Grŵp Cynghori

Mae Grŵp Cynghori Caerdydd Creadigol yn bodoli er mwyn llywio ein gwaith a’n cynlluniau, tanio ein huchelgeisiau a’n hamcanion, ein herio ni a helpu i ledaenu’r neges am economi creadigol Caerdydd, yma ym mhrifddinas Cymru a thu hwnt.

Mae’r Grŵp yn cynnwys gweithwyr creadigol ar draws Caerdydd o sectorau fel pensaernïaeth, dawnsio, dylunio, marchnata, ffilm a cherddoriaeth. Bydd yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn i fyfyrio ar waith Caerdydd Creadigol a rhoi cyngor yn ei gylch. 

Dyma aelodau’r Grŵp Cynghori: Alexia J.A Barrett, Amanda Spence, Bethan Elfyn, Bethan Gordon, Dylan Huw, Dr Francesca Sobande, Gareth I. Davies, Isobel Mary Smathers, Mair Jones, Richie Turner a Dr Thania Acarón.