​Cawsom sgwrs gyda'r bardd llwyddiannus o Bwllheli, Gruffudd Owen, ychydig yn ôl am ei waith a sut y gallwn wneud Caerdydd mor greadigol â phosib. Ar y pryd roedd yn ymgymryd â'r dasg o greu sioe gerdd wreiddiol ar y cyd â Mei Gwynedd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2019. Perfformiwyd y sioe 'Twiglets, Pwnsh a Buckaroo' wythnos diwethaf. 

Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol 2018 yng Nghaerdydd, enillodd y Gadair, yn ogystal â stôl y Siwper Stomp a’r brif wobr yn y Stomp Werin. Wedi gweithio ar Pobl y Cwm, mae Gruffudd wedi dechrau gweithio fel awdur llawrydd y llynedd. Cyhoeddwyd yr wythnos hon mai Gruffudd Owen fydd yn cymryd yr awenau fel Bardd Plant Cymru 2019-2021. 

Gallwch chi ddweud wrthym ni beth rydych chi'n gwneud?

Rwy’n awdur llawrydd, ond mi oeddwn i yn gweithio fel golygydd stori ar gyfer Pobl y Cwm. Y prif brosiect rydw i’n gweithio ar ydy ysgrifennu sioe gerdd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd sydd yng Nghaerdydd yn 2019. Mae gen i un neu ddau o brosiectau eraill, dwi’n gweithio ar flodeugerdd o gerddi doniol ar gyfer Barddas, felly fydd hwnnw allan flwyddyn nesaf.

Pam ddewisoch chi i weithio yng Nghaerdydd?

Dwi’n dod yn wreiddiol o Bwllheli. Symudais i yma tua naw blynedd yn ôl erbyn hyn. Mae o’n lle da, yn ddifyr ac yn greadigol. Dwi wedi setlo yma bellach, dwi wedi priodi ac mae gen i blentyn bach yma. Yng Nghaerdydd dwi wedi tyfu’n greadigol, fel bardd a’r flynyddoedd yn gweithio efo Pobl y Cwm. Yn sicr byswn i ddim yn gallu gweld fy hun ar hyn o bryd yn gweithio unrhyw le arall.

Beth sydd yn eich ysbrydoli am fod yma?

Nifer o bethau, yn sicr fel bardd – dyna beth fyswn i’n dweud dwi wedi bod yn bennaf dros y blynyddoedd diwethaf yma – peth pendant oedd fy mod i’n rhan o dîm Talwrn y Beirdd. Mae gennym ni dîm y ffoaduriaid gychwynnodd yma yng Nghaerdydd, yn fuan iawn ar ôl i mi symud yma. Mae yna bedwar ohonom ni sy’n cystadlu ar gyfres y Talwrn ar Radio Cymru: Llŷr Gwyn Lewis oedd yn darlithio yn adran Gymraeg Prifysgol Caerdydd, Cassia William bardd plant Cymru ar hyn o bryd, Gwennan Evans fy ngwraig i sy’n gweithio i Radio Cymru a finnau. Mae’r ffaith bod y pedwar ohonom ni yn byw yng Nghaerdydd wedi helpu, rydyn ni wedi dod yng nghyd i drafod cerddi ac wedi aeddfedu fel beirdd. Ond ella yn fwy na hynny ydy nosweithiau Bragdy’r Beirdd, nosweithiau anffurfiol o farddoniaeth a cherddoriaeth fyw sydd wedi bod yn cael ei chynnal yn wahanol lleoliadau yng Nghaerdydd dros y saith neu wyth mlynedd diwethaf yma. Bellach mae’r nosweithiau wedi bod yn llwyddiannus iawn. Maen nhw wedi cael ei allforio o Gaerdydd, mae noson Bragdy’r Beirdd wedi cael ei gychwyn yng Nghaernarfon bellach. Yn sicr mae bod yn rhan o’r nosweithiau yna fel rhywun oedd yn jyst mynd fel punter i ddechrau ac wedyn yn ddiweddarach fel aelod o’r tîm sy’n trefnu wedi bod yn werthfawr iawn.

Oes unrhyw heriau wedi eich gwynebu wrth weithio yng Nghaerdydd?

