Cynghorydd Adnoddau Dynol Dwyieithog

Cyflog
£26,606 - £29,270 y flwyddyn (yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad perthnasol)
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
01.02.2021
Profile picture for user Welsh National Opera

Postiwyd gan: Welsh National Opera

Dyddiad: 20 January 2021

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn rhannu grym opera fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr – mewn theatrau, mewn cymdogaethau ac ar-lein.

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Gynghorydd Adnoddau Dynol sy'n rhugl yn y Gymraeg i weithio ochr yn ochr â'r Rheolwr Adnoddau Dynol i sicrhau bod gwasanaeth Adnoddau Dynol effeithiol yn cael ei ddarparu i fodloni amcanion strategol y Cwmni ac Adnoddau Dynol.

Bydd y Cynghorydd Adnoddau Dynol yn cefnogi'r swyddogaeth Adnoddau Dynol drwy reoli gweithgareddau gweithredol dydd i ddydd Adnoddau Dynol

Mae hon yn rôl gyffredinol sy'n ymwneud â phob agwedd ar Adnoddau Dynol gweithredol, o recriwtio a dethol i gysylltiadau gweithwyr a hefyd rhoi cymorth ar brosiectau Adnoddau Dynol ehangach.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn siaradwr Cymraeg rhugl sy'n frwdfrydig ac yn angerddol am Adnoddau Dynol, gyda phrofiad blaenorol o ddarparu gwasanaeth Adnoddau Dynol effeithiol a phroffesiynol, y gallu i gyfathrebu ar bob lefel i fodloni disgwyliadau cwsmeriaid, rhoi sylw eithriadol i fanylion a rheoli amser rhagorol, y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith a sgiliau dadansoddi. Mae profiad cyffredinol, ymgynghorol ac undebau llafur Adnoddau Dynol blaenorol ac o leiaf cymhwyster CIPD lefel 7 yn hanfodol.

Mae’r gallu i gyfathrebu'n rhugl drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig. Rydym yn annog pobl o unrhyw gefndir i wneud cais am swyddi gwag. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas ac sy’n dwyn ynghyd pobl sydd ag amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau i helpu i siapio’r hyn a wnawn a sut y gweithiwn. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), a phobl anabl sy’n dymuno ymgeisio.