Creadigrwydd dan glo: adlewyrchiad ar Ein Caerdydd creadigol

Dr Jenny Kidd o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant sy'n adlewyrchu ar brosiect Ein Caerdydd creadigol. 

 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 26 September 2020

Roedd profiadau gwahanol y cyfranwyr yn ystod pandemig COVID-19 bob amser yn mynd i ddylanwadu ar fenter Ein Caerdydd Canolog 2020, fel proses ac fel cyfanwaith. Dyma, wedi’r cyfan, oedd y cyd-destun eithriadol y dechreuodd y prosiect ynddo.  

Pan wnaethom gwrdd fel grŵp am y tro cyntaf ar ddechrau mis Mehefin, Doodle of person on a trapezegwnaethom siarad am yr ansicrwydd roeddem yn ei wynebu a pha mor ddwys oedd ein profiadau o’r cyfyngiadau symud. Roedd edrych ar bedair wal yn effeithio arnom (roedd 11 wythnos wedi mynd heibio erbyn hyn), ac i sawl un yn y grŵp roedd gwaith creadigol â thâl wedi diflannu bron i gyd. Wrth gyfeirio at y cyfyngiadau symud a’r absenoldeb cysylltiedig, gwelwyd bod pawb yn rhannu rhyw fath o dorcalon.  

Er hyn roedd hefyd yn amlwg bod pawb yn awyddus i greu. Roedd Ein Caerdydd Creadigol yn wahoddiad i fyfyrio, ailgysylltu, herio, rhannu a chyflawni. Cydnabyddwyd potensial creadigrwydd a’i allu i dawelu’r dyfroedd. Gwelwyd grym y prosiect pan nododd un aelod o’r grŵp y byddai’r profiad yn ‘achubiaeth’ a phan nododd un arall y byddai’n gyfle ‘cathartig’. Dywedodd pawb yn y cyfarfod eu bod am deimlo cysylltiad drwy’r fenter. Gobeithiwyd y byddai’n hau ymdeimlad cryf o berthyn a gofalu am ein gilydd, ac mae’r themâu hyn wrth gwrs i’w gweld mewn cryn dipyn o’r gwaith sydd wedi’i greu o ganlyniad.  

Erbyn inni gwrdd fis yn ddiweddarach roedd llawer o bethau wedi newid. Doodle of person on a trapezeRoedd y cyfyngiadau symud yn dechrau cael eu llacio, ond sylweddolwyd hefyd, fel y dywedodd un o’r unigolion, fod ‘popeth wedi newid’, yn sgil y pandemig. Roeddem yn byw ‘normal newydd’ ansefydlog iawn ac anodd ei ddeall. Wrth i bobl ddechrau fyfyrio ar y broses o greu ar gyfer y prosiect hwn, daeth yn amlwg bod y cyfyngiadau symud wedi effeithio ar bopeth, er nad oedd hyn bob amser yn negyddol.  

I rai cyfranwyr, roedd creu darn yn canolbwyntio ar y ddinas a’i chymuned greadigol yn gyfle i gamu’n ôl a’i gweld o’r newydd. Yn y cyd-destun roedd hyn yn ‘rhyfedd’ ac yn heriol am sawl rheswm, yn enwedig am fod cynifer o leoedd a oedd yn rhan ganolog o fywydau’r bobl, fel canolfannau celfyddydol, ar gau, a’i bod hi’n anodd cael gafael ar gyflenwyr fel gwneuthurwyr tecstiliau. Bu’n rhaid goresgyn yr heriau hyn ond nid oedd hynny’n beth drwg, oherwydd gwnaeth ein hannog i chwarae ac ailddarganfod. Bu’r broses hon o ailddarganfod yn un emosiynol i rai cyfranwyr, a berodd syndod, gan hyd yn oed fod yn drech na nhw. Yn ystod y cyfyngiadau symud rhoddwyd ystyr newydd i fannau a lleoedd, a gwelwn y themâu hyn yn cael eu trafod mewn sawl darn; beth y gellid ei wneud gyda nhw ac ynddynt, ac roedd y ffordd y gwnaethant gysylltu  – yn ddigidol yn aml  – â’r mannau a’r lleoedd a ddefnyddiwyd gan eraill yn ysbrydoliaeth ynddo’i hun.  

Mae amgylchiadau 2020 wedi creu hinsawdd lle mae bod yn ‘ystwyth’, yn ‘wydn’ ac yn barod i ‘ymaddasu’ yn bethau cadarnhaol. Doodle of person on a trapezeOnd mae’r rhain yn cael effaith ac, mewn sawl ffordd, maent yn ein dihysbyddu’n emosiynol, yn gorfforol ac yn greadigol. Fel y nodwyd uchod, mae llawer o fannau creadigol a rennir yn dal i fod ar gau, ac mae cydweithio mewn ffordd ddigidol yn debygol o barhau i fod yn bwysig, ond nododd rhai o’r unigolion creadigol y gallai mynd ati i greu gwaith creadigol drwy gyfarfodydd ar-lein fod yn flinedig iawn. Mae bod yn greadigol yn anodd iawn beth bynnag, ond roedd yn ymddangos yn arbennig o wir yn ystod y pandemig. Nododd rhai fod y broses wedi gwneud iddynt feddwl gormod, ac roedd ochr gorfforol y gwaith creadigol wedi arwain at lygaid a chefnau tost i eraill.  

Siaradodd un o’r cyfranwyr am ‘flinder creadigol’, gydag eraill yn uniaethu â hynny; teimlad bod y cyfyngiadau symud wedi arwain at fatris fflat. Roedd yn drawiadol i lawer ofyn am fewnbwn neu gymorth gan y grŵp a’r tîm y tu hwnt i gyfleoedd fframwaith y prosiect. Roedd y fath gysylltu yn rhan bwysig o’r broses, ac roedd yn amlwg bod pawb yn ymddiddori yn ei gilydd.  

Y peth mwyaf trawiadol am y grŵp a’r hyn a gynhyrchwyd efallai yw’r amrywiaeth o safbwyntiau, arferion a mathau o gelfyddyd a welwyd. Mae hyn yn adlewyrchu amrywiaeth sîn greadigol Caerdydd, yn ogystal â’i hadnoddau ieithyddol a’i threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog. I rai o’r cyfranwyr roedd yr amrywiaeth honno ei hun yn elfen bwysig o’r stori roeddent am ei hadrodd; ymgais i rannu straeon a threftadaeth gudd, i roi llais iddynt a dod â nhw’n fyw. Er ein bod yn cyflwyno’r prosiectau hyn ar wal ddigidol, mae elfen gyffyrddadwy yn perthyn i lawer o’r allbynnau a chaiff hynny ei ddatblygu a’i animeiddio mewn cyd-destunau eraill maes o law hefyd, fel Carnifal Trebiwt er enghraifft.  

Mae wal straeon Ein Caerdydd Creadigol 2020 yn rhoi cipolwg diddorol ar gymuned greadigol Caerdydd. Mae’r Doodle of person catching another person on a trapezebroses, a’r allbynnau, wedi esgor ar gysgodion, absenoldebau a galar, ond hefyd gwelwyd goleuni, gobaith a gwellhad. Mae wedi dangos yn glir y gall y gymuned hon, ac fel rhan o hynny dîm Caerdydd Creadigol, feithrin, cysylltu a grymuso. Gall wneud i bethau ddigwydd, a hynny weithiau ar yr adegau anoddaf.  

Jenny Kidd's Our creative Cardiff themes

Disgrifiad clywedol wedi'i ddarllen gan Dr Jenny Kidd:  

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event