#37: Show & Tell

18/07/2016 - 19:30
Yr Hen Lyfrgell
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Creative Cardiff's 'Show & Tell' is a quarterly event that gives a platform to some of the exciting range of creative people and projects in the city. It will bring together Cardiff’s creative community, from emerging talent to old hand, to hear about their current projects and ambitions.

Each of the speakers will give a 10 minute lightning presentation. And they'll bring an object. The object might be the source of their inspiration, a tool of their trade or a comfort blanket. The speakers will share their work and explain the importance of the object they've brought along.

This event, on the Welsh language digitally, will be delivered in Welsh with translation facilities available.

Book free tickets for the event here.

Speakers:

Huw Marshall 

Following 4 years of leading S4C’s digital activities he’s moving on to set up Awr Cymru, a new community interest company which will facilitate and support the use of the Welsh language as a marketing tool in an increasingly digital world. As the founder of @yrawrgymraeg, the first Welsh language twitter hour, Huw has been at the forefront of Welsh language digital marketing for a number of years.

Cai Morgan 

Cai is a producer and presenter on S4C‘s new digital channel PUMP, it’s content lives on Twitter, YouTube and Facebook and since its launch in April has amassed over 100,000 views and a substantial following on social media networks with 70% of its viewing being done by under 35’s.    

Daf Prys 

Here is Dafs Twitter Bio, Sgwennwr ar bopeth | writer | podcaster | editor | designer | publisher | boi caib ond dim rhaw. He’s one half of FIDEO8 a community for discussing all things videogames, board games and comics in Wales. Daf is about to embark on an adventure the other side of the Atlantic.

If you have any accessibility requirements for this event please email creativecardiff@cardiff.ac.uk.

----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Mae ‘Dangos a Dweud’ Caerdydd Creadigol yn ddigwyddiad chwarterol sy’n rhoi platform i amrywiaeth gyffrous o bobl a phrosiectau creadigol y ddinas. Mae’n dod â chymuned greadigol Caerdydd at ei gilydd o dalent sefydledig i dalent newydd, i glywed am eu huchelgeisiau a’u prosiectau cyfredol. 

Bydd pob un o’r siaradwyr yn rhoi cyflwyniad brys o 10 munud ac yn dod â gwrthrych gyda nhw. Gallai’r gwrthrych fod yn ffynhonnell eu hysbrydoliaeth, offeryn gwaith neu rywbeth sy’n eu cysuro. Bydd y siaradwyr yn rhannu eu gwaith ac yn esbonio pwysigrwydd eu gwrthrych.

Cyflwynir y digwyddiad hwn yn Gymraeg a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael. 

Rydym yn hapus iawn i groesawu’r siaradwyr canlynol: 

Huw Marshall 

Wedi 4 blynedd o arwain gweithgaredd digidol S4C mae’n symud ymlaen i sefydlu menter newydd Awr Cymru, cwmni buddiannau cymunedol newydd fydd yn amlygu a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg fel arf marchnata mewn byd gynyddol ddigidol. Fel sefydlwr @yrawrgymraeg, awr trydar cyntaf yn yr iaith Gymraeg, mae Huw wedi bod ar flaen y gad o safbwynt hyrwyddo’n ddigidol drwy gyfrwng y Gymraeg ers sawl blwyddyn.

Cai Morgan 

Mae Cai yn gynhyrchydd a chyflwynydd ar sianel Ddigidol newydd S4C, PUMP, mae ei gynnwys yn byw ar Twitter, YouTube a Facebook ag ers lansio ym mis Ebrill wedi cael ei weld dros 100,000 o weithiau gan ennill dilyniant sylweddol ar rwydweithiau cymdeithasol.

Daf Prys 

Dyma Twitter Bio Daf, Sgwennwr ar bopeth | writer | podcaster | editor | designer | publisher | boi caib ond dim rhaw. Mae’n un hanner o FIDEO8  cymuned sy'n trafod gemau cyfrifiadur, gemau bwrdd, comics a phopeth ballu. Mae Daf ar fin cychwyn antur newydd ar ochr arall for yr Iwerydd.

Os oes gennych anghenion hygyrchedd ar gyfer y digwyddiad hwn, ebostiwch: creativecardiff@caerdydd.ac.uk.