Nicole Koenig-Lewis (Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd) a Adrian Palmer (Henley Business School, Prifysgol Reading)
 
Yn 2019, roedd y farchnad gwyliau cerddoriaeth a chyngherddau yn y DU werth ychydig dros £2.6bn gyda thros chwarter o oedolion y DU yn mynd i o leiaf un ŵyl gerddorol y flwyddyn honno.
 
Yn 2020, mae COVID-19 wedi arwain at ganslo digwyddiadau ar lefel ddigynsail. Dywedodd y Gymdeithas Gwyliau Annibynnol (AIF) fod 92% o drefnwyr gwyliau AIF yn ofni y bydd eu busnes mewn perygl heb gefnogaeth y llywodraeth. Mae cwestiynau'n cael eu holi ynghylch beth fydd y 'normal' newydd i wyliau.
 
Gwyliau digidol 2020
 

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi symud at ffrydio'n fyw a pherfformiadau digidol yn ystod y pandemig, yn bennaf i gadw'r diwylliant gwyliau'n fyw a chadw cysylltiad gyda'u cynulleidfa.

Yn ôl Festicket a gynhaliodd arolwg o dros 110,000 o fynychwyr gwyliau o'r DU, Ffrainc, yr Iseldiroedd, yr Almaen a gwledydd eraill, gwyliodd 60% o ymatebwyr ffrydiau byw a byddai 58% yn fodlon gwylio ffrwd fyw drwy docyn neu wneud rhodd.

Cynhelir gwyliau mawr uchel eu proffil fel Tomorrowland a Burning Man yn ddigidol eleni.

Mae'r olaf wedi lansio'r llwyfan digwyddiad rhithwir newydd Kindling sy'n gallu cynnal partïon rhithwir, perfformiadau byw, dangosiadau, trafodaethau a digwyddiadau preifat a drefnir gan ffans. Disgwylir y cynhelir Electric Blockaloo, gŵyl dawnsio rêf, ym myd y gêm ar-lein Minecraft ddiwedd mis Mehefin.

Yn y DU, cynhelir gŵyl cerddoriaeth a chelfyddydau Shangri-La Lost Horizon Glastonbury ar-lein ar 3 a 4 Gorffennaf 2020 gyda phedair llwyfan rhithwir a thros 50 o berfformiadau. Mae Ap Sansar yn gwahodd y gynulleidfa i ymuno â'r profiad rhithwir gydag afatarau y gellir eu teilwra ac sy'n gallu rhyngweithio’n llawn gyda'i gilydd, dawnsio a chrwydro perfformiadau, lleoliadau cudd a chelf weledol.

Yng Nghymru, cynhaliwyd Gŵyl y Gelli'n ddigidol am y tro cyntaf ym mis Mai 2020 gyda'r holl ddigwyddiadau ar gael drwy'r Hay Player gyda thanysgrifiad blynyddol. Ffrydiwyd Tafwyl 2020 ar-lein o Gastell Caerdydd ym mis Mehefin 2020 i gynnig llwyfan i artistiaid berfformio yn ystod y pandemig. Lansiodd yr Eisteddfod Genedlaethol Eisteddfod AmGen ym mis Mai 2020 i ddathlu'r diwylliant bywiog a'r iaith. Bob wythnos mae AmGen yn cyflwyno cyfuniad o weithgareddau o setiau cerddoriaeth byw, gweithdai, prosiectau celf weledol gyda theithiau 3D yn cynnig blas ar gelf Gymreig unigryw, arbrofion gwyddonol wythnosol i blant, darlithoedd, cystadlaethau, a gweithgareddau i ddysgwyr Cymraeg ar amrywiaeth eang o lwyfannau ar-lein.

Mae pandemig COVID-19 wedi herio modelau busnes gwyliau. Mae rhai wedi canfod buddion newydd i ymwelwyr rhithwir ac wedi codi incwm amgen ar-lein. Ond rhaid holi a all fersiynau rhithwir o wyliau fod yn rhywbeth ategol i'r ŵyl go iawn yn unig, yn hytrach na chymryd ei lle. I ateb y cwestiwn hwn, rhaid i ni ddeall diben gwyliau.

Diben gwyliau

Mae gwyliau'n fwy na gwrando ar gerddoriaeth neu wylio digwyddiadau'n unig. Maen nhw'n cynnig profiadau trochol, cyfleoedd i ddianc rhag realiti bywyd a chyfarfod â llwythau o fynychwyr o'r un anian.

