Mae Canolfan y Mileniwm yn sefydliad creadigol blaenllaw sy’n chwarae rhan bwysig i ddarparu a sicrhau mynediad i’r celfyddydau a chreadigrwydd yng Nghymru. Mae’r ganolfan hardd hon sy’n un o atyniadau diwylliannol gorau’r DU yn croesawu dros 1.5 miliwn o ymwelwyr a deiliaid tocynnau bob blwyddyn, ac mae’n gartref i wyth partner preswyl; mae’n rhoi llwyfan i sioeau cerdd, opera, bale, syrcas a dawns gyfoes ochr yn ochr â rhaglen fwyaf y DU o berfformiadau am ddim. Gyda’r nod o fod yn wir ffwrnais awen (ysbrydoliaeth) yn unol â’i harysgrif byd enwog, mae’r Ganolfan wedi ymrwymo i weithio gyda phobl o bob oedran yn ei chymuned amrywiol. Mae’r economi greadigol yn fyw iawn yng Nghymru gyda’r wlad gyfan yn elwa o’i llwyddiant. Fe wnaeth y Ganolfan ar ei phen ei hun gynhyrchu £78,000,000 i economi Cymru yn ystod y flwyddyn hyd at fis Ebrill 2015. Mae Caerdydd mewn sefyllfa unigryw i fod yn un o brifddinasoedd creadigol arweiniol Ewrop ac mae Caerdydd Creadigol yn dwyn ynghyd ystod eang o bartneriaid y ddinas gyda chylch gwaith i feithrin cysylltiadau agosach, rhannu syniadau a’r arferion gorau a chael ein hysbrydoli gan y cyfleoedd aruthrol sydd ar gael inni. Mae’r Ganolfan yn falch iawn o fod yn aelod sefydlu o Caerdydd Creadigol. Mae Caerdydd Creadigol yn cael ei weinyddu a’i reoli gan Brifysgol Caerdydd ar ran ei aelodau.