Cyd-gynyrchiadau Canolfan Mileniwm Cymru yn creu argraff ar y byd

Profile picture for user Beca Harries

Postiwyd gan: Beca Harries

Dyddiad: 29 March 2019

Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi cael mis Mawrth llwyddiannus iawn, yng ngwledydd Prydain a’r tu hwnt, gyda’i chyd-gynyrchiadau diweddaraf yn cyffroi cynulleidfaoedd ac yn cael adolygiadau cadarnhaol gan y wasg yn Auckland, Adelaide, Dulyn, Caersallog a Chaergrawnt.

Ar ddechrau’r mis, cafodd Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff), sioe gerdd un fenyw unigryw yn cyfuno gwyddoniaeth a chomedi gan yr actores Carys Eleri, ei pherfformio yn Awstralia yng Ngŵyl Ymylon Adelaide. Yn ystod ei chyfnod yno, enillodd Lovecraft Wobr yr Ymylon am y sioe gabare orau. Gŵyl Ymylon Adelaide yw’r ŵyl ymylon flynyddol fwyaf ond un yn y byd, a’r fwyaf yn Hemisffer y De. Cafodd y sioe adolygiad pedair seren a hanner gan yr Advertiser, papur newydd mwyaf de Awstralia, a ddisgrifiodd y sioe fel ‘y ddarlith wyddoniaeth fwyaf hwyliog gewch chi byth’. Ym mis Awst 2018, roedd Lovecraft hefyd yn llwyddiant ysgubol yng Ngŵyl Ymylon Caeredin – gŵyl gelfyddydau fwya’r byd – lle cafodd sawl adolygiad pedair seren a phum seren.

Yn y cyfamser, llwyddodd sioe gyfareddol y gantores enigmatig Camille O’Sullivan, sef Cave – archwiliad theatrig o gerddoriaeth Nick Cave – i werthu pob tocyn ar gyfer ei dwy noson yn y Palais ar Afon Torrens fel rhan o Ŵyl Adelaide ac yn y Theatr Ddinesig fawreddog yng Ngŵyl Gelfyddydau Auckland, lle cafodd adolygiadau gwych. Fis nesaf, bydd O’Sullivan yn mynd â’i sioe, sydd wedi’i disgrifio ganddi fel ‘llythyr caru at Nick Cave’, i Neuadd Gerddoriaeth Wilton’s yn Llundain am gyfnod o wythnos (9-13 Ebrill), lle mae bron pob tocyn wedi’u gwerthu eisoes. Cynhaliwyd première Cave a Lovecraft yng Ngŵyl Gelfyddydol Ryngwladol Caerdydd, Gŵyl y Llais 2018, fis Mehefin diwethaf. Mae’r ŵyl, sy’n cael ei chynnal bob dwy flynedd ac sydd wedi’i chreu a’i chynhyrchu gan Ganolfan Mileniwm Cymru, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr y mis yma – sef Gwobrau Cardiff Life a Gwobrau Cerddoriaeth Caerdydd.

Llwyddodd Gŵyl y Llais i ddenu dros 26,000 o bobl dros gyfnod o 11 diwrnod ym mis Mehefin 2018, ac roedd yn cynnwys perfformiadau gan Patti Smith, Gruff Rhys gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Elvis Costello, Billy Bragg, Angelique Kidjo a llawer mwy. Mae cynhyrchiad theatrig diweddaraf Canolfan Mileniwm Cymru, The Mirror Crack’d, sef yr addasiad llwyfan cyntaf erioed o nofel gyffro Miss Marple Agatha Christie yng ngwledydd Prydain, wedi bod ar daith lwyddiannus ers mis Chwefror – gan werthu dros 25,000 o docynnau.

Cafodd y stori dditectif eiconig, sydd wedi’i chyd-gynhyrchu gyda chwmni Wiltshire Creative, ei haddasu i’r llwyfan gan Rachel Wagstaff, ei chyfarwyddo gan Melly Still ac mae’n serennu Susie Blake fel Miss Marple. Agorodd y sioe yn y Playhouse, Caersallog, cyn teithio i Ddulyn a Chaergrawnt. Agorodd y sioe yn y Theatr Newydd yng Nghaerdydd yr wythnos hon ar nos Fawrth 26 Mawrth a bydd yno tan nos Sadwrn 6 Ebrill. Meddai Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru, Graeme Farrow: “Uchelgais y Ganolfan yw curadu cynyrchiadau teithiol sy’n cael canmoliaeth y beirniaid ac sy’n dangos doniau Cymru i’r byd. Mae’n wych gweld felly bod Cave, Lovecraft a The Mirror Crack’d wedi cael croeso mor gynnes gan gynulleidfaoedd yng ngwledydd Prydain ac ym mhen draw’r byd.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event