Dylan Huw

Mae Dylan Huw, sy'n byw yn Grangetown, yn awdur sydd hefyd yn gweithio yn adran Datblygu Creadigol National Theatre Wales. Mae ei 'sgwennu ar gelf, perfformio a sinema i'w ddarllen yn rheolaidd yn O'r Pedwar Gwynt, Y Stamp a Barn, ac mae ei ffuglen wedi ymddangos mewn antholegau gan weisg Y Lolfa a Parthian. Yn 2019, derbyniodd fwrsari sgwennu gan y British Council - Theatr a Dawns, yn ogystal a chomisiynau gan iCoDaCo (International Contemporary Dance Collective), g39 a Jerwood Visual Arts. Mae wedi gweithio i Cymru yn Fenis, Diffusion Festival a Sinfonia Cymru, ac yn 2017 roedd ar Rheithgor Rhyngwladol yr Iris Prize.

Share