Cynghorydd Arbenigol, Dylunio Cynnwys Digidol - Cyfoeth Naturiol Cymru

Diben y swydd

Byddwch yn arwain ar ddylunio’r cynnwys gwe ar gyfer lansiad y Datganiadau Ardal ym mis Mawrth 2020. Gan gydweithio’n agos ag amryw o randdeiliaid mewnol, byddwch yn datblygu cynnwys o ansawdd uchel er mwyn diwallu anghenion ein cwsmeriaid. 

Gwneud cais am swydd wag

Bydd y categorïau canlynol yn cael eu defnyddio i asesu ansawdd y ceisiadau yn y broses ddidoli a chyfweld. A fyddech cystal â darllen y Disgrifiad Rôl cyfan er mwyn canfod ar ba lefel y mae angen cyflwyno'r wybodaeth hon.

  • Blaenger
  • Dadansoddi a Barnu
  • Cydweithio ag eraill
  • Cynghori a Dylanwadu
  • Ffocws ar gwsmeriaid
  • Cymwysterau a Sgiliau

Cymwysterau neu wybodaeth allweddol: 

  • Profiad sylweddol o ysgrifennu ar gyfer y we, gyda gallu profedig i greu cynnwys sy'n hygyrch ac y gellir ei ddefnyddio'n hawdd.
  • Profiad o ddefnyddio metrigau ac adborth gan ddefnyddwyr i ddiffinio a gwella cynnwys.
  • Profiad o reoli perthnasau gyda rhanddeiliaid.
  • Profiad o weithio ar systemau rheoli cynnwys.
  • Profiad o ddefnyddio Markdown neu HTML sylfaenol.
  • Gwybodaeth fanwl o gylch gwaith, rolau, polisïau a blaenoriaethau CNC er mwyn gallu llywio'r dulliau digidol gorau ar gyfer ein cwsmeriaid.
  • Y gallu i gymryd iaith a phrosesau cymhleth a'u symleiddio.
  • Byddwch yn groyw ac yn meddu ar sgiliau perswâd, a byddwch yn gallu cyflwyno eich achos ac esbonio eich penderfyniadau.
  • Aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol ac ymrwymiad gweladwy i'ch datblygiad proffesiynol parhaus eich hunan.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais. 

Share