Cynorthwywr gweinyddol yr wyl

Cyflog
£1600 y mis
Location
Caerdydd
Oriau
Part time
Closing date
25.01.2021
Profile picture for user Seren

Postiwyd gan: Seren

Dyddiad: 15 January 2021

Cefnogaeth Weinyddol ar gyfer Gŵyl Farddoniaeth Seren Caerdydd 

Bellach yn ei phumed flwyddyn, nod Gŵyl Farddoniaeth Seren Caerdydd yw gosod barddoniaeth o Gymru a gweddill y byd o flaen cynulleidfa eang. Ar ôl cael ei chynnal yn y gorffennol mewn lleoliadau yng nghanol y ddinas, bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn gyfan gwbl ar-lein yn 2021, yn bennaf dros benwythnos 16 i 18 Ebrill. Bydd ei fformat o berfformiadau, gweithdai ac addysg yn parhau, ond bydd ei chyrhaeddiad yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ddinas trwy ddigwyddiadau byw a fideos wedi'u recordio ymlaen llaw. Cefnogir yr Ŵyl gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies.

Mae'r ŵyl yn ceisio recriwtio person i ddarparu cefnogaeth weinyddol i gynorthwyo gweithwyr presennol yr ŵyl ym meysydd cyswllt â pherfformwyr, tocynnau, marchnata a hyrwyddo, darpariaeth ar-lein, a gohebu ar ôl yr ŵyl - cyfnod cyflogaeth: Chwefror i Ebrill 2021, yn gynhwysol.

Bydd y gweinyddwr yn gyfrifol am:

  • sicrhau cynnwys amserol a chywir ar wefan yr ŵyl;
  • cysylltu â'r cyfryngau yng Nghymru;
  • paratoi a gweithredu elfen farchnata'r ŵyl a digwyddiadau unigol;
  • trefnu digwyddiadau, gan gynnwys cysylltu â chyfranogwyr;
  • ymdrin ag ymholiadau’r gynulleidfa, a chofnodi niferoedd y gynulleidfa trwy’r system docynnau ar-lein;
  • dadansoddi pob agwedd ar yr ŵyl.

Bydd y gweinyddwr yn gweithio ochr yn ochr â swyddog marchnata Seren a chyfarwyddwr yr ŵyl, ac yn atebol i reolwr Seren. Bydd gan yr unigolyn sgiliau cynnal a rheoli digwyddiadau yn enwedig gan ddefnyddio Zoom, profiad o hyrwyddo trwy'r cyfryngau cymdeithasol, profiad o gynnal a chadw gwefan Wordpress, hyfedredd yn Excel a Word a'r gallu i ymgyfarwyddo â meddalwedd newydd yn gyflym (darperir hyfforddiant lle bo angen).

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol. Oherwydd cyfyngiadau covid, bydd y gweinyddwr yn gweithio gartref, yn ddelfrydol yng Nghaerdydd a'r ardal gyfagos, neu yng Nghymru.

Dylai eich cais gynnwys CV llawn a llythyr yn egluro pam eich bod yn teimlo mai chi yw'r person ar gyfer y swydd hon. Dyma gyfle unigryw i gymryd rhan mewn digwyddiad aml-dasg gyffrous, sy'n tyfu. E-bostiwch: mickfelton@serenbooks.com

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event