Mapio

Ceir ymwybyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd yr economi greadigol, nid yn unig o ran ei chyfraniad at ansawdd bywyd pobl, ond fel rhan benodol o'r economi yn ei rhinwedd ei hun.

Mae ymchwil gan Nesta yn awgrymu bod mwy nag 8% o holl swyddi’r DU yn economi greadigol y wlad.

Yn dilyn adroddiad Hargreaves yn 2011, nododd Llywodraeth Cymru y Diwydiannau Creadigol fel un o naw sector economaidd i’w blaenoriaethu. Dangosodd ystadegau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2015 fod 84,000 o bobl yn gweithio yn yr economi greadigol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 53,000 yn gweithio yn y Diwydiannau Creadigol a 31,000 mewn swyddi creadigol y tu allan i’r diwydiannau creadigol.

Mae tystiolaeth o ffynonellau amrywiol felly yn cadarnhau'r argraffiadau cynnar fod Caerdydd yn ddinas greadigol a bod ganddi sector diwylliannol o bwys sy'n rhan annatod o fywyd trefol ac yn gonglfaen i’w heconomi.

Fodd bynnag, nid oes llawer o ddata cyfredol ar ffurf, cymeriad ac ehangder yr economi greadigol yng Nghaerdydd - data sy’n ein caniatáu i fapio cryfderau a gwendidau ond hefyd i ddatblygu strategaethau â sail gadarn ar gyfer cefnogi a datblygu’r sector.

Yma, yng Nghaerdydd Creadigol, rydym wedi dechrau ar y broses o fapio economi greadigol Caerdydd. Rydym yn deall, wrth gwrs, na fydd unrhyw fap byth yn gynhwysfawr na chyflawn mewn sector sy’n newid mor gyflym, ond rydym am gynnig darlun manylach o gymeriad a lleoliad gweithgareddau creadigol amrywiol y ddinas.