Her pan wyt ti’n gweithio yn greadigol yw cael y cydbwysedd yna rhwng byd gwaith a gwaith creadigol. Mae bywyd yn mynd yn y ffordd yn aml iawn. Dwi’n meddwl bod hwnna yn rhywbeth cyffredin i bob man, ond dwi’n meddwl yn enwedig yn rhywle fel Caerdydd lle mae teimlad bod cyfleoedd yn codi’n aml. Tua chwe blynedd yn ôl, mi ddoth yna gyfle i ysgrifennu sgript fer i gwmni Dirty Protest. Wnes i fwynhau hynny er nad ydw i wedi gwneud llawer dim byd ar gyfer y llwyfan ers hynny i ddweud y gwir. Oedd hynny’n brofiad gwerthfawr iawn ac mi oeddwn i’n teimlo fel fy mod i’n rhan o ryw egni creadigol yn y ddinas.

Pa mor llwyddiannus ydych chi'n credu mai Caerdydd wedi bod wrth wneud ei hun yn safle creadigol, yn enwedig yn eich math o waith?

Mae gweithio ym maes teledu wedi bod yn bwysig iawn i mi fel gyrfa, a dwi’n ffodus iawn i gael yr hwb creadigol teledu yma. Dwi’n meddwl rydym ni’n ffodus iawn hefyd bod Prifysgolion wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae lot o bobl yn dod i Gaerdydd fel myfyrwyr ac yn aros yna. Mae’r gymysgfa o brifysgolion, a’r diwydiannau creadigol fel y BBC ac S4C, a chwmnïau annibynnol llai yn golygu bod wastad rhywbeth difyr yn digwydd yma. Dwi’n rhan o gynllun mentora efo’r Theatr Genedlaethol yn datblygu ysgrifennu newydd, ac fel rhan o’r cynllun hwnnw mae disgwyl i ni fynd i weld cynyrchiadau gwahanol. Wythnos diwethaf es i wylio cynhyrchiad o’r Iesu yn Ne Llanofer gan Drindod Dewi Sant, Prifysgol sydd wedi’i lleoli yng Nghaerfyrddin ond mae’r cwrs yn digwydd yng Nghaerdydd. Dwi’n cofio gweld y cynhyrchiad gwreiddiol o’r ddrama tua deg mlynedd yn ôl. Roedd o’n hyfryd gweld criw ifanc yn gwneud rhywbeth gwreiddiol efo’r ddrama. Byswch chi siŵr o fod yn gallu mynd allan i ddwy neu dair chynhyrchiad bob wythnos. Mae’r profiadau yma i gyd yn bwydo fewn i brofiad rhywun fel ysgrifennwr.

Yn eich barn chi, beth sydd angen digwydd i wneud Caerdydd yn ddinas fwy creadigol?

Os ydy rhywun eisio gweld pethau yn digwydd mae rhaid i rywun ymgymryd â’r awenau a gwneud i hynny ddigwydd. Ac mae hynny ymhob maes, boed hynna’n theatr, barddoniaeth fyw, mewn unrhyw gyfrwng. Yn enwedig efo stwff teledu, yn amlwg mae teledu yn ddrud iawn i’w gynhyrchu ond mi fedra rhywun bellach ffilmio rhywbeth ar ei ffôn symudol a chael meddalwedd golygu yn rhad iawn a rhoi o ar blatfform fyny  ar y we. Os mae’r cynnyrch yn dda mae pobl yn mynd i fod efo diddordeb ynddo fo. O bersbectif unigolion sy’n creu dyna’r pethau ymarferol gall pobl gwneud, hynny ydy, creu cyfleoedd eu hunain ac yn bendant manteisio ar y gallu i greu cynnyrch rhad ar y we.

Beth ydych chi'n credu dylai Caerdydd Creadigol ceisio cyflawni?

