Cyhoeddi ton gyntaf artistiaid Gŵyl Sŵn 2019

Profile picture for user Beca Harries

Postiwyd gan: Beca Harries

Dyddiad: 26 April 2019

Mae Gŵyl Sŵn wedi cyhoeddi pwy fydd y don gyntaf o artistiaid a fydd yn ymuno â’r rhestr flynyddol, ar gyfer tridiau o gerddoriaeth a pherfformiadau heb eu hail ym mhrifddinas Cymru. Cynhelir yr ŵyl ar 18-20 Hydref 2019 ac mae’n cynnwys arlwy sydd wedi’i churadu’n ofalus er mwyn darparu amrywiaeth o artistiaid newydd a sefydledig. Mae The Comet Is Coming, Gruff Rhys, Nilüfer Yanya, Self Esteem, Pigs Pigs Pigs Pigs Pigs Pigs Pigs, Easy Life, Bill Ryder-JonesaShe Drew The Gun oll yn rhan o’r arlwy eleni.

Diolch! Thank you!

Sign up to the newsletter to be the first to know the first wave if acts: https://t.co/i3cO6GsRCN pic.twitter.com/WQQ4HsVUlk

— Sŵn Festival (@SwnFestival) March 1, 2019

Bydd Gruff Rhysyn rhannu myfyrdodau melodaidd ynglŷnâ chyflwr ein byd cyfoes. Bydd Gruff yn teithio o amgylch gwyliau cerddorol Prydain yr haf hwn, cyn dod â’r ffraethineb a’r hiwmor yn ôl i Gymru. Bydd y triawd o Lundain, The Comet Is Coming,yn cludo ei jazz seicedelig, syfrdanol o’r cosmos yn ôl i lawr i’r ddaear gyda’u trac sain arbrofol ac unigryw ‘ar gyfer apocalyps dychmygol’. Yn ymuno â’r parti y mae Nilüfer Yanya, sy’n cyfuno sain gitâr pop tywyll, islais indi ymlaciedig a churiadau synthaidd electronica gobeithiol. Mae ei geiriau yn archwilio themâu cymhleth ond perthnasol yn ymwneud â iechyd meddwl a phrofiadau’r enaid.

Ar ôl blwyddyn lwyddiannus yn 2018 a oedd yn cynnwys arwyddo gyda label Island Records, chwarae yng ngwyliau Reading a Leeds a pherfformio ar raglen Jools Holland, does dim amheuaeth y bydd Easy Lifeyn darparu odlau clyfar a chyfaredd gogledd Lloegr trwy gyfrwng eu cerddoriaeth. Mae eu geiriau yn ystyried bodolaeth symlach, gyda chymysgedd breuddwydiol o gerddoriaeth jazz a cherddoriaeth R&B sy’n llawn sain synth. 

Ar ben arlwy hynod addawol y mae Self Esteem, a fydd yn perfformio eu pop byrlymus ac arbrofol o’u halbwm unigol cyntaf, Compliments Please.Nid yw Pigs, Pigs, Pigs, Pigs, Pigs, Pigs, Pigs (neu PIGSx7yn fyr) byth yn siomi; paratowch am eu hymdrechion i chwythu’r system sain gyda’u cymysgedd o roc asid tywyll a metel seicdreiddiol.

Ymhlith y rhai sy’n ymuno â’r rhestr yw’r canwr cwbl ddiymdrech ac amrwd, Bill Ryder-Jones, y grŵp hypnotaidd a thywyll She Drew The Gun, y swynol We Were Promised Jetpacks, yr enigmataidd Black Country, New Road, a cherddoriaeth blŵsi eneidiol Rozi Plain.

 

We're also throwing a party Friday night at @ClwbIforBach!
Come see some of the artists from our first wave announcement at a FREE GIG at @ClwbIforBach
(line-up to be announced on the day)
RSVP https://t.co/gf77U7m0IR pic.twitter.com/5f4tZ8CRZ5

— Sŵn Festival (@SwnFestival) April 24, 2019
Cyhoeddiad Llawn

Bloxx, Cruelty, Easy Life, Flamingods, Gruff Rhys, Himalayas, Nilüfer Yanya, The Comet Is Coming, Jockstrap, 3 Hwr Doeth, Big Thing, Bilge Pump, Black Country, New Road, Bodyhacker, Bryde, Chroma, Darren Eedens & The Slim Pickin’s, Do Nothing, Feet, Fuzz Clwb, Gwilym, Haze, Hotel Lux, Housewives, Indian Queens, Jack Perrett, Jockstrap, Kidsmoke, Lice, Lunar Bird, MR, Orchards, Papur Wal, Penshui, Pigsx7, Porridge Radio, Rosehip Teahouse, Self Esteem, Skinny Pelembe, The Howl & The Hum, Threatmantics, Thyla, Tiny Deaths, Trudy and The Romance, We Were Promised Jetpacks, Amber Arcades, Saint Agnes, Alffa, Ani Glass, Bess Atwell, Bill Ryder-Jones, Dry Cleaning, False Hope For The Savage, Heavy Lungs, Rozi Plain, Scalping, Seazoo, She Drew The Gun, Twin Peaks, Wych Elm, Vistas.

Dywed Guto Brychan, Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach: 

Dechrau trefnu Gwyl Sŵn y llynedd oedd y tro cyntaf i Clwb gynnal digwyddiad o’r math hwn. Eleni, bydd fformat gwreiddiol yr ŵyl yn dychwelyd wrth i ni gyflwyno tridiau llawn o’r gerddoriaeth orau a’r perfformiadau mwyaf cofiadwy mewn un penwythnos. Ni fydd‘headliner’fel y cyfryw, dim ond cerddorion gwych ar bob lefel yn perfformio o amgylch y ddinas.

Hyd yn hyn, mae 2019 yn argoeli i fod yn flwyddyn addawol i sîn gerddoriaeth Caerdydd. Gyda gweithredu’r strategaeth newydd ar gyfer cerddoriaeth, dylem weld potensial cerddorol y ddinas yn cyrraedd uchelfannau newydd, ac mae’n wych gweld y bydd Clwb a Sŵn yn rhan o hynny.

I gael mwy o wybodaeth ac i archebu eich tocynnau, ewch i swnfest.com. Dilynwch @SwnFestival ar Twitter.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event