Atlas Economi Greadigol Cymru

Ymunwch â Caerdydd Creadigol a chael eich cynnwys yn Atlas Economi Greadigol Cymru!

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 2 July 2021

Mae hwn yn blatfform i arddangos nerth creadigol Cymru: amlygu ei chryfderau ac archwilio ei dyfnderoedd, helpu i greu cysylltiadau a bod yn offeryn defnyddiol i'r rheini sy'n dymuno dysgu mwy am ecosystem greadigol Cymru.

Mae gan aelodau Caerdydd Creadigol y cyfle i gael eu cynnwys yn yr atlas newydd sbon hwn drwy optio i mewn i hyn yn eu proffil Caerdydd Creadigol.

Bydd eich data – math o aelod, sector â chôd post – yn cael eu cyfuno â data aelodau eraill, sy’n golygu ni fydd modd i bobl wybod pwy ydych chi. 

Map of Wales showing the Creative Cardiff network members layer of data

Mae'r Atlas yn archwilio dosbarthiad daearyddol a graddfa'r diwydiannau creadigol ar draws Cymru yn ôl sector creadigol. Gallwch ddefnyddio'r atlas i ddarganfod gweithgaredd y diwydiannau creadigol ledled Cymru, megis nifer y cwmnïau a gweithwyr mewn sectorau creadigol penodol, ymhle mae mannau cydweithio ar gael neu ddaearyddiaeth prosiectau clwstwr creadigol. 

Archwilio'r Atlas

Gwaith ar y gweill yw'r Atlas hwn a bydd yn parhau i esblygu a thyfu ochr yn ochr â'r diwydiannau creadigol.

Oes gennych chi gwestiwn? Cysylltwch â Clwstwr i gael rhagor o wybodaeth am Atlas Economi Greadigol Cymru a Caerdydd Creadigol os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am eich proffil.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event