Get a ‘Proper’ Job, cyfres dau, Pennod #6 – Trafod Creadigrwydd yn y Cwricwlwm Cymreig newydd

I weithwyr creadigol sy’n becso am y materion pwysig, mae Get a ‘Proper’ Job yn bodlediad sy’n trafod ac yn arddangos uchafbwyntiau ac isafbwyntiau gweithio mewn swydd neu sefydliad creadigol. Rydym yn dod ag arbenigwyr y diwydiant ynghyd i rannu gwybodaeth newydd.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 3 December 2020

Ym mhennod olaf cyfres dau Get A 'Proper' Job mae’r cyflwynydd Kayleigh Mcleod yn siarad â Kathryn Lewis, Arweinydd Strategol ar gyfer diwygio'r cwricwlwm a chelfyddydau mynegiannol yng Nghonsortiwm Addysg Canol y De a’r Technolegydd Cerdd, Cyfansoddwr a Dylunydd Sain Alex Rees, sydd yn Asiant Creadigol gyda  Chyngor y Celfyddydau ac yn gyflwynydd podlediad Dysgu Creadigol, am y cwricwlwm Cymreig newydd gan ganolbwyntio ar y Celfyddydau Mynegiannol.

Mae'r bennod hon yn canolbwyntio ar beth fydd hyn yn ei olygu i weithwyr creadigol a sut y bydd yn effeithio ar fyd gwaith yn y dyfodol.

Kathryn Lewis, Alex Rees and Kayleigh Mcleod selfies recording podcast

Wrth sôn am ganlyniadau'r Cwricwlwm Cymreig newydd, dywedodd Kathryn: "Pobl ifanc a fydd wedi cael addysg gelfyddydol o oedran cynnar, nid dim ond rhywbeth achlysurol a gynhelir ar hap brynhawn Gwener, ond byddant wedi cael gwybodaeth, sgiliau, profiadau, technegau. Byddent wedi meithrin iaith y celfyddydau yn ogystal ag adeiladu eu creadigrwydd, eu harloesedd, eu hyder, eu gwydnwch. Beth rwy’n ei olygu yw bod y rhestr yn ddiddiwedd! Dyna'r bobl rydyn ni eisiau gweithio gyda nhw yn y dyfodol, y bobl y mae angen i ni eu cael yn ein heconomi yn y dyfodol."

Dywedodd Alex: "Pan fydd pobl ifanc yn dod o hyd i gysylltiad ystyrlon â'r celfyddydau mewn rhyw ffordd, mae'n fuddiol mewn cymaint o ffyrdd. Wrth wraidd popeth, y sylfaen yw lles ac os oes gennych y fath honno o ymgysylltiad calonnau a meddyliau – y creadigrwydd ac yn y blaen – rydych yn deall eu bywydau ychydig yn fwy, rydych ychydig yn fwy ymwybodol o bethau ac efallai'n iachach. Os gallwn ni sefydlu hyn nawr yn ystod y cam addysgol, fel bod pobl yn tyfu i fyny gyda'r arferion hynny fel eu bod yn deall ychydig yn fwy, bydd o fudd i bopeth, mewn gwirionedd."

Recordiwyd y bennod hon o bell o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19 ym mis Awst 2020.

Gwrandewch ar y bennod lawn: 

iTunes: https://apple.co/33K8XFj

Spotify: https://spoti.fi/3ggArHS

Dolenni a rhagor o wybodaeth

Gwnaethpwyd Get a ‘Proper’ Job gan rwydwaith ddinesig Caerdydd Creadigol ar y cyd â’r gymuned greadigol ac ar ei chyfer.

Gwrando ar benodau eraill o gyfres gyntaf Get A 'Proper' Job yma.