Rhywbeth Creadigol? 2:1 - Ydyn Ni'n Barod Am Ddiwylliant Digidol?

Dyma bodlediad i weithwyr creadigol a rheiny sydd â diddordeb yn y maes. Yn ail gyfres Rhywbeth Creadigol? rydyn ni'n mynd â'r sgyrsiau ar-lein ac yn trafod gwaith creadigol a diwylliant yn y byd digidol. 

 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 18 September 2020

I weithwyr creadigol a rheiny sydd â diddordeb yn y maes. Bydd 'Rhywbeth Creadigol?' yn dod â gweithwyr ac arbenigwyr o’r diwydiannau creadigol ynghyd i drafod y pynciau llosg sy’n effeithio arnyn nhw ar hyn o bryd, gan graffu ar yr ymchwil ddiweddaraf. Yn yr ail gyfres rydyn ni'n mynd â'r sgyrsiau ar-lein ac yn trafod gwaith creadigol a diwylliant yn y byd digidol. 

Ym mhennod gyntaf ail gyfres Rhywbeth Creadigol rydyn ni'n sgwrsio gyda Dylan Huw, Cynorthwyydd Datblygu Creadigol gyda National Theatre Wales a Phrif Weithredwr y platfform aml-gyfrwng diwylliannol AM, Alun Llwyd, am heriau ffrydio'r celfyddydau, blinder digidol a dyfodol theatr a diwylliant ar-lein.

Mae AM yn gymuned aml-gyfrwng yn dathlu a rhannu creadigrwydd diwylliannol Cymru ac ers lansio ym mis Mawrth mae'r platfform wedi ffynnu gan ffrydio Tafwyl a llu o waith celfyddydol arall gan gynnwys cynyrchiadau gan National Theatre Wales fel Go Tell The Bees.

Mae National Theatre Wales wedi lansio Network, rhaglen waith ddigidol newydd ar y cyd â BBC Cymru, Theatre Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman. Cynlluniwyd i gysylltu cynulleidfaoedd, cymunedau a gwneuthurwyr theatr â chyfleoedd i greu a phrofi theatr fyw, arloesol a gyflwynir drwy lwyfan digidol.

Gwrandewch ar y bennod gyfan: 

Dyma bodlediad gan rwydwaith Caerdydd Creadigol ochr yn ochr â’r gymuned greadigol.

Gwrandewch ar bennodau'r gyfres gyntaf yma:  

1:1. Sut Beth Yw Dylanwadu Digidol?

1:2. A Yw Creadigrwydd Yn Ffordd o Fyw?

1:3. Ydy Caerddydd Yn Ddinas Cerddoriaeth?

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event