Rhywbeth Creadigol? Pennod 1:2 - A Yw Creadigrwydd Yn Ffordd o Fyw?

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 20 February 2020

I weithwyr creadigol a rheiny sydd â diddordeb yn y maes. Bydd 'Rhywbeth Creadigol?' yn dod â gweithwyr ac arbenigwyr o’r diwydiannau creadigol ynghyd i drafod y pynciau llosg sy’n effeithio arnyn nhw ar hyn o bryd, gan graffu ar yr ymchwil ddiweddaraf. 

Yn ail bennod Rhywbeth Creadigol? rydym yn siarad am y cysylltiad rhwng hapusrwydd a chreadigrwydd gyda'r artist aml dalentog, Ani Saunders

Mae Ani'n siarad am ei gyrfa greadigol hyd yn hyn a'i phrosesau creadigol fel cerddor, artist gweledol a ffotograffydd. Mae'n gwneud PhD ar hyn o bryd sy'n edrych ar sut a pham y mae trefi ôl-ddiwydiannol yng Nghymru'n newid ai peidio trwy ymchwilio mewn i'r cyd-destun gwleidyddol, economaidd a diwylliannol ehangach. 

Mae'n creu cerddoriaeth pop electronig yn Gymraeg ac yng Nghernyweg, dan yr enw Ani Glass. Mae ei sengl newydd, Mirores, yn gyfoeth o synth-pop breuddwydiol a bydd gweddill yr albwm yn cael ei gyhoeddi ar y 6ed o Fawrth gyda thaith o Gymru yn dilyn. 

Wrth sôn am y cysyniad o'r 'tormented artist', meddai: "Dwi'n dueddol o deimlo bach yn 'offended' gan y term am sawl rheswm. Dwi'n meddwl o safbwynt ehangach, mae'n dueddol o rhamantu'r syniad fod rhaid i ti ddioddef i greu celf... O safbwynt hunanol, dwi ddim yn 'tormented' yn gyffredinol..." 

Meddai am greadigrwydd: "I fi mae'n ffordd o fyw, dwi ddim yn gwneud cerddoriaeth, na gwneud celf - mae'n ffordd o fyw" 

Gwrandewch ar y bennod lawn: 

 

Gwnaethpwyd Rhywbeth Creadigol? ar y cyd â’r gymuned greadigol ac ar ei chyfer.

Gwrandewch ar bennod arall o 'Rhywbeth Creadigol?': #1. Sut Beth Yw Dylanwadu Digidol?.