Lleisiau o Gymru: Profiad ffilm 360° am ddim yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru

Profile picture for user Beca Harries

Postiwyd gan: Beca Harries

Dyddiad: 26 April 2019

Profiad ffilm fer yw Lleisiau o Gymru, sy'n arddangos tirlun dramataidd ac amrywiol Cymru a'r sin gerddoriaeth fywiog sy'n rhan ohono, gyda pherfformiadau gwefreiddiol gan ddoniau cerddorol newydd Cymru. O fynyddoedd Eryri i glybiau canol dinas Caerdydd, bydd cynulleidfaoedd yn profi taith drochol ogoneddus ac yn dysgu beth yw ystyr bod yn artist yng Nghymru heddiw.

Bydd ffilm Lleisiau o Gymru ar gael am ddim i bawb mewn dôm taflunio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 2 a 4 Mai 2019. Cafodd y chwe thrac eu recordio a'u cymysgu'n arbennig gyda sain ambisonig a ffilm 360º tri dimensiwn, sy'n cyfleu hud y foment drwy chwe lens hemisfferig sy'n cludo'r gwylwyr i ganol y gig rhithwir. 

Drwy gydol haf a hydref 2018, bu camerâu yn dilyn doniau newydd gorau Cymru; o Ŵyl y Dyn Gwyrdd i un o gadarnleoedd cerddoriaeth Cymru, Clwb Ifor Bach. Cewch ddarganfod y band benywaidd beiddgar, Adwaith, y cerddor-gyfansoddwr gwerin modern a'r offerynnwr amryddawn The Gentle Good; asiad egnïol Astroid Boys; synthesis rap-jazz-clwb Afro Cluster, côr meibion y Brythoniaid, a sain electronig unigryw Marged.

Ariannwyd y prosiect gan y Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth, sydd â'r nod o annog syniadau am gynnyrch newydd ac arloesol, gan weithio mewn partneriaeth, a fydd yn cael mwy o effaith ac yn denu mwy o ymwelwyr. Gan gyfrannu at Flwyddyn Darganfod Croeso Cymru 2019, mae Lleisiau o Gymru yn rhannu'r weledigaeth o wahodd pobl i ddarganfod Cymru o'r newydd, a thrwy hynny maen nhw wedi darganfod rhywbeth newydd ac arbennig amdanyn nhw eu hunain, rhywbeth sy'n serio i'r cof ac yn aros yn yr enaid.

Bydd modd i bawb wylio'r ffilm ar-lein drwy sianeli YouTube a Facebook Canolfan Mileniwm Cymru o 3 Mai 2019 ymlaen. I sicrhau'r profiad gwylio gorau, rydyn ni'n argymell eich bod yn gwisgo clustffonau rhithwir, sy'n addas ar gyfer pobl dros 12 oed.

Meddai Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru, Graeme Farrow:

Mae'r llais wrth galon popeth rydyn ni'n ei wneud yn y Ganolfan, ac mae'r ffilm yma'n adlewyrchu ein cenhadaeth i roi llwyfan hygyrch i leisiau cerddorol amrywiol a chyfoes o Gymru gyfan. Drwy ddefnyddio'r cyfryngau digidol, ein nod yw arddangos talent o Gymru a harddwch ein cenedl i'r byd.

Darllenwch ynglŷn â dyddiadau'r profiad yma. 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event