Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd

Profile picture for user Beca Harries

Postiwyd gan: Beca Harries

Dyddiad: 1 March 2019

Mae Ffotogallery wedi cyhoeddi ei pedwerydd rhifyn o’r ŵyl ddwyfynyddol Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd, achlysur celfyddydau gweledol mwyaf Cymru, y bydd yn digwddydd ar draws y ddinas o’r 1-30 Ebrill 2019. Yn seiliedig ar y thema Sain+Llun bydd yr ŵyl yn cynnwys mis o arddangosfeydd, ymyriadau, dangosiadau, perfformiadau, digwyddiadau a dathliadau mewn gofodau a mannau go-iawn a rhithwir ledled Caerydd. Ychwanegir at gyffro gallu cyfranogi’n uniongyrchol yn yr ŵyl, ac at gyrhaeddiad ac amlygrwydd rhyngwladol y digwyddiad, gan gyhoeddiadau print ac ar-lein, gwefannau, cynnwys ffonau symudol a thrafodaethau ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. 

Bydd Diffusion 2019, Sound+Vision, yn archwilio’r berthynas rhwng sain – yn enwedig cerddoriaeth – a ffotograffiaeth a chyfryngau’n seiliedig ar lens. Bydd yr ŵyl yn arddangos defnydd diweddaraf VR, ffotograffiaeth estynedig a thechnegau digidol eraill, gan adeiladu ar gysylltiadau cydweithredol rhwng artistiaid, cynhyrchwyr a chwmnïau cyfryngau Cymru sy’n gweithio’n fyd-eang yn Ewrop, Asia, Gogledd America a’r Dwyrain Canol. 

Mae Cyfarwyddydd Gŵyl Diffusion, David Drake, yn egluro: 

“Ein nod yw rhannu cryfderau Cymru mewn creadigrwydd digidol, ffotograf aeth, cerddoriaeth a ffilm gydag ymwelwyr â’r ŵyl a chynulleidfaoedd ar-lein, ac arddangos bywiogrwydd a chyrhaeddiad byd- eang ein diwydiannau celfyddydol a chreadigol.” 

Dyma rhai o uchafbwyntiau'r Ŵyl: 

 

  • X-Ray Audio, gosodwaith gan The Bureau of Lost Culture yn adrodd hanes diwylliant y rhyfel oer, technoleg copïo anghyfreithlon, a miwsig fel gwrthsa ad. Yn yr Undeb Sofietaidd yn ystod y rhyfel oer, daeth cymuned feiddgar o gopïwyr tanddaearol o hyd i ffordd anghyffredin a pheryglus o herio’r sensor trwy gopïo a dosbarthu’r miwsig jazz, roc-a-rôl a Rwsiaidd gwaharddedig a garent – gan adeiladu peiriannau recordio a thorri eu copïau eu hunain ar ddarnau crwn o hen ffilm pelydr-x. 
     
  • Yn sgil eu ffilm cromen-lawn arobryn, Liminality, a saethwyd yn India, bydd y cydweithwyr creadigol o Gaerdydd, Matt Wright a Janire Najera, yn trochi cynulleidfaoedd yng ngherddoriaeth y band jazz a trip-hop, Slowly Rolling Camera. Mae Juniper, a gomisynwyd gan Ffotogallery ar gyfer Diffusion 2019, yn archwilio sut mae sain a’r ddelwedd symudol yn cyd-doddi o fewn perfformiadau byw. 
  • Mae Atgyfodi John Rea yn cy wyno lleisiau coll a recordiadau o archifau sain Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan ar ffurf gosodwaith sain amgylchol trochiadol gyda delweddau cael a rhai a f lmiwyd yn arbennig. Mae’r rhain wedi eu cydblethu’n gyfansoddiad clyweledol cyfoes, gan eu dychwelyd nhw, a’r hyn maen nhw’n ei gynrychioli, i’n cof torfol. 

  • Ar nodyn digri, casglodd y cyfarwyddydd f lmiau o’r Ffindir Jonna Kina wrthrychau a ddefnyddiwyd gan wahanol artistiaid a dylunwyr sain i greu effeithiau sain Foley mewn ffilmiau. Mae Foley Objects yn cyflwyno casgliad hynod o ddelweddau, fel archif ffotograffig o seiniau, ac fel tro eironig rywle rhwng y dogfennol a’r abswrd o chwareus. 
     
  • Yn 2008, daeth y ffotograffydd Michal Iwanowski ar draws graf to bach yn ei gymdogaeth yng Nghaerdydd a ddywedai ‘Go home Polish’. Ddegawd wedi hynny, ar ôl refferendwm gynhennus Brexit, mentrodd ar daith 1900 km ar droed rhwng ei ddau gartref – Cymru a Gwlad Pwyl – â phasbort Prydeinig yn y naill law, ac un Pwylaidd yn y llall. Y nod oedd holi pobl ynglŷn â chartref ar daith a gymerai 105 diwrnod i’w chwblhau. I drac sain gan Gwenno, mae’r arddangosfa a ddeilliodd o hyn, Go Home Polish yn adrodd hanes y siwrnai epig.
  • Mae Don’t You Wonder Some Times?, arddangosfa a gurawyd yn arbennig yng Nghanolfan y Mileniwm sy’n edrych ar ddatblygiadau mewn recordio a chynhyrchu cerddoriaeth a’r ffyrdd mae cynulleidfaoedd yn ei mwynhau – o’r dechnoleg a ddefnyddiwyd i recordio sain am y tro cyntaf, i’r albwm, y sengl, a ffyrdd newydd o ddosbarthu a ganiataodd i gerddoriaeth fynd yn rhan o’n bywydau beunyddiol. O’r ffansîn i’r bŵth gwrando, o fandiau teyrnged i bro adau rhithwir, gwahoddir cynulleidfaoedd i archwilio’n treftadaeth gerddorol amrywiol.

Wythnos Agoriadol Ryngwladol Diffusion 2019 yw’r 3-7 Ebrill ac mae rhaglen addysgu ac ymgysylltu eang yr ŵyl yn cynnwys symposiwm ryngwladol, cyhoeddiadau ac adnoddau dysgu dwyieithog, gweithdai dan arweiniad artistiaid, sgyrsiau a digwyddiadau, teithiau tywys ar gyfer grwpiau ysgol a choleg, a gwahanol ddigwyddiadau y gall yr holl deulu gymryd rhan ynddyn nhw. 

Dilynwch Diffusion ar gyfryngau cymdeithasol.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event