Ein Caerdydd Creadigol: Cyflwyno pobl greadigol 2020 a gomisiynwyd

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 15 June 2020

Ym mis Mai, lansiodd Caerdydd y comisiwn â thâl – Ein Caerdydd Creadigol – prosiect straeon digidol i ddangos yr hyn sy'n arbennig am y ddinas hon a'r gymuned greadigol hon yn 2020.
 

Y briff oedd creu darn o waith yr un sy'n egluro, yn amlygu ac yn mynegi 'ein Caerdydd creadigol' eleni - i dynnu sylw at yr hyn sydd eisoes yn digwydd ac sy'n hysbys yn ein dinas greadigol, beth sy'n anweledig a/neu anhysbys a beth allai ddigwydd yn y dyfodol.
  
Mae ein Caerdydd creadigol yn ffordd o alluogi amryw o leisiau creadigol i adrodd eu stori. Er mwyn cyfleu'r naratif yn iawn, rhaid inni ei roi yn nwylo'r bobl greadigol er mwyn i bob un ohonynt ddangos inni eu Caerdydd creadigol.
 
Yn dilyn detholiad cystadleuol, dewiswyd yr unigolion creadigol. O'r darlunio digidol i opera, o garnifal i gomedi, mae'r comisiynau'n rhychwantu amrywiaeth o sectorau creadigol a byddant yn arwain at storïau a gaiff eu hadrodd drwy amryw o gyfryngau gan gynnwys ffotograffiaeth, print tecstilau, fideo a cherddoriaeth.

Y bobl greadigol a gomisiynwyd yn 2020 yw: Alyson Henry, Beth Blandford, Gareth John a Morgan Thomas, Ian Cooke-Tapia, Jason Mohammad, Jeremy Huw Williams, Katie Harrington, Keith Murrell, Magnus Oboh, Martyn Wilson, Molly Caenwyn, Rosie Moriarty-Simmonds, Sandra Gustafsson a Tamsin Griffiths. 

Our creative Cardiff 2020 commissioned creatives

Dywedodd Vicki Sutton, Rheolwr Prosiect Caerdydd Creadigol: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’r grŵp yma o unigolion creadigol er mwyn dod â’r amryw o straeon maen nhw wedi rhannu â ni yn fyw. Mae eleni wedi golygu llawer o ansicrwydd a newid ar gyfer gweithwyr creadigol yn y ddinas. Dwi’n gobeithio y bydd y prosiect yma’n helpu taflu goleuni a rhannu gwaith y gweithwyr creadigol yma yn ogystal â sbarduno cysylltiadau newydd ar draws y sectorau creadigol.”
 
Bydd eu darnau o waith yn cael eu lansio ar wefan Caerdydd creadigol yr haf hwn.
 
Mae sawl un yn y grŵp yn awyddus i gael mewnbwn gan y gymuned greadigol ehangach yn eu darn – darllenwch eu bywgraffiadau isod am sut i gymryd rhan.
 
Dyma ragor am ein pobl greadigol yn 2020:

Alyson Henry

Alyson HenryRwy'n adroddwr straeon digidol ac yn gynhyrchydd gyda chefndir mewn newyddiaduraeth. Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar ddiwylliant, hunaniaeth, cymuned a bywyd o safbwynt y fenyw. Rwyf wedi gweithio ar brosiectau creadigol gan ddefnyddio fideo a gynhyrchwyd gan y defnyddiwr yn Efrog newydd ac wedi gweithio hefyd yn Ne Affrica ar brosiect a oedd yn edrych ar drais ar sail rhyw. Mae gennyf ddiddordeb brwd mewn adrodd straeon pobl ifainc trwy sain a fideo ac wedi gweithio ar nifer o brosiectau amrywiol BBC Cymru. Gellir cysylltu â mi yma: https://twitter.com/AlysonHenry_

