Dewch i gwrdd â'n hartistiaid a gomisiynwyd

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Caerdydd Creadigol, mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol yn Sir Fynwy, Casnewydd a Rhondda Cynon Taf, alwad agored i artistiaid gynhyrchu darn o waith ar thema creadigrwydd, cymuned ac arloesedd lleol.

Roeddem yn falch iawn o dderbyn nifer fawr o geisiadau o ansawdd uchel ac rydym bellach wedi cadarnhau’r deuddeg artist dawnus, pedwar o Sir Fynwy, pedwar o Gasnewydd ac pedwar o Rhondda Cynon Taf, a fydd yn gweithio gyda ni i wneud y gwaith hwn.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 6 March 2024

Commissioned collage

Artistiaid a gomisiynodd - Sir Fynwy

Gemma Williams

Image of Gemma Williams

Meddyg o Dde Cymru yw Gemma, sy’n gweithio ar hyn o bryd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn y Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar ar gyfer Seicosis. Er nad yw wedi’i hyfforddi’n ffurfiol fel artist, mae Gemma wedi ymwneud â gwahanol ddisgyblaethau celf amrywiol dros nifer o flynyddoedd. Mae hi'n mwynhau cerflunwaith yn arbennig ac mae wedi gwneud nifer o wahanol gerfluniau gan ddefnyddio fframwaith gwifren a papier mache yn bennaf. Mae Gemma wedi bod yn ymwneud â Superdragons II yng Nghasnewydd yn y gorffennol ac wedi dylunio dwy ddraig “Penny Pendraig” a “Firstarter”.

Mike Erskine

Mike's headshot

Rwy'n wneuthurwr ffilmiau ac yn grëwr cyfryngau digidol sy'n byw ym Mrynbuga, Sir Fynwy, y sir y cefais fy magu ynddi. Dechreuodd fy nhaith tuag at fyd gwneud ffilmiau dros 10 mlynedd yn ôl pan ddechreuais deimlo'n rhwystredig ynglŷn â'r diffyg sylw i faterion amgylcheddol. Roeddwn i'n gallu gweld llawer o bobl a phrosiectau ledled Cymru yn ymateb i heriau cymdeithasol ac amgylcheddol ac roeddwn i am ddefnyddio ffilm i rannu eu straeon. 

Ers hynny rydw i wedi bod yn gweithio'n barhaus i archwilio themâu sy'n ymwneud â phobl a lleoedd, a'r cysylltiadau rhwng y bydoedd cymdeithasol, economaidd a naturiol rydym yn byw ynddynt. Mae'r ffilmiau rwy'n hoffi eu creu yn gymysgedd o ffilmiau dogfen a rhai arbrofol; edrych ar bethau o safbwynt ffres, canolbwyntio ar fanylion a gweithio gyda chymunedau i gyd-gynhyrchu stori'r ffilm. Mae rhoi llais i'r rhai nad ydynt yn cael eu clywed yn aml yn rhywbeth rydw i bob amser yn meddwl amdano yn fy null gweithio. Rydw i wastad wedi bod wrth fy modd yn gweld pa mor bwerus yw delwedd, sain a stori a'u heffaith ar bob un ohonom. Pan maent yn cael eu gwneud yn dda, gallant ddod â theimladau allan a'n galluogi i weld gwahanol fydoedd a safbwyntiau. 

Patricia Statham Maginness

Patricia headshot

Mae Patricia yn artist o Ogledd Iwerddon sydd wedi’i lleoli yn Ne Cymru, sy’n creu paentiadau gweadog mewn palet priddlyd, bron yn unlliw. Mae hi'n gweithio gyda chwyr llosgliw, olew, inc bustl haearn a phigmentau naturiol.

Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar gysylltiad â’n mamwlad a’r byd naturiol, iaith a mytholeg Geltaidd.

