Creu Caerdydd - gweithdy 1

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 17 March 2017

Ddydd Gwener 17eg Ionawr, cynhalion ni weithdy cyntaf Creu Caerdydd a ddenodd 60 o bobl o sawl cwr o’r gymuned greadigol megis arlunwyr, asiantau llawrydd, academyddion, masnachwyr a chynrychiolwyr Cyngor Caerdydd a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Roedden nhw’n fodlon sôn am hanes ein dinas wrth inni ganolbwyntio ar hunaniaeth ar gyfer yr un gyntaf mewn cyfres o heriau ymarferol i droi Caerdydd yn brifddinas creadigrwydd trwy weithio ar y cyd a manteisio ar ein cryfderau cyfunol.

Meddai’r Cynghorydd Phil Bale, Arweinydd Cyngor Caerdydd: “Uchelgais Caerdydd yw cael ei chydnabod yn brifddinas creadigrwydd ledled y byd. Mae angen datblygu trywydd yr uchelgais hwnnw ac, ar ben hynny, mae angen inni i gyd ei ddatblygu a’i arddel.” 

“Rydyn ni’n gwybod y bydd y celfyddydau a materion diwylliannol yn cryfhau cymunedau trwy rymuso pobl, chwalu ffiniau a dyrannu buddion.” 

Defnyddiodd y gweithdy ddulliau chwedleua yn fan cychwyn trafodaethau, gan gynnwys darlith ysgogol gan Dan Tyte, a dangosodd y straeon diddorol sawl agwedd ar greadigrwydd Caerdydd - yr hyn sy’n digwydd a’r hyn a allai ddigwydd.

Daeth amrywiaeth eang o themâu i’r amlwg yn ystod y dydd. Dyma gipolwg ar rai o’r sgyrsiau niferus: 

  • Rhestrau, mapiau a llawlyfrau i ymwelwyr i hybu’r hyn sy’n digwydd yn y ddinas yn well
  • Cryfder cymhelliant cymuned greadigol lawrydd Caerdydd
  • Pwysigrwydd cysylltu â gwahanol gymunedau a sectorau
  • Cysylltedd o fewn y ddinas a’r tu hwnt
  • Uchelgeisiau a dyheadau, sut rydyn ni’n trafod creadigrwydd yng Nghaerdydd
  • Dangos gwerth creadigrwydd i’r ddinas
  • Natur amryfal y ddinas
  • Pwyslais ar gyfleoedd a gwersi lleol a byd-eang
  • Y to nesaf o bobl greadigol, edrych tua’r dyfodol
  • Meddai Sara Pepper, Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Roedd cyfraniad pawb a gymerodd ran yn yr achlysur hwn yn ysgogol iawn. O ganlyniad i’r agwedd agored a’r brwdfrydedd, cawson ni amrywiaeth helaeth o syniadau ymarferol da i gnoi cil arnynt.”

“At hynny, roedd llawer o ddarpar gyfranwyr a addawodd ein helpu i ddatblygu’r syniadau hynny ar y gweill fel y gallwn ni barhau i gynnal yr egni a’r cynnydd sydd wedi’u creu heddiw. Diolch yn fawr i bawb a ddaeth.”

Dyma rhai negeseuon twitter o'r diwrnod, cymerwch gip ar #creatingcardiffi weld rhagor. 

Inspiring day at #creatingcardiff workshop. Honoured to share my Cardiff story inc Scandi stowaways, Tiger Bay, Splott, PR, writing etc

— Dan Tyte (@dantyte) March 17, 2017

An extremely productive workshop - discussing the cultural & creative stories of Cardiff & how we implement these ideas #creatingcardiff pic.twitter.com/dOoHJB5ExO

— Emma M Price (@empprojects) March 17, 2017

Great session #creatingcardiff sharing ideas for how we can work together on reimagining our city's stories. Way to go @CreativeCardiff pic.twitter.com/PG6JzbeZRi

— Rebecca Gould (@beccaleigh99) March 17, 2017

I've never had such an inspiring day discussing contemporary culture. All thanks to @empprojects & @RuthCayford #CreatingCardiff

— Gavin Johnson (@gavinbonson) March 17, 2017

Much talking on table "Splott" about #creatingCardiff pic.twitter.com/JyQvEJayTu

— Laura Drane (@laurahd) March 17, 2017
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event