Gweithwyr Llawrydd Creadigol: Nid Mater Chwerthin

20/06/2019 - 17:00
The Glee Club, Unit 7a, Mermaid Quay, Cardiff Bay, Cardiff CF10 5BZ
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Gweithiwyr Llawrydd Creadigol: Nid Mater Chwerthin
 
Ar Ddiwrnod Gweithwyr Llawrydd Cenedlaethol 2019, gwahoddir gweithwyr llawrydd creadigol i ddod ynghyd yn The Glee Club i ddathlu gweithio’n llawrydd.
 
Bydd y digwyddiad yn cysylltu gweithwyr creadigol ac yn rhoi llwyfan ar gyfer trafod arferion yn yr economi greadigol. Caerdydd Creadigol a Thîm Addysg Weithredol Ysgol Busnes Caerdydd sy’n cynnal y digwyddiad.
 
Bydd Dr Dimitranka Stoyanova Russell o Ysgol Busnes Caerdydd yn rhannu canfyddiadau o’i hadroddiad gyda Dr Nick Butler, Nid Mater Chwerthin: gwaith ansicr a llafur emosiynol mewn comedi llwyfan. Fe gynhaliodd y darlithydd Rheoli Adnoddau Dynol gyfweliad gyda 64 o ddigrifwyr llwyfan amser llawn o’r DU i edrych ar sut mae gweithwyr llawrydd creadigol yn ymdopi â chyflogaeth.

Mae Dr Dimitrinka Stoyanova Russell yn Ddarlithydd mewn Rheoli Adnoddau Dynol yn Ysgol Busnes Caerdydd. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar gyflogaeth yn y Diwydiannau Creadigol, gyrfaoedd creadigol, gwaith llawrydd, dysgu a datblygu sgiliau.

Mae Dimitrinka wedi bod yn ymchwilio i waith a chyflogaeth yn y Diwydiannau Creadigol ers 2004 yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Mae realiti a phrofiadau amgylcheddau creadigol yn bynciau hynod bwysig trwy gydol ei hymchwil.

Mae Dimitrinka wedi cyhoeddi ar rwydweithiau cymdeithasol, cyflogaeth dameidiog, gyrfaoedd creadigol a datblygu sgiliau yn Ffilm a Theledu'r DU. Cafodd ei phrosiect diweddaraf, a ariannwyd gan yr Academi Brydeinig, ar fywydau gwaith digrifwyr llwyfan a'i chyhoeddiad diweddaraf ‘No funny business: Precarious work and emotional labour in stand-up comedy’ ei farnu yn bapur gorau 2018 gan y cylchgrawn cyhoeddi.

Mae Dimitrinka yn aelod o'r grŵp ymchwil Llafur Creadigol a Chynhyrchu Diwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Ymchwilydd Cyswllt y Sefydliad ar gyfer Manteisio ar Greadigrwydd ym Mhrifysgol St Andrews.

Bydd gennym hefyd set gan y digrifwr Lorna Pritchard o Gaerdydd, sy’n rhedeg Howl Comedy yn The Tramshed, fydd yn sôn am sut beth yw bod yn bod yn ddigrifwr llawrydd yn y ddinas.

Bu Lorna Prichard yn newyddiadurwraig gyda'r BBC, wedyn ITV Cymru, cyn troi o ddweud y newyddion i ddweud jôcs. Dechreuodd weithio'n llawrydd ym mis Mawrth 2018. Mae hi wedi bod yn ddigrifwraig llwyfan ers dwy flynedd yn unig ond mae wedi perfformio mewn dros 300 o gigs, gan gynnwys cyfres lawn yng Ngŵyl Ymylol Caeredin. Mae hi'n trefnu ac yn cynnal ei nosweithiau comedi ei hun ar draws de Cymru gyda'i masnachfraint, Howl Comedy. Mae hi hefyd yn ysgrifennu ac yn perfformio sgetsis ar gyfer y BBC a bydd hi'n cyflwyno rhaglen hanner awr o hyd ar gyfer Radio Wales ym mis Gorffennaf. Ym mis Awst, bydd hi'n cyflwyno ac yn perfformio'n Gymraeg fel digrifwraig llwyfan yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cyn dychwelyd i Ŵyl Ymylol Caeredin.
 
