Economi greadigol sy’n tyfu

Mae’r diwydiannau creadigol yng Nghaerdydd ar i fyny, gydag ymddangosiad clwstwr cyfryngau digidol a diwydiant ffilm a theledu wedi’i ganoli ym Mhorth Teigr Bae Caerdydd. Dyma lle mae’r BBC wedi creu 170,000 troedfedd sgwâr o stiwdios drama ym Mhorth y Rhath: y stiwdios drama mwyaf yng ngwledydd Prydain. Hefyd, ceir GloWorks, sef canolfan ddiwydiannau creadigol llywodraeth Cymru i gwmnïau annibynnol, a Stiwdios Pinewood, a agorodd gangen yng Nghaerdydd yn 2015.

 

Ar lefel sylfaenol ar draws y ddinas mae’r celfyddydau, creadigrwydd ac entrepreneuriaeth yn ffynnu, a mwyfwy o bobl o anian debyg yn dewis rhannu a dathlu eu brwdfrydedd a’u gwybodaeth mewn nifer gynyddol o rwydweithiau. Mae newidiadau cyffrous ar droed yng Nghaerdydd wrth i’r ddinas ehangu ac wrth i rannau allweddol o ganol y ddinas gael eu hailddatblygu, gan gynnwys symud BBC Cymru o Landaf i safle amlwg iawn gyferbyn â’r orsaf reilffordd ganolog. Adfywiad sy’n dal i dyfu yw hwn.

 

Rhwng 2002 a 2010, roedd canran fwy o gwmnïau’r ddinas wedi’u dosbarthu’n gwmnïau ‘twf mawr’ nag yn unrhyw ddinas graidd arall yn y Deyrnas Unedig. Mae cryfderau economaidd yn y sector gwasanaethau ariannol a busnes – yma y sefydlwyd y cwmni yswiriant ceir Admiral Group plc.

 

Gyda throsiant o £700 miliwn ac yn cyflogi 10,000 o bobl, mae sefydliadau addysg uwch Caerdydd hwythau’n chwarae rhan bwysig yn yr economi leol, tra bod y 42,000 o fyfyrwyr sy’n byw ac yn astudio yma (gyda 30,000 ar ben hynny yn ardal y rhanbarth dinesig) yn helpu i wneud yn ddinas yn lle bywiog i fyw a chymdeithasu. Y sefydliadau hyn sy’n gyfrifol hefyd am hyfforddi’r to nesaf o arloeswyr ac entrepreneuriaid, ochr yn ochr â gweithwyr technegol medrus a galluog.

 

I ddatblygu’r diwylliant hwn ymhellach, mae Prifysgol Caerdydd yn buddsoddi mewn campws arloesi a fydd yn cynnwys y parc ymchwil gwyddor gymdeithasol cyntaf yn y byd, a chanolfan ymchwil o’r radd flaenaf ym maes cancr a iechyd meddwl. Gobeithir y bydd Hwb Gwyddorau Bywyd, gyda thros £100m o gyllid sbarduno, hefyd yn cyfrannu at y maes cynyddol hwn ac yn ychwanegu dros £1 biliwn at gyfraniad y sector i economi Cymru erbyn 2022.


O sôn am ddatblygiadau meddygol, mae’r BBC bellach yn ffilmio cyfresi teledu mawr fel Casualty a Holby City yng Nghaerdydd, yn ogystal â Doctor Who a Torchwood ac amryw o gynyrchiadau unigol eraill. Mae hyn yn golygu na fyddwch chi byth fwy na 200 metr oddi wrth rywun sydd o leiaf yn ymddangos fel petai’n weithiwr meddygol proffesiynol. Neu yn Ddalek.

Ffoto - Flickr Jeremy Segrott

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event