Dangos a Dweud

13/05/2019 - 19:00
Porter's Cardiff, 6 Bute Terrace, Cardiff CF10 2FE
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Mae Dangos a Dweud Caerdydd Creadigol yn ddigwyddiad chwarterol sy'n rhoi llwyfan i’r amrywiaeth gyffrous o bobl a phrosiectau creadigol yn y ddinas. Bydd 'Dangos a Dweud' yn dod â chymuned greadigol Caerdydd ynghyd, o dalent newydd i bobl brofiadol, i glywed am eu prosiectau cyfredol a'u dyheadau.

Bydd ein tri siaradwr yn rhoi sgwrs gryno, pob un yn 10 munud o hyd. Ac fe fyddent yn dod â rhywbeth i'w ddangos. Gallai'r gwrthrych fod yr hyn sydd wedi'u hysbrydoli, yn declyn maent yn ei ddefnyddio yn eu gwaith, neu'n rhywbeth sy'n rhoi cysur iddynt. Bydd y siaradwyr yn rhannu eu gwaith ac yn esbonio pwysigrwydd eu gwrthrychau.

Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig ar gyfer mynediad i'r digwyddiad hwn, anfonwch neges ebost at creativecardiff@caerdydd.ac.uk.

Alex Jenkins, Dylunydd a chyd-sefydlydd Social Club Agency.

Yousra Elsadig, Dylunydd Ffasion a sefydlydd Boutique de Nana. 

Matt Joyce, Darlunydd. 

ARCHEBWCH NAWR