Beth Blandford 

Beth BlandfordRwy'n ddarlunydd digidol 23 mlwydd oed o Gaerdydd, ac rwy'n tynnu llun gyda'r iPad a Phensil Apple. Rwy'n hoffi canolbwyntio ar dynnu lluniau o fenywod yn meddiannu lle ac yn creu gofod iddynt eu hunain. Yn aml, rwy'n tynnu lluniau o ferched mewn ystafelloedd, mae'r gofod o'u cwmpas yn llawn manylion ynghylch pwy ydynt, pwy maent am fod a phwy mae'r byd am iddynt fod. Rwy'n credu bod darlunio yn gallu rhyfeddol i droi storïau cymhleth, amlweddog a mân yn byrth hygyrch ac rwy'n falch o allu adrodd hanes rhai o ferched creadigol amlycaf Caerdydd. Gellir dod o hyd i fwy o'm gwaith yn www.blandoodles.com, neu ar Instagram: @blandoodles

Gareth John

Morgan Thomas and Gareth JohnFe ymunais ag Academi Hijinx sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter yn 2015 ac fe ddechreuais hyfforddi fel perfformiwr. Yn fuan wedi hynny fe ges i ran Martin yn Meet Fred. Dwi wedi treulio’r pum mlynedd diwethaf yn teithio’r byd gyda’r sioe wrth barhau fy hyfforddiant gyda Hijinx. Dwi wedi perfformio yn Tsiena, De Corea, yr Unol Daleithiau a thros Ewrop gyda Meet Fred. Yn 2019 fe berfformiais yn Mission Control, cynhyrchiad gan Hijinx a National Theatre Wales, yn Stadiwm Principality.

Morgan Thomas

Fe dderbyniais hyffroddiant ym Mhrifysgol De Cymru, yr ATRiuM ac yng Ngholeg Brenhinol Cymreig Cerdd a Drama. Bu fy nheithiau cyntaf o’r Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol gyda’r sioe hynod gorfforol ‘Drumchasers – Narrated by Stephen Fry.’ Mae credydau perfformio diweddar yn cynnwys bod yn aelod o gast ‘Into The Light’ (Hijinx ar y cyd â Blind Summit). Dwi hefyd yn gweithio fel cyfarywddwr, darlithydd, coreograffydd symud ac aelod o banel clyweliad. Dwi’n dyfeisio a pherfformio fel cyd-sefydlydd cwmni theatre Yeah Yeah. YouTube: https://youtu.be/MQtrKksslNo, Instagram: https://www.instagram.com/yeahyeahuk, Twitter: https://twitter.com/yeahyeahuk Facebook: https://www.facebook.com/yeahyeahuk.

Ian Cooke-Tapia

Ian Cooke-TapiaDwi'n adroddwr straeon, darlunydd ac entrepreneur amlddisgyblaethol. Mae fy ngwaith personol yn dod â phethau at ei gilydd: mae materoliaeth, yr amgylchedd byw, mudiadau anifeiliaid, ac amlieithrwydd yn dod ynghyd i greu bydoedd braf. Fi yw awdur Coyote Crosses the Continent, a darluniwr Martina and the Bridge of Time. Yn 2020, sefydlais Cooked Illustrations (https://www.cookedillustrations.com/ / https://twitter.com/cookedillustra) fel platfform i gydweithio gyda gwyddonwyr trofannol a chymdeithasol o bob rhan o'r byd, er mwyn ymchwilio i ffyrdd o wella cyfathrebu gwyddonol drwy straeon a chyfryngau newydd. Yn ogystal, fi yw cyfarwyddwr creadigol Ffangaí, platfform cyhoeddi celfyddydau a diwylliant rhyngwladol sy'n dal i gael ei ddatblygu, ar gyfer lleisiau lleiafrifol a syniadau amgen.

