Rhwydweithiau creadigol Caerdydd

Un o gryfderau’r economi greadigol yng Nghaerdydd yw’r nifer cynyddol o rwydweithiau creadigol yn y ddinas. Mae bron bob sector yn cyfarfod yn rheolaidd i gyfnewid syniadau, hogi sgiliau ac ysbrydoli arloesedd a chreadigrwydd.

Mae’r rhwydweithiau hyn yn amrywio o ddigwyddiadau penodol wedi’u hanelu at gynulleidfaoedd arbenigol i sgyrsiau traws-sector ar amrywiaeth o themâu pellgyrhaeddol fel rhwydweithiau Creative Mornings ac Ignite. Bydd llawer o’r rhain yn cyfarfod mewn siopau coffi a bariau annibynnol yn y dref ond mae rhai’n digwydd yn gyfan gwbl ar-lein fel “NTW Community” National Theatre Wales. Mae’r rhwydweithiau hyn yn cynnig cyfle i ddysgu mwy am beth sy’n digwydd yng Nghaerdydd a chwrdd ag eraill sy’n gweithio yn eich sector, i’ch helpu i wneud cysylltiadau newydd ar gyfer gwaith neu gydweithio yn y dyfodol.

Dyma restr lawn o’r rhwydweithiau creadigol y gwyddwn ni amdanynt yn y ddinas:

http://www.creativecardiff.org.uk/52/2-creative-networks-cardiff

Os gwyddoch chi am ragor, cofiwch roi gwybod inni!

Photo: Owen Mathias

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event