Astudiodd yn Ysgol Gelf Glasgow, Prifysgol Ulster a Phrifysgol Brighton, gan ennill Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwchradd. Ysbrydolodd ei blynyddoedd o addysgu hi i greu adnoddau addysgol yn archwilio technegau hynafol, sy'n cysylltu'n uniongyrchol â'i hymarfer stiwdio.

Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn eang ar draws y DU yn Belfast, Llundain, Essex a Chric Oriel yng Nghrucywel, lle mae’n arddangoswr cyson.

Tiffany Murray 

Tiffany headshot

Mae hunangofiant Tiffany, My Family and Other Rock Stars, yn cael ei gyhoeddi  gan Fleet. Ymhlith llwyddiannau ei nofelau Diamond Star Halo, Happy Accidents a Sugar Hall, mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Wodehouse Bollinger ac ennill Gwobr Roger Deakin am ysgrifennu natur. Mae Tiffany wedi bod yn Gymrawd Ffuglen yng Ngŵyl y Gelli, yn ysgolhaig Fulbright, ac yn Uwch Ddarlithydd. Mae ei chyfres 'Hulda's Café' ar gael ar BBC Sounds.  

Artistiaid a gomisiynodd - Casnewydd

Beth Wilks

Beth Wilks headshot

Athrawes ac artist gweledol sy'n gweithio'n bennaf drwy gyfrwng torri papur yw Beth Wilks.  Mae hi'n mwynhau'r dechneg hon yn benodol gan fod y gwaith yn gywrain a manwl, sy'n cyferbynnu â golwg naïf a syml toriadau papur.  Mae hi hefyd yn ystyried cynhyrchu darn o waith lle mae pob elfen wedi’i huno mewn llinell barhaus yn foddhaol iawn, ac weithiau'n heriol.  Fel rhywun nad yw’n hoff iawn o dechnoleg newydd, mae ei gwaith yn cael ei greu yn y ffordd hen ffasiwn gan ddefnyddio fflaim.  Mae Beth yn mwynhau chwarae gydag elfennau celf sydd wedi’u cyfosod, fel creu rhywbeth cyffredin mewn ffordd gain neu annisgwyl, ac mae hi hefyd yn hoffi cynnwys elfennau o hiwmor yn ei gwaith.  Mae Beth yn cael ei hysbrydoli gan yr amrywiaeth o rannau sy'n dod at ei gilydd i'n gwneud ni pwy ydyn ni, fel lleoedd, geiriau, cerddoriaeth a phobl arwyddocaol, ynghyd â thalp o hiraeth a mymryn o’r gwirion.  Mae ei gwaith yn aml yn cynnwys diwylliant poblogaidd, a chyfeiriad at falchder pobl o Gasnewydd, yn benodol diwylliant Casnewydd, sy'n gwbl unigryw! 

Connor Allen

Connor Allen headshot

Mae Connor yn gyn-ddeiliad rôl Children’s Laureate Wales ac yn un o artistiaid cyswllt Glan yr Afon yng Nghasnewydd. Mae'n artist amlddisgyblaethol a raddiodd o Brifysgol y Drindod Dewi Sant fel Actor yn 2013 ac mae wedi gweithio'n helaeth ers hynny gyda chwmnïau fel Theatr Taking Flight, Theatr y Sherman, Royal Exchange Manceinion, National Theatre Wales a llawer mwy. Ysgrifennodd a pherfformiodd yn ei sioe gyntaf a gafodd ei ganmol yn eang, The Making of a Monster, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2022 (cyhoeddwyd testun y sioe gan Aurora Metro Books) 

Mae'n gyn-aelod o grwpiau ysgrifennu BBC Wales Welsh Voices a Royal Court Cymru. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru, BBC Radio 4, BBC Wales, Theatr y Sherman, National Theatre Wales a mwy. Mae gwaith Connor wedi'i ysbrydoli'n fawr gan elfennau o'i fywyd ei hun, fel galar, cariad, gwrywdod, hunaniaeth, ac ethnigrwydd. Cafodd ddyfarniad gan Jerwood Live Work Fund, enillodd Wobr Rising Star Wales 2021, ac enillodd Wobr Imison yn 2023 am ei ddrama sain ar Radio 4 'The Making Of A Monster'. 

Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth Dominoes - ar gyfer cynulleidfaoedd cyffredinol, a Miracles - i blant, gan Lucent Dreaming yn 2023. 

Kristian Dent

Kristian headshot

Mae Kristian Dent yn falch o fod yn ddyn dosbarth gweithiol o’r cymoedd ac yn artist darluniadol chwareus. Drwy ei waith, mae wrth ei fodd yn ysgogi chwilfrydedd gyda hiwmor ac yn mynd ati’n fwriadol i geisio dal sylw pobl o bob oedran. Mae'n mwynhau creu negeseuon dwys gyda stori neu deimlad hwyliog a dealladwy i'w darganfod. Yr offer o’i ddewis yw cwilsyn, brwshys, inciau a'i ddychymyg. 

Dros y blynyddoedd mae Kristan wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o ffeiriau celf ac mae wedi gweithio'n greadigol gyda chorfforaethau mawr yn datblygu deunydd gweledol at ddibenion hyrwyddo ac ar gyfer digwyddiadau. Mae wedi creu murluniau ac wedi gweithio ar lawer o gomisiynau preifat. Mae hefyd wedi bod yn gweithio’n ddiweddar ar set o ddarluniadau ar gyfer llyfrau plant gyda'r awdur, rhywbeth y mae wrth ei fodd yn ei wneud. Yn rhannol, mae wrth ei fodd â'r broses hon oherwydd ei fod fel plentyn mawr ond yn ogystal â hynny mae wedi teimlo'n bersonol yr effaith y mae darluniad deniadol yn ei chael ar feddwl chwilfrydig. Mae’n sicr mai dyma’r union deimlad sy'n sail i'w athroniaeth. Llenwi meddwl chwilfrydig gyda mwy o chwilfrydedd, dangos amynedd wrth esbonio, a rhoi sylw llawn. 

Olivia Coles 

OIiva headshot

Mae Olivia yn artist sy’n falch o fod wedi’i geni a’i magu yng Nghasnewydd ac sy’n dal i fyw yno, ar ôl graddio gyda BA (Anrh) mewn Darlunio o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Ers graddio yn 2016, mae Olivia wedi bod yn tyfu eu gyrfa yn raddol fel darlunydd llawrydd, gan weithio gydag ystod o gleientiaid masnachol a phersonol. Ochr yn ochr â gwaith i gleientiaid, maent yn gwneud gwaith celf personol sy'n archwilio ac yn dathlu eu hunaniaeth, eu diddordebau a'u cymunedau cyfagos. Mae Olivia yn creu darluniau chwareus sy'n arddangos llawenydd a gwytnwch pobl cwiar ac mae eu gwaith presennol yn cynrychioli profiadau pobl draws mewn ffordd gadarnhaol. Maent yn defnyddio pensiliau lliw yn bennaf i gwblhau darnau ac yn hoffi gwneud gwaith sy'n dathlu'r profiad cwiar, gan gynnwys eu profiad eu hunain, tra hefyd yn tynnu sylw at yr angen parhaus am gynnydd o ran hawliau a gwelededd LGBTQ+. Mae gan ddarluniau Olivia arddull chwareus, dyrchafol ac maent yn ymroddedig i gynrychioli cymunedau ymylol a Mwyafrif Byd-eang yn eu holl waith. Fel artist lleol o Gasnewydd, maent yn ymdrechu i greu gwaith sy'n cyfleu amrywiaeth ac ysbryd creadigol Casnewydd a Chymru ehangach. 