Mae beth rydych chi’n gwneud ar hyn o bryd yn werthfawr iawn o ran creadigrwydd. Bod yn gatalydd dwi’n meddwl sydd yn bwysig i greadigrwydd, yn hytrach na bod pobl greadigol yn disgwyl i cyfleoedd godi. Mae ffordd i gael sgyrsiau yn bwysig iawn i ddeffro pobl greadigol i feddwl: ‘mae gen i syniad, beth dwi’n mynd i wneud efo fo?’. Rhyw ychydig o wythnosau yn ôl oeddwn i fyny yn y ganolfan ysgrifennu greadigol yn Llanystumdwy mewn cwrs ysgrifennu ar gyfer sitcom. Oedd o’n gwrs difyr iawn, rhyw ugain ohonom ni rownd y bwrdd – rhai pobl profiadol iawn yn y diwydiant yna – ac oedd rhaid i chi ddod â syniad gyda chi. Felly nes i gynnig un syniad, i raddau oeddwn i’n teimlo bod syniad bach neis ydy o, ond ddaeth ddim byd ganddo fo. Ond oedd pobl yn dweud bod o’n syniad da, a nes i ddechrau meddwl o ddifri am y syniad. Ac yn sydyn, rydych chi’n meddwl sut i ddatblygu o, sut i gymryd y syniad yma sydd ddim ond yn bodoli oherwydd oeddwn i’n teimlo ‘well i fi feddwl am ryw fath o syniad’. Unrhyw adeg lle rwyt ti’n gallu cael pobl greadigol o wahanol gefndiroedd rownd bwrdd mae yna stwff difyr yn dod. A dyna beth sy’n wych, unwaith wnes i gael yr impetus, daw yna bethau.

Disgrifiwch eich hoff le i weithio yng Nghaerdydd.

Dwi’n hoff iawn o weithio mewn llyfrgelloedd. Tua mis Chwefror neu Fawrth llynedd pan oeddwn i’n ysgrifennu’r awdl ar gyfer yr Eisteddfod, wnes i dreulio tipyn o amser mewn gwahanol lyfrgelloedd. Es i lyfrgell Bute ym Mhrifysgol Caerdydd, mae honno’n llyfrgell hyfryd, a’r Llyfrgell Ganolog ynghanol y dre. Dwi’n beicio lot yn ystod yr haf. Mae llwybrau beic Caerdydd wastad wedi bod yn bwysig i mi, yn rhannol oherwydd pan mae rhywun ar ei feic dyna’r unig amser o’r diwrnod lle dydy rhywun ddim yn sbïo ar ei ffôn. Dwi’n sbïo ar fy ffôn llawer iawn gormod, sy’n wych oherwydd mae wastad rhywbeth difyr yn digwydd, ond hefyd rydych chi angen yr amser yna i feddwl. Dwi’n beicio dros y morglawdd drwy Benarth ac ar hyd llwybr Trelai, a bob tro dwi’n mynd ffordd yna mae yna ryw egin nofel dwi wedi bod yn gweithio ar ers blynyddoedd a dwi byth yn meddwl amdani ar unrhyw adeg heblaw pan dwi’n beicio yna, oherwydd mae yna gymeriad sydd ymhen i yn byw yn un o’r fflatiau mawr yna. Dwi’n datblygu’r peth ac yn meddwl bod rhaid i mi fynd yn ôl at y nofel yma, ac wedyn dwi’n cyrraedd adref ac mae’n amser gwneud te ac edrych ar ôl y babi, ac mae’r peth yn mynd yn anghof. Dwi’n edrych ymlaen at yr haf pan ddaw’r amser i fynd yn ôl ar y beic a gobeithio dod yn ôl at y nofel yma. O bersbectif creadigol, mae Caerdydd yn lwcus iawn oherwydd mae gennym ni'r parciau a’r llwybrau beic yma. Mae yna rywbeth corfforol iawn am y broses greadigol, weithiau ti angen bod yn symud, dwi’n meddwl wrth fod ar feic neu fynd am dro yn symud y corff a’r meddwl yn symud ac mae rhyw rythm.

Gallwch chi ddewis un person creadigol yng Nghaerdydd ddylwn ni ddarganfod rhagor am?

Pan dwi’n meddwl am rywun creadigol yng Nghaerdydd pwy sy’n dod i’m mhen i ydy'r diweddar Tony Bianchi, oeddwn i wastad yn gweld o bobman ar y beic. Oedd o’n awdur llawrydd hefyd. Mae lot o’i nofelau wedi lleoli yng Nghaerdydd, gyda rhyw flas cynhyesig. Oedd o wedi dysgu Cymraeg a dod o du allan i Gaerdydd a Chymru. Dwi’n meddwl oedd ganddo fo welediad slant iawn ar y ddinas, ac ar Gymru, ac ar y Gymraeg. Mae bron yn ddwy flynedd ers i ni golli o ac mae’n rhywun dwi dal yn meddwl am lot, a dwi’n ei golli o’n arw.