Felly, mae gwyliau'n cyfrannu nid yn unig yn economaidd ond hefyd yn gymdeithasol at ymdeimlad o gymuned, hunaniaeth a llesiant. Yn ôl Mintel 2019, er mai un rheswm pwysig am ymweld â gŵyl gerddorol neu gyngerdd yw gweld yr artist (45%), mae elfen gymdeithasol y digwyddiad byw, yn cynnwys mwynhau amser gyda ffrindiau/teulu (41%) a chwrdd â phobl newydd (19%), yn gynyddol bwysig. Ymhellach, i 69% o fynychwyr gwyliau mae'r amrywiaeth o weithgareddau ar wahân i gerddoriaeth mewn digwyddiadau cerddorol yn ychwanegu'n sylweddol at brofiad yr ŵyl (yn cynnwys themâu iechyd, antur a throchol). Mae bron i hanner mynychwyr gwyliau dan 19 oed yn mynd i ddigwyddiadau cerddorol i gael y profiad cyflawn (48%). 

Yn ôl State of Play: Arolwg Gwyliau'r DU 2019 mae gwyliau'n helpu i ddenu cynulleidfaoedd newydd gydag o ddeutu 62% o fynychwyr yn gwrando ar artistiaid a glywon nhw gyntaf mewn gŵyl a 54% yn chwilio am gyngherddau byw gan artistiaid a glywyd mewn gŵyl.

Festival crowd

Mae ein hymchwil a gynhaliwyd mewn sawl gŵyl [i]wedi dangos yn gyson bod lefelau uwch o ddiddordeb y gynulleidfa mewn amrywiol weithgareddau yn ystod yr ŵyl yn arwain at brofiad mwy cadarnhaol o'r ŵyl ac yn sgil hynny lefelau uwch o ymlyniad â'r ŵyl. Roedd hyn yn cysylltu hefyd â'r canfyddiad o 'ddilysrwydd' gwyliau sy'n arwain at foddhad uwch ac emosiynau mwy cadarnhaol yn ystod yr ŵyl.

Nododd ein hymchwil yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017 a 2018 segmentau penodol o fynychwyr gwyliau ar sail eu hymgysylltu ymddygiadol yn yr ŵyl. Grwpiwyd y mynychwyr fel a ganlyn:

  • 'Digyswllt' - y rheini nad oedden nhw'n ymgysylltu ag unrhyw weithgareddau (efallai'n cael eu llusgo i'r ŵyl)
  • 'Gwylwyr' - y rheini oedd yn gwylio ac yn crwydro stondinau, arddangosfeydd, pebyll
  • 'Dysgwyr' - y rheini oedd yn trafod diwylliant Cymraeg (e.e. cerddoriaeth, celf, iaith,  llên) yn yr ŵyl gydag eraill, gan ddysgu rhywbeth newydd am ddiwylliant Cymraeg, a mynychu darlithoedd/trafodaethau yn ogystal ag edrych a chrwydro stondinau ac arddangosfeydd
  • 'Gwneuthurwyr' - y rheini yn ogystal â'r holl weithgareddau uchod oedd hefyd yn cymryd rhan mewn gweithdai, perfformiadau a thrafodaethau.

Mae ein hymchwil yn dangos bod y 'Dysgwyr' a'r 'Gwneuthurwyr' yn enwedig yn fwy tebygol o ymwneud â gweithgareddau ar ôl yr ŵyl, fel mynychu digwyddiadau eraill yn dathlu diwylliant Cymraeg, gweld mwy o gerddoriaeth, celf, theatr Gymraeg a chefnogi digwyddiadau cymunedol lleol yn y dyfodol. 

Lefelau uwch o ymgysylltu yn ystod yr ŵyl a'r canfyddiad o ddilysrwydd yr ŵyl oedd y prif ysgogiadau ar gyfer effaith cymdeithasol ehangach ac felly'n hanfodol i lwyddiant gwyliau yn y tymor hir. Mae hyn yn dangos bod yr hyn sy'n digwydd mewn gŵyl yn hanfodol ar gyfer gwaddol diwylliannol a chymunedol. Mewn gŵyl ffisegol nodweddiadol, gellir cynyddu lefelau ymgysylltu gyda gosodiad gofalus i safle'r ŵyl, gŵyl greadigol a rhaglen gefnogol (yn cynnwys helfeydd sborion, llwybrau gŵyl), hyfforddi staff a gwirfoddolwyr i sicrhau bod gan fynychwyr gyfleoedd digonol ac yn cael eu gwthio'n gynnil i 'weld, dysgu a gwneud' amrywiaeth o weithgareddau. 

Fodd bynnag, mewn byd rhithwir, mae hyn yn llawer mwy heriol, yn enwedig gan mai ychydig o brofiad sydd gan lawer o drefnwyr gwyliau a chynulleidfaoedd o greu a llywio gofod gŵyl rhithwir. Bydd angen i brofiad gŵyl rhithwir trochol a chofiadwy fynd ymhell y tu hwnt i ffrydio artistiaid cerddorol yn fyw, gan annog ymwelwyr i roi cynnig a dysgu pethau newydd, rhyngweithio a chreu cynnwys newydd gyda phobl eraill a theimlo'n rhan o gymuned ehangach.