Artistiaid a gomisiynodd - Rhondda Cynon Taf 

Bridie Doyle-Roberts

Bridie headshot

Mae Bridie Doyle-Roberts yn Artist Amlddisgyblaeth sydd wedi'i lleoli ym Mhontypridd. Wnaeth hi sefydlu elusen syrcas, dawns a chelfyddydau awyr agored o'r enw Citrus Arts yn 2008 ac mae wedi bod yn gweithredu fel Cyd-gyfarwyddwr dros y 15 mlynedd diwethaf. Yn y rôl hon bu'n gwneud cynyrchiadau theatr, gŵyl a safle teithiol ac wedi cynnal cyfnodau yng ngŵyl Y Dyn Gwyrdd, London Youth Circus a Circomedia. Mae hi hefyd wedi gweithio ar brosiectau cydweithredol gyda Theatr Genedlaethol Cymru, Ballet Cymru a Marc Rees ac mae wedi cyflawni gwaith datblygu addysg a chymunedol gyda phrosiect Ysgolion Creadigol Arweiniol, Arts Active a Phrifysgol Bath Spa.  

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn datblygu ei hymarfer celfyddydol unigol gyda ffocws ar y celfyddydau gweledol a barddoniaeth ddwyieithog, gan weithio'n aml gyda dodrefn fel cynfas ar gyfer adrodd straeon gweledol. Mae'r gwaith hwn yn archwilio'r cysylltiad dynol sydd gennym â'r gwrthrychau yn ein bywydau bob dydd a'r hyn y mae'r eitemau hyn yn ei ddweud o hunaniaeth, gwerthoedd, iaith a diwylliant. Mae bod wedi'i lleoli yn y Cymoedd hefyd yn ysbrydoli ei gwaith, yn cysylltu â'r tirlun sy'n newid, ei phobl a'i hanes. Mae'r gwaith yn gwahodd pobl i eistedd, profi a defnyddio'r darnau mewn ffordd ymarferol gan ysgogi trafodaeth a dadlau ar yr un pryd. Mae rhai o'i phrosiectau diweddar wedi cynnwys gweithio gyda'r gymuned i dynnu straeon personol o fewn eitemau o ddodrefn, myfyrio ar y cysyniad o gael sedd wrth y bwrdd, ac ymateb i faterion sy'n ymwneud â sbwriel a marwolaeth y stryd fawr. Mae Bridie yn rhannol ddall.  

Jack Skivens

Jack Skivens

Darlunydd yw Jack Skivens sy'n gweithio gyda dyfrlliwiau, inciau a phensiliau a siarcol o bryd i’w gilydd. Mae'n cael ei ysbrydoli gan y byd o'i gwmpas ac yn hoff iawn o ddod o hyd i straeon cudd mewn pethau pob dydd, gan ymateb i'r hyn sydd o’i gwmpas. Mae wrth ei fodd yn adrodd straeon gyda'i ddarluniau i bawb eu mwynhau ac yn ceisio gwneud iddynt apelio at bobl o bob oedran. Mae’n hoff o arbrofi gwahanol ddulliau darlunio ac yn angerddol am ddod o hyd i ffyrdd diddorol o adrodd straeon drwy ddarlunio. Mae'n gweithio o'i stiwdio gartref ym Mhontypridd ac wrth ei fodd yn mynd am dro yn y goedwig yn y bore. 