Rhywun o’r un mold â Tony Bianchi, rhywun oedd wastad yn ddiddorol ac yn garedig, ydy Jon Gower, yr awdur. Un o’r bobl glyfra a’r bobl fwyaf diddorol daw di byth ar ei traws. Mae’n un o’r bobl yna sy’n darllen llyfr pob dydd – a dwi ddim yn gwybod lle mae'n cael yr amser i wneud hyn. Mae wastad yn gwneud prosiectau difyr. Nes i weld sioe ganddo fo yn Yr Eisteddfod Genedlaethol. Oedd o wedi ysgrifennu ac Eddie Ladd yn perfformio, jyst y ddau ohonyn nhw ar y llwyfan. Oedd o am i daid o oedd yn marw o ganser. Oedd Jon yn sôn bod ar unarddeg oed oedd o’n gallu codi ei daid o a chario fo fyny’r grisiau. Dydw i erioed wedi gweld dim byd tebyg, rhyw sioe bersonol ond ddoniol, oedd hi’n farddonol iawn. Bysi ti bron yn gallu dweud wrtho fo ‘deuda stori ddifyr i mi’ a gei di stori aruthrol o ddifyr. Mae‘n bendant yn un o fy arwyr creadigol i.

Beth sy'n nesaf i chi? Pa brosiectau sydd ar y gorwel? Pa syniadau newydd ydych chi'n gweithio ar?

Mae yna nifer o bethau, dwi yn mynd yn ôl i Bobl y Cwm am gyfnod sy’n wych. Dwi’n bradychu Caerdydd a mynd fyny i Gaernarfon ar Ddydd Gŵyl Dewi. Dwi’n gyfrifol am greu Stomp yna. Roeddwn i’n rhan o’r criw oedd yn trefnu’r Siwper Stomp yn adeg yr Eisteddfod Genedlaethol. Rydyn ni’n mynd â rhywbeth tebyg fyny i Gaernarfon, ar sgêl llai. Dydyn ni methu fforddio band, ond mae gennym ni rhywun yn chwarae piano. Fi fydd yn ysgrifennu honno a fi fydd yn arwain fel y Siwperstompfeistr. Mae hynny am fod yn her newydd. Mae gen i ddiddordeb mawr le mae barddoniaeth a chomedi yn cwrdd, rhywbeth rydyn ni wedi bod yn gwneud efo’r stomp. Dwi’n gobeithio bod y Siwper Stomp wedi rhoi chwistrelliad o egni i stomps, i feddwl amdanyn nhw fel sioe. I drefnu’r peth er mwyn sicrhau mae gennych chi’r cydbwysedd yna o wahanol feirdd.

Bydd y sioe gerdd yn digwydd yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd sef wythnos hanner tymor ysgolion. Dwi wedi bod yn gweithio efo myfyrwyr yn Ysgol Plas Mawr a fyddai’n mynd i Ysgol Bro Morgannwg hefyd. Dwi’n gweithio efo Mei Gwynedd, fo sy’n ysgrifennu’r gerddoriaeth a fi sy’n ysgrifennu geiriau’r caneuon a’r sgript. Eto dwi’n mynd am rywbeth eithaf doniol, sioe am fod yn ifanc, efo sinigiaeth iach dwi’n gobeithio. Mae bod yn ifanc, a bod yn fyw i ddweud y gwir, yn eithaf lletchwith, ac yn ddiflas ac yn llawn methiannau ond yn eithaf doniol yn y bôn. Dwi’n gobeithio adlewyrchu hynny. Mae’r sioe i gyd wedi’i lleoli mewn house party rhywun sydd â’r gobaith wnaeth o newid ei bywydau nhw. ‘Unwaith gai’r house party yma bydd pob dim yn ok’. Lle, mewn gwirionedd mae house parties yn lletchwith a diflas a ti’n mynd i wneud camgymeriadau ond dydy hynna ddim yn ddiwedd y byd. Dwi’n gobeithio bydd o’n rhywbeth bydd y myfyrwyr yn mwynhau cymryd rhan ynddo. Mae’n gyfrifoldeb mawr ond mae’r Urdd wedi bod yn grêt. Dwi’n nerfus ond yn hapus iawn i gael y rhyddid yna i fod yn ddoniol ac ychydig bach yn ddrwg, a dod â rhywfaint o fy sgiliau stomp i’r Urdd.

Share