned and the Whale i’r “Space Tent” yn Neuadd Symposiwm, Lleoliad 43. Mae’n lleoliad trawiadol gan ei fod yn Babell Gloch yng nghanol bwrlwm y Ddinas. Ardal dawel yn yr Ŵyl. Trwy Ned and the Whale, gobeithiwn y bydd ein cynulleidfaoedd yn gallu mynd ymlaen i drafod ‘y cefnfor plastig’ a gofalu am ein hamgylchedd. Mae wedi’i argymell ar gyfer pobl 3+ oed, ond mae croeso i bawb gan fod babanod 6 mis oed a neiniau wedi ei weld hefyd ac wedi dwlu arno am resymau gwahanol. Mae’n llawn cerddoriaeth a chomedi a llawer o gymeriadau gwych. Rydym hefyd yn falch iawn o fod yn cynnig pedwar perfformiad hamddenol eleni ar 10, 11, 17 a 18 Awst ar adeg y dangosiadau 11am. Gall unrhyw un a hoffai i bethau gael eu trefnu ar eu cyfer er mwyn iddyn nhw allu mwynhau’r sioe anfon neges e-bost atom o flaen llaw os ydyn nhw’n dymuno. Fel arall, mae’r sioeau hyn wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer perfformiadau hamddenol. 

Byddwn yn parhau i greu a datblygu theatr sy’n addas i deuluoedd a helpu eraill i gael mynediad i’r celfyddydau. Prosiect sy’n bwysig iawn i ni yw The Ramshackle’s Brilliant Adventure. Mae’r sioe hon yn edrych ar drefniadau teuluol annhraddodiadol ac mae wedi bod yn cael ei datblygu ers deufis. Rydym ni’n gobeithio sicrhau cyllid i’w datblygu a mynd â hi ar daith yn rhyngwladol. Mae gennym ni hefyd sioe o’r enw The Girl Who Couldn’t Pretend, sef sioe sydd, yn ei hanfod, yn ein hannog i ganolbwyntio ar ein dychymyg a’n helpu i weld y byd mewn ffordd wahanol. Rydym ni bob amser yn chwilio am gyllid a chefnogwyr i’n gwaith, felly os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn helpu, cysylltwch ar bob cyfrif. 

Tocynnau ar gyfer Ned yng Nghaeredin: 
https://tickets.edfringe.com/whats-on/ned-and-the-whale

Fideo amdanom ni:
https://youtu.be/QMPzdd7w5Rs

Fideo Ned and the Whale:
https://youtu.be/N8shceMpkfM

Share