Bydd Sara Pepper, Cyfarwyddwr Caerdydd Creadigol, yn mynd ati wedyn i hwyluso panel gyda gweithwyr llawrydd lleol ynghylch lles, materion digidol ac arian, ymhlith pynciau eraill:

Talia Loderick

Mae Talia Loderick yn weithiwr llawrydd sy’n newid ei rôl ar hyn o bryd - o fod yn newyddiadurwr ac yn ysgrifennwr deunydd, i fod yn hyfforddwr materion ariannol. Mae Talia wedi bod yn llawrydd ers mis Rhagfyr 2014 ac mae wedi rhannu ei harbenigedd ariannol ar y BBC ac ar MoneySavingExpert.com, ond mae wedi bod eisiau mynd yn ddyfnach i’r maes ers tro byd. Ailhyfforddodd Talia fel hyfforddwr ariannol er mwyn cynorthwyo pobl sy’n teimlo eu bod wedi mynd i gors yn ariannol a’u helpu i drin arian yn well. Wedi’r cwbl, mae arian yn bwysig - fel mae llawer o weithwyr llawrydd yn ei wybod. Mae Talia hefyd yn cyflwyno gweithdai addysg ariannol i blant a phobl ifanc 11-19 oed mewn ysgolion a cholegau ledled de Cymru a de-orllewin Lloegr. Mae’n helpu disgyblion i ddatblygu sgiliau rheoli arian a’u gwybodaeth am arian.

TaliaLoderick.co.uk

Gavin Johnson

Mae Gavin Johnson wedi gweithio’n llawrydd ar draws y sector creadigol yng Nghymru a thu hwnt ers blynyddoedd lawer, yn enwedig yn y diwydiant cerddoriaeth. Dechreuodd ei gysylltiad â chreadigrwydd ar ôl iddo adael y brifysgol. Roedd ef a’i ffrind yn ei chael yn anodd dod o hyd i waith, ac felly fe grëwyd ffansîn o’r enw Culture Vulture. Llwyddodd i sicrhau cyllid gan yr UE i gynnal y prosiect am ddwy flynedd.
 
Gweithiodd Gavin gyda Byddin yr Iachawdwriaeth ac amryw o awdurdodau lleol yn cefnogi darpariaethau ar gyfer pobl ddigartref, ac yn ystod y cyfnod hwnnw daeth yn fedrus am ganfod cyllid ar gyfer prosiectau. Yn 2012, datblygodd ei yrfa fel llawrydd o ddifrif wrth iddo gyflwyno Gŵyl Sŵn ochr yn ochr â John Rostron a Hugh Stephens am ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, fe enillodd wobr NME ar gyfer Gŵyl Fach Orau’r DU.
 
Ers hynny, mae wedi cydweithio â’r cerddor Cymraeg Gruff Rhys ar brosiect aml-lwyfan sydd wedi ennill gwobrau o’r enw American Interior, ac ar brosiectau creadigol gyda Gŵyl Glastonbury, Llenyddiaeth Cymru a Chymdeithas Pêl-droed Cymru ymhlith llu o brosiectau eraill. Mae Gavin yn parhau i gyflawni prosiectau diddorol yn y sector creadigol ochr yn ochr â’i waith presennol fel Cynhyrchydd rhan-amser ar gyfer rhaglen arloesedd newydd Clwstwr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd digonedd o gyfleoedd i rwydweithio â gweithwyr llawrydd creadigol ac academyddion ar y noson.

ARCHEBWCH YMA

Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig ar gyfer mynediad i'r digwyddiad hwn, anfonwch neges ebost at Gaerdydd Creadigol.