Jason Mohammad

Jason MohammadDwi’n gyflwynydd radio a theledu o Gaerdydd, yn siarad â dilynwyr pêl droed am bob gôl a drama bob dydd Sadwrn ar Final Score BBC One fel un o brif gyflwynwyr pêl droed y BBC. Yna, dwi’n cyflwyno Good Morning Sunday ar BBC Radio 2 rhwng 6am-9am cyn cychwyn paratoi ar gyfer fy slot dydd Llun-dydd Mercher ar BBC Radio Wales Phone-in. Dwi hefyd yn llais cyson ar BBC Radio 5 Live. Dwi wedi cyflwyno 5 Live Sport, y rhaglen pêl droed “606” ac wedi arwain nosweithiau pêl droed rhyngwladol a Chynghrair y Pencampwyr. Dwi wedi darlledu ar gyfer dau rownd derfynol Cwpan y Byd pêl droed ym Mrasil a Rwsia ac Ewro 2016 yn Ffrainc. Ar ben hyn oll dwi hefyd wedi darlledu yn ystod Rio 2016! Mi wnaeth astudio ym Mhrifysgol Caerdydd rhoi platfform i mi fod yn greadigol a’r cyfle i ddysgu sgiliau storïa a darlledu dwi bellach yn defnyddio yn fy mywyd bob dydd. Dwi newydd lansio cynnyrch newydd, rhaglen dosbarth meistr gyda cholegau, prifysgolion a hefyd ar-lein – er mwyn rhoi’r cyfle i newyddiadurwyr a gohebwyr y dyfodol i ddarllen a chyflwyno’r newyddion yn ogystal â datblygu sgiliau ysgrifennu ar leoliad. Dwi ar Drydar @jasonmohammad.

Jeremy Huw Williams 

Jeremy Huw WilliamsBariton ydw i, sy'n perfformio mewn opera a datganiadau ar lwyfannau ar draws y byd, ond Caerdydd, lle cefais fy ngeni, yw fy nghartref o hyd. Yn 1993, cynrychiolais Gymru yng nghystadleuaeth Canwr y byd Caerdydd a gwnes i berfformio am y tro cyntaf gyda'r WNO. Ers hynny rwyf wedi canu mwy na 60 o rolau operatig yn rhyngwladol. Rwyf wedi perfformio'n aml yn Neuadd Dewi Sant mewn datganiad, gyda BBC NOW, ac yr oedd yn unawdydd gyda WNO yng ngala agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru. Rwy'n mwynhau gweithio gyda chantorion a chyfansoddwyr ifanc talentog Caerdydd, ac yn ymweld â llawer o orielau celf cain y ddinas. Gwefan: www.jeremyhuwwilliams.com

Katie Harrington

Katie HarringtonRwy'n ffotograffydd ac artist yn ne Cymru a ailgartrefwyd o Dde Ddwyrain Lloegr, Trefi Medway ac wedi graddio o Brifysgol Fetropolitan Abertawe. Llygad am y lo-fi, cariad at ffilm ddu a gwyn, gigs pync chwyslyd a syniadau a chymunedau 'gwnewch ef ichi eich hunan', rwy'n cofleidio'r agweddau hyn yn fy ngwaith gwneud delweddau, gyda chred gref y dylai celf a ffotograffiaeth fod yn hygyrch ac ar gael i bawb! Ydych chi am ddod yn rhan o'm darn celf gymunedol sy'n myfyrio ar ein hamgylchiadau presennol a'r sefyllfa fyd-eang oherwydd COVID-19? O gartref, rwy'n gofyn i bobl greadigol Caerdydd greu eu ciplun eu hunain o sut maent yn ymdopi neu'n ymateb i'r newidiadau digynsail i fywyd bob dydd yn 2020, gan ddefnyddio ffotograffiaeth cyfrwng 'twll pin' DIY. Cysylltwch â  katieharringtonphotography@hotmail.com i dderbyn Homebrewed: Pecyn Ffotograffiaeth Dwll Pin Gwnewch ef eich Hun  ac ychwanegwch eich llais at sut mae cymuned greadigol Caerdydd yn gwneud – bydd eich lluniau twll pin yn cael eu cynnwys fel rhan o ddarn o arddangosfa ochr yn ochr â gwaith pobl greadigol eraill i ddweud eich stori! Ewch i weld mwy ar www.homebrewed.org.uk neu dilynwch fy Instagram (@homebrewedphotos).