Ond os caiff ei wneud yn dda, gellid ail-becynnu a rhoi gwerth ariannol ar y cynnwys hwn a gyd-grëwyd ynghyd â'r profiad rhithwir o’r ŵyl yn ystod y digwyddiad ac wedi hynny gan gynnig cyfleoedd newydd cyffrous i gyrraedd cynulleidfa sy'n llawer mwy gwasgaredig yn ddaearyddol a mwy amrywiol.

Fodd bynnag mae'n annhebygol y bydd digwyddiadau rhithwir yn cymryd lle gwyliau traddodiadol yn llwyr yn y dyfodol. Mae'n fwy tebygol y byddant yn ategu'r ŵyl go iawn, yn hytrach na chymryd ei lle.

Dyfodol gwyliau cerddoriaeth?

Yn ôl  Festicket, byddai 82% o fynychwyr gwyliau'n teimlo'n hyderus i fynd i ŵyl o fewn un i chwe mis ar ôl codi'r cyfnod clo ac yn y grŵp hwnnw byddai 66% yn hapus i fynd o fewn un i dri mis. Mae gwahanol senarios ynghylch dyfodol gwyliau yn cael eu trafod ar hyn o bryd.

Os caiff brechlyn ei ganfod, efallai y bydd gwyliau'n digwydd fel arfer yn 2021. Ond gallai hyn hefyd arwain at orlethu'r farchnad gyda gormod o wyliau yn 2021.

Mae rhai gwledydd fel Sbaen ac Iwerddon yn cynllunio gwyliau a digwyddiadau llai yr haf hwn gyda mesurau pellhau cymdeithasol a glanhau llym ar waith. Ond efallai na fyddai pellhau cymdeithasol mewn digwyddiadau a gwyliau mawr yn hyfyw yn economaidd nac yn ymarferol. A allai hyn arwain at gyngherddau/gwyliau lle byddai'r gynulleidfa'n profi'r digwyddiad o gysur eu ceir eu hunain gyda phellhau cymdeithasol fel gŵyl Drive-In Amwythig?

Senario arall yw'r cynllun capasiti llawn sy'n cysylltu gwyliau a digwyddiadau â phrofi gorfodol am coronafeirws, sy'n ysgogiad i fynychwyr gwyliau gael eu profi a mabwysiadu Ap olrhain y GIG.

Yn gyffredinol, mae'r pandemig presennol wedi dangos gwendid y sector ac wedi gorfodi trefnwyr gwyliau a chynulleidfaoedd i archwilio opsiynau rhithwir. Fodd bynnag does dim modd gwybod beth yw effaith tymor hir a llwyddiant y dewisiadau hyn ar hyn o bryd.

 
  • [i] Koenig-Lewis, N. & Palmer, A. (2017), ‘Identifying customer behaviour segments based on a hierarchy of engagement – an exploratory study of a music festival’, Papur a gyflwynwyd yn y 25ain ICRM (International Colloquium in Relationship Marketing), Ysgol Rheoli Munich yn LMU Munich, yr Almaen, 12-14 Medi 2017.
  • Hill, S., Mulville, J.; Koenig-Lewis, N., Thomas, I., Murray, S., O’Connell, J. (2017), ‘One Weekend in October: The Sŵn Festival, Cardiff, Papur a gyflwynwyd yng Nghynhadledd CHIME “Music, Festivals, Heritage” 25-28 Mai 2017, a drefnwyd gan Archif Jazz Siena Archive, yr Eidal 25-28 Mai 2017.
  • Grŵp Ymchwil Gwyliau Prifysgol Caerdydd. (2017). A Spotlight on Sŵn Music Festival 2016. Yr adroddiad terfynol ar gael i'w lawrlwytho: https://www.cardiff.ac.uk/__data/assets/pdf_file/0004/672529/Festivals-Research-Group-Report-March-2017.pdf
  • Koenig-Lewis, N., Organ, K., and Palmer, A.  (2015), ‘The ‘ladder of engagement’ to building lasting customer relationships”, Papur cystadleuol a gyflwynwyd yn y 15fed ICRM (International Colloquium in Relationship Marketing), Ysgol Busnes Hanken, y Ffindir 15 i 17 Medi 2015.
  • Organ, K., Koenig-Lewis, N., and Palmer, A.  (2015), ‘The “ladder of engagement” – an empirical study of its link to loyalty’, Proceedings of the Academy of Marketing Conference 2015, ISBN: 9781905952649, Limerick, Iwerddon, 7-9 July 2015.
  • Organ, K., Koenig-Lewis, N., Palmer, A. and Probert, J. (2015), “Festivals as agents for behaviour change: a study of food festival engagement and subsequent food choices”, Tourism Management, 48(0), pp. 84-99, DOI:  10.1016/j.tourman.2014.10.02

Share