Get A ‘Proper’ Job pennod #2 – Dim Mater Chwerthin

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 6 February 2020

I weithwyr creadigol sy’n poeni am y materion pwysig, mae Get a ‘Proper’ Job yn bodlediad sy’n trafod ac yn arddangos uchafbwyntiau ac isafbwyntiau gweithio mewn swydd neu sefydliad creadigol.

Rydym yn dod ag arbenigwyr y diwydiant ynghyd i rannu gwybodaeth newydd.

Ym mhennod dau, bydd Dr Dimitrinka Stoyanova Russell o Ysgol Busnes Caerdydd yn sôn am ei hymchwil gyda Nick Butler - Nid Mater Chwerthin: gwaith ansicr a llafur emosiynol mewn comedi llwyfan.  

Byddwn wedyn yn sgwrsio â’r digrifwr Steffan Evans sy’n ymateb i ymchwil Dimi. Mae Steffan wedi bod yn llwyddiant enfawr ar y sîn gomedi Gymreig ers iddo ddechrau perfformio yn 2016. Mae wedi cefnogi Elis James ar daith, gweithio ar raglenni teledu ac ar-lein, yn ogystal â pherfformio mewn gwyliau ledled y DU gyda sioeau Tales from Wales ac If I Die Right Now, ymhlith rhai eraill.

Meddai Steffan: “Cael pobl i chwerthin yw’r peth gorau am fod yn ddigrifwr.  Mae gig da fel nenblymio - dwi erioed wedi nenblymio - ond bod fyny yno a gwybod bod y parasiwt am agor yw’r teimlad gorau erioed.” 

Gwrandewch ar y bennod lawn:

Gwnaethpwyd Get a ‘Proper’ Job ar y cyd â’r gymuned greadigol ac ar ei chyfer.