Keith Murrell

Keith MurrellDwi ddim yn hoff iawn o labeli, ond yn y cyd-destun hwn gellid fy ngalw i'n artist cymunedol o Butetown: a byddwn i'n dweud bod fy niddordeb ac ymarfer creadigol yn deillio o'r creadigrwydd beunyddiol oedd ym mhob man o'm hamgylch wrth dyfu i fyny. Mae fy ngwaith yn aml yn ymwneud â Butetown, ond nid bob tro. Dwi'n canu, ysgrifennu, tynnu lluniau, arlunio ac yn cynhyrchu Carnifal Butetown a digwyddiadau celfyddydol eraill sy'n canolbwyntio ar y gymuned.

Magnus Oboh

Magnus ObohMagnus Oboh yw fy enw i a dw i'n artist recordio/fideograffydd sydd wedi ei leoli yma yng Nghaerdydd, Cymru.
Dechreuais wneud cerddoriaeth fel hobi dros 10 mlynedd yn ôl a thros y blynyddoedd, aeth yn fwy difrifol yna dysgais am fideograffeg (dysgais i'r ddau imi fy hunan) a dechreuais fy nghwmni cyfryngau fy hun, sef TAB Media. Fel cerddor dw i wedi perfformio ledled Caerdydd, Prydain, Ewrop ac dwi wedi bod yn gwneud fideos cerddoriaeth i artistiaid yng Nghymru a ledled Prydain hefyd. Dwi hefyd yn gwneud ffilmiau byrion, rhaglenni dogfen, digwyddiadau hyrwyddo, yn y bôn os yw'n golygu ffilmio a golygu, mae gen i offer ar gyfer y gwaith. Rwy'n mwynhau'r cydbwysedd o greadigrwydd rhwng gwneud cerddoriaeth a ffilm oherwydd bod sain a gweledol yn gweithio'n wych gyda'i gilydd. Fy nod yw cyflwyno naratif gwahanol i gerddoriaeth a ffilm yng Nghymru a defnyddio'r sgiliau hyn i addysgu a dod â chymunedau at ei gilydd. 

Martyn Wilson

Martyn WilsonErs fy ngenedigaeth rwy'n byw yng Nghaerdydd, ac mae'n ddiogel dweud fy mod yn ei alw'n gartref. Fel ffotograffydd stryd angerddol iawn, mae gen i gariad at waith haniaethol, ac mae adrodd stori drwy ddelweddau y gall pawb uniaethu â hi yn agwedd allweddol. Ddim yn siŵr pa oedran oeddwn i pan godais i gamera am y tro cyntaf, ond rwy'n cofio fy ngwyliau cyntaf yn Sbaen yn 14 oed ac ni adawn i unrhyw un gyffwrdd â'r camera 35mm - roedd fel petai'n eiddo imi ac nid oedd yn unrhyw beth neu unrhyw un yn gallu ei gael allan o'm dwylo ... a heddiw mae'n dal yr un fath. Instagram: @noedit_martywild. 'Caru bywyd a ffotograffiaeth'

Molly Caenwyn

Molly CaenwynRwy'n ffotograffydd ac yn hanesydd ffotograffig gyda diddordeb brwd mewn materolrwydd ffotograffig a phrofiad ffenomenolegol ffotograffiaeth. Rwy'n gweithio mewn prosesau ffotograffig analog ac amgen, fel cyanoteipiau, ac yn datblygu ffilm gan ddefnyddio proses datblygu Caffenol. Codir fy narnau gyda fframweithiau damcaniaethol gan gynnwys erotigiaeth, ffeministiaeth a thruenusrwydd Julia Kristeva sy'n cael eu defnyddio i archwilio agweddau cymdeithasol tuag at ryw a rhywedd. Mae hyn hefyd yn ymestyn i fy ymchwil hanesyddol sy'n canolbwyntio ar hyn o bryd ar ffotograffiaeth a'r diwydiant rhyw, hanes LGBT a ffotograffwyr benywaidd cynnar Cymru. Mae fy ngwaith ar gyfer y prosiect hwn yn ymwneud â sut mae pobl yn delio â galar a sut maent yn galaru yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau ar symud. Rwy'n ymestyn allan i ofyn sut y mae pobl eraill wedi bod yn delio â cholled mewn cwarantin, felly os  ydych yn hapus/yn teimlo'n gyfforddus yn cymryd rhan ac mae unrhyw gwestiynau gyda chi, mae croeso i chi gysylltu â ni: www.mollycaenwyn.co.uk, Instagram: https://www.instagram.com/mollycaenwyn/, Twitter: https://twitter.com/MollyCaenwyn.

