Get A 'Proper' Job cyfres dau, rhifyn #5 – Dechrau busnes creadigol

I weithwyr creadigol sy’n becso am y materion pwysig, mae Get a ‘Proper’ Job yn bodlediad sy’n trafod ac yn arddangos uchafbwyntiau ac isafbwyntiau gweithio mewn swydd neu sefydliad creadigol. Rydym yn dod ag arbenigwyr y diwydiant ynghyd i rannu gwybodaeth newydd.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 20 November 2020

Ym mhumed rhifyn yr ail gyfres o Get A 'Proper' Job mae'r cyflwynydd Kayleigh Mcleod yn siarad gyda Prateeksha Pathak, ymchwilydd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd ac un o gyfranogwyr y cynllun i entrepreneuriaid, Ymlaen! a Claire Parry-Witchell, Mentor Busnes Menter Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd am bwysigrwydd datblygu entrepreneuriaeth i ddyfodol y diwydiannau creadigol.

Mae'r rhifyn hwn yn canolbwyntio ar sut i ddechrau a datblygu busnes creadigol a gwerth menter ac entrepreneuriaeth. 

Podcast recording selfies from Claire Parry-Witchell, Kayleigh Mcleod & Prateeksha Pathak

Ar bwnc entrepreneuriaeth yn ystod y pandemig, dywedodd Claire: "Gan ein bod yn gweithio gyda chysyniadau cynnar iawn a chwmnïau newydd, dros yr haf tyfodd y galw am gymorth ar y cam hwnnw. Rwy'n tybio bod y cyfnod clo wedi cael effaith enfawr ar y myfyrwyr a'r graddedigion, gan feddwl y tu allan i'r bocs am sut y gallen nhw gael syniad am fusnes. Roedd fel pe bai'n gyfnod delfrydol ar gyfer meddwl yn greadigol am fusnes."

Wrth sôn am y gwersi a ddysgwyd ers dechrau ei busnes, dywedodd Prateeksha: "Gofynnwch y cwestiynau os oes gennych chi rai. Mentrwch, aseswch bethau - os nad ydych chi'n gofyn rydych chi'n 100% sicr na chewch chi ganlyniad. Os gofynnwch chi, o leiaf mae'r ganran yna'n lleihau ychydig, hyd yn oed os yw'r cwestiynau'n swnio'n absẃrd i chi."

Recordiwyd y bennod hon o bell o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19 ym mis Awst 2020.

Gwrandewch ar y bennod lawn:  

iTunes: https://apple.co/3lO9n4D 

Spotify: https://spoti.fi/3kReX4O

Dolenni a rhagor o wybodaeth

 

Gwnaethpwyd Get a ‘Proper’ Job gan rwydwaith ddinesig Caerdydd Creadigol ar y cyd â’r gymuned greadigol ac ar ei chyfer.

Gwrando ar benodau eraill o gyfres gyntaf Get A 'Proper' Job yma.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event