Cyfrifydd Cynorthwyol

Cyflog
£25,000 - £30,000 y flwyddyn yn unol â phrofiad, gyda phecyn hyfforddiant ar gael.
Location
Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Oriau
Full time
Closing date
07.05.2024
Profile picture for user Swyddi S4C

Postiwyd gan: Swyddi S4C

Dyddiad: 22 April 2024

Mae S4C yn chwilio am Gyfrifydd Cynorthwyol i ymuno a’r adran gyllid. Byddwch yn gyfrifol am fonitro cyllidebau, cadw cyfrifon a pharatoi adroddiadau ariannol ac am holl agweddau cyfrifyddu ar gyfer S4C Masnachol.

Byddwch yn cyfathrebu'n effeithiol ac yn gweithio'n agos gyda'ch cydweithwyr ac eraill i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hamcanion corfforaethol a'n rhagoriaeth greadigol wrth sicrhau ein bod yn gweithredu'n effeithiol ac yn unol â'n hymrwymiadau strategol.

Byddwch yn cyfrannu i gyfarfodydd a thrafodaethau mewn perthynas â’ch prif gyfrifoldebau a thu hwnt er lles S4C yn gyffredinol.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn hanfodol ar gyfer y rôl.  Mae cefnogaeth ar gael i ddarparu cyrsiau gloywi iaith Gymraeg neu i fagu hyder os oes angen.

Manylion eraill

Lleoliad:                 Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.  Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.  

Cyflog:                    £25,000 - £30,000 y flwyddyn yn unol â phrofiad, gyda phecyn hyfforddiant ar gael.

Cytundeb:               Parhaol

Oriau gwaith:         35.75 yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.  

Cyfnod prawf:        6 mis

Gwyliau:                 Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn:              Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Mawrth 7 Mai 2024 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Dyddiad Cyfweliadau: Dydd Mawrth 14 Mai 2024.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event