Rosaleen (Rosie) Moriarty-Simmonds OBE 

Rosaleen Moriarty-SimmondsDwi'n teimlo'n angerddol dros Gydraddoldeb ac Amrywiaeth Anableddau, ac yn aelod o Artistiaid Paentio Mouth and Foot sy'n enwog drwy'r byd. Dwi'n hoff o liwiau llachar sy'n adlewyrchu fy mhersonoliaeth, ac yn bennaf rwy'n defnyddio acrylig a dyfrliwiau. Ysgrifennais fy mywgraffiad "Four Fingers and Thirteen Toes" yn 2007 (diweddarwyd yn 2009) oedd yn cysylltu stori fy mywyd â hanes diffiniol o'r cyffur Thalidomide. Fel rhywun sy'n frwd dros y celfyddydau perfformio, dwi wedi gweithio gyda pherfformwyr anabl a pherfformwyr nad ydynt yn anabl, rhai proffesiynol ac amatur. Fy mhrofiad actio diweddaraf oedd yn "The Cardiff Tapes" gafodd ei berfformio yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yn 2019. Gwefan: http://www.rms-consultancy.co.uk/ Instagram: https://www.instagram.com/artbyrms/ Twitter: https://twitter.com/RosieMS.

Sandra Gustafsson

Sandra GustafssonRwy'n ddylunydd perfformio o'r Ffindir a symudais i Gaerdydd yn 2016 i ddilyn gradd Meistr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ers gwneud Caerdydd yn gartref i mi, rwyf wedi mynd yn angerddol am gelfyddydau cyfranogol a chymunedol ac yn ddiweddar mae wedi gweithio gyda sefydliadau megis SPARC Valleys Kids a Chymuned Artis. Rwyf hefyd yn creu fy ngwaith celf fy hun, sydd wedi cael ei arddangos yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Gate a Gŵyl Gwnaed yn y Rhath. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn creu perfformiadau mewn lleoedd annisgwyl a dod o hyd i bwrpasau newydd ar gyfer gwrthrychau rydym wedi'u canfod. Gellir dod o hyd i enghreifftiau o'm gwaith yn: www.Sandra-gustafsson.com. Fel rhan o'r comisiwn, rwy'n creu gwaith celf sy'n darlunio aelodau o gymuned greadigol Caerdydd ac rwy'n gwahodd artistiaid i anfon lluniau ohonynt eu hunain yn eu man gweithio yn ystod y cyfnod cloi. I gymryd rhan neu i gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at: sandragustafssondesign@gmail.com.

Tamsin Griffiths

Tamsin GriffithsDwi’n artist dwyieithog traws disgyblaethol gyda diagnosis Iechyd Meddwl (MH), sy’n creu prosiectau rhyngweithiol cyfranogol i bylu ffiniau ffurfiau celf a herio syniadau ynghylch iechyd ac Iechyd Meddwl, drwy ffurf a chynnwys. Gan ddefnyddio fy sgiliau a fy mhrofiad yn y sectorau ffilm, theatr, celf weladwy a sain dwi’n creu a pherfformio gwaith amserol sy’n cwestiynu a herio canfyddiadau, yn benodol ar thema Iechyd Meddwl. 

Mae cydweithio’n rhan annatod o fy ngwaith ac yn 2015 fe ffurfiais bartneriaeth gyda’r artist Paul Whittaker sydd wedi datblygu mewn i gwmni celfyddydau ac iechyd o’r enw Four in Four: www.fourinfour.co.uk, Twitter: @FourinFour1, Instagram: @fourinfour_artsandhealth, Facebook: @FourinFourWales (Four in Four - Arts & Health). Mae Four in Four yn gweithredu fel ymgynghorwyr ar gyfer y celfyddydau, iechyd, addysg a’r trydydd sector gan gynnwys; ACW, PHW, NHS Cymru, CAVHB, The Wallich a NCMH. Dilynwch fi ar Twitter @TamsGriffiths, Instagram: @TamsinGriffiths