Enillydd cyntaf y Wobr Awdur Preswyl Cymru yw'r sgwennwr llawrydd, Rhiannon Boyle. Mae'r wobr, a chaiff ei chefnogi gan y BBC a National Theatre Wales, yn golygu bwrsari o £12,000, cyfleoedd gyda'r BBC a National Theatre Wales a chomisiynu sgript mewn i ddrama ar gyfer BBC Radio 4 neu BBC Sounds. Fe siaradon ni gyda'r awdur yn dilyn ei buddugoliaeth er mwyn trafod heriau nafigeiddio gyrfa sgwennu lawrydd yng Nghaerdydd a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.Dywedwch wrthym ychydig am yr hyn rydych yn ei wneud? Rwy’n awdur llawrydd. Rwy’n ysgrifennu ar draws pob platfform – teledu, sain a theatr. Cefais fy enwi’n Awdur Preswyl Cymru yn ddiweddar, sy’n golygu cyfnod hyfforddi o chwe mis yn y BBC a chwe mis yn Theatr Genedlaethol Cymru. Mae rhan o fy ngwobr yn cynnwys comisiwn ar gyfer drama sain ar BBC Radio 4, a fydd yn cael ei darlledu ym mis Awst, yn ogystal â datblygu drama theatr newydd sbon.Pam rydych chi wedi dewis gweithio yng Nghaerdydd? Des i Gaerdydd ym 1996, i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac ni adawais i. Rwy’n caru Caerdydd. Ni fyddwn i erioed eisiau byw yn rhywle arall. Gan fy mod i’n dod o dref fach iawn ar Ynys Môn, mae’n cŵl gweld bod fy merched yn tyfu’n hŷn fel merched y ddinas. Mae cymaint o bethau llawn hwyl yn digwydd yma – theatr, cerddoriaeth, bwyd, gwyliau a chelf. Caerdydd yw’r lle mwyaf cŵl i fyw. Dyna’i diwedd hi. Heblaw efallai am y glaw.Pa heriau sydd wedi eich wynebu wrth weithio yng Nghaerdydd?Rhois i’r gorau i fy ngyrfa addysgu bum mlynedd yn ôl i ddod yn awdur, ac mae wedi bod yn anodd ar adegau. Pan oeddwn i’n ceisio llunio fy nrama theatr gyntaf ychydig flynyddoedd yn ôl, cefais fy ngwrthod sawl tro. Yn bennaf oherwydd fy mod i’n newydd ac yn cael fy ystyried yn ‘risg.’ Ond os nad ydym yn cymryd risgiau, sut mae disgwyl i ni yma yng Nghymru gystadlu ar lwyfan byd-eang? Sut rydym ni byth yn mynd i greu unrhyw beth newydd neu arloesol? ‘Does bosib bod chwarae’n ddiogel yn ddiflas. Felly mae dechrau arni wedi bod yn anodd am wn i. Cael pobl i eistedd, gwrando arnaf a’m hystyried o ddifrif.I ba raddau rydych chi’n credu bod Caerdydd wedi llwyddo i’w gwneud ei hun yn brifddinas greadigol, yn enwedig yn eich maes gwaith chi? Mae cymaint o bobl greadigol yn cynhyrchu cymaint o waith gwych yma yn ein prifddinas – o leoliadau bach megis The Other Room i gwmnïau theatr ysgrifennu newydd fel Dirty Protest. Mae rhai o’r sefydliadau mwy megis Theatr Sherman hefyd yn cynhyrchu ac yn rhaglennu rhai dramâu gwych.Mae pethau cyffrous iawn yn digwydd yn y BBC hefyd, gyda Stiwdios y BBC yn chwilio am awduron a mentrau newydd megis cynllun Lleisiau Cyflym y BBC sy’n cefnogi ac yn meithrin dawn yma yng Nghaerdydd. Mae hefyd yn gyfnod gwych ar gyfer dramâu sain. Mae dramâu ar gyfer podlediadau wedi dod yn farchnad ryngwladol mor enfawr, ac mae llawer o'r dramâu sain hyn yn cael eu cynhyrchu yma yng Nghaerdydd, yn BBC Cymru.Yn eich barn chi, pa dri pheth y mae angen iddyn nhw ddigwydd i wneud Caerdydd yn ddinas fwy creadigol? 1. Dylid cefnogi busnesau creadigol heb iddynt gael eu gorlethu â chyfraddau a rhent uchel.2. Mwy o fannau creadigol i artistiaid llawrydd weithio a chyfarfod.3. Mae angen paentio’r holl oleuadau traffig gyda golau gwyrdd = wyneb hapus, golau melyn = wyneb gwag, golau coch = wyneb trist.Beth rydych chi’n credu y dylai Caerdydd Greadigol geisio ei gyflawni? Cysylltu artistiaid. Cefnogi artistiaid. Cynnal digwyddiadau penodol a fydd yn caniatáu rhwydweithio mewn mannau penodol.Beth yw eich hoff fan creadigol i weithio yng Nghaerdydd? Chapter. Neu adref yn fy nghegin gyda fy milgi, Blue. Mae fy nghegin yn llawn celf. Mae fy ngŵr yn sgrialwr ac mae ganddo gasgliad lliwgar iawn o fannau i gadw ei sgrialfyrddau ar y waliau. At hynny, mae fy oergell yn llawn o gampweithiau fy mhlant, sydd wrth gwrs, yn well o lawer na chelf Chapter (rhoi winc).Enwch un unigolyn Caerdydd Creadigol y dylem wybod amdano? Iawn, felly yn dechnegol mae dwy, ond mae’r efeilliaid Izzard, Mari a Lowri yn ddwy ferch greadigol ifanc i gadw llygad amdanynt. Pan oeddwn i’n athrawes ddrama, dysgais Safon Uwch iddynt ac roedd bob amser rhywbeth arbennig iawn amdanynt. Maen nhw wedi’u cymell ac yn ddawnus, ac yn hynod hynod glên. Mae drama Mari yn yr iaith Gymraeg, Hela, yn cael ei dangos yn The Other Room fis nesaf. Ewch i’w gwylio, mae gennyf deimlad y bydd hi’n wych.Beth sydd nesaf i chi? Pa brosiectau sydd ar y gweill? Pa syniadau newydd ydych chi’n gweithio arnyn nhw?Mae cynifer o bethau cyffrous – yn gyntaf oll rwy’n gweithio gyda Dirty Protest am syniad theatr, ar gyfer eu sioe Paines Plough Roundabout yng ngŵyl ymylol Caeredin 2020. Yna wrth gwrs rwy’n mireinio’r drafft terfynol fy nrama sain ar gyfer BBC Radio 4, a fydd yn cael ei darlledu dros yr haf. Rwyf hefyd yn trafod â Stiwdios y BBC sydd wedi gofyn i mi gynnig rhai syniadau newydd ar gyfer dramâu a chomedïau sefyllfa teledu. Yn ogystal, mae Eve Myles wedi dod ataf a gofyn i mi ddechrau ysgrifennu ar gyfer syniad newydd am ddrama deledu mae’n ei datblygu gyda’i chwmni cynhyrchu newydd, Empty Room Productions. Mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi dangos diddordeb mawr yn un o fy syniadau theatr, y byddwn yn dechrau ei datblygu yn y gwanwyn. Felly mae pethau wedi mynd yn brysur iawn yn ddiweddar, ond heb os mewn ffordd dda!I glywed mwy gan Rhiannon, ewch i'w gwefan.

Share