Kyle Stead

Headshot of Kyle

Mae Kyle Stead (fe/ef) yn artist amlddisgyblaethol niwrowahanol o’r dosbarth budd-daliadau a anwyd yng Nghwm Rhondda yn ne Cymru. Mae ei waith yn cynnwys perfformio, creu darnau theatr, cynhyrchu creadigol, cynhyrchu cyfryngau a hwyluso, ymhlith eraill. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cymryd profiadau bywyd go iawn i greu gwaith sy'n cynnig i gynulleidfaoedd gipolwg digyfaddawd, eofn a realistig ar y byd sy'n cael ei greu. Mae Kyle yn angerddol am greu amgylcheddau gwaith sy’n ystyriol o drawma. Mae hyn yn bwysig i fynd ati i archwilio’n feiddgar a bod yn ddewr gyda dewisiadau creadigol. Mae am frwydro yn erbyn tangynrychiolaeth artistiaid o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel. A hynny wrth edrych hefyd ar wella amodau gwaith ar gyfer unigolion niwrowahanol. Fel rhywun a adawodd yr ysgol yn gynnar, mae Kyle yn angerddol am addysg amgen,  ac yn defnyddio'r diwydiant creadigol fel lle i ddarganfod, arbrofi a dathlu. Mae Kyle yn defnyddio barddoniaeth lafar fel ffordd o fynegi ei hun, ac yn aml yn cyfuno ei eiriau â bîtbocsio. Fel rhywun sydd wedi cael trafferth gyda'i iechyd meddwl a'r gallu i reoli ei ddicter, mae wedi dysgu rhyddhau’r teimladau hynny drwy farddoniaeth lafar i’w gysuro. Kyle oedd un o dderbynwyr Bwrsariaeth Greadigol Weston Jerwood 2020-2022. www.kylestead.co.uk @Kyle_Stead (X - Twitter yn flaenorol ac Instagram) 

Sylvia and Jonathan 

Sylvia and Jonathan headshot

Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae’r cyfansoddwyr a dylunwyr sain Sylvia Strand a Jonathan Gregory wedi creu sgôr a chrefftio dyluniad sain ar gyfer nifer o gyfresi teledu, ffilmiau, dramâu byr a rhaglenni dogfen arobryn a ddarlledwyd ledled y byd. Maent yn angerddol am adrodd straeon drwy sain a cherddoriaeth, gyda’u gwaith yn cael ei ffrydio dros filiwn o weithiau ar-lein, ac maent yn aml yn cael eu comisiynu i greu caneuon gwreiddiol ar gyfer teitlau agoriadol ffilmiau a’r rhestrau cydnabod ar y diwedd. Yn 2022 cafodd eu gwaith ei arddangos am y tro cyntaf yn y Palais des Festivals yn Cannes ar gyfer y ffilm fer sydd wedi ennill gwobrau - 'The Last Union'.   

Mae Sylvia a Jonathan yn aml yn cymryd ysbrydoliaeth o'r gymuned lle maent yn byw ac yn gweithio, yn y Rhondda Fach Uchaf. Ers uwchraddio i stiwdio sain amgylchynol sinematig {Dolby Atmos}, maent wedi bod yn archwilio sain ymdrwythol 360 yn eu gwaith ffilm/teledu ac fel rhan o brosiect cymunedol ar raddfa fawr 'Our Space — Ein Lle Ni' yn gweithio gyda dros 600 o bobl yn eu cymuned, gan gynnwys ysgolion, corau, bandiau a pherfformwyr, gan ddyfeisio albwm cysyniad mewn sain 360 yn dathlu hanes ardal Pen-y-Cymoedd o'r oes iâ hyd heddiw. Mae un o'r darnau, Black Gold, yn cynnwys pedwar côr meibion yn ogystal â seiniau mwyngloddio a recordiwyd mewn sain 360 llawn - o geibiau i dramiau, gwyntyllau ffwrneisi chwyth a chyrn pyllau, pob un wedi'i recordio'n ambisonaidd, gan roi'r teimlad i’r gwrandäwr o fod yn ddwfn o dan y ddaear. Mae'r pedwar côr o bedwar cwm gwahanol yn cynrychioli'r gwahanol dimau o wahanol byllau glo a fyddai’n cwrdd o dan y ddaear wrth fynd i’r gwaith, er eu bod yn byw mewn gwahanol bentrefi. 

Mae prosiectau eraill yn cynnwys cynhyrchu, ysgrifennu a pherfformio yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision, ddwywaith, ac ers 2018 mae eu gwaith ffilm a theledu hefyd wedi datblygu i waith creu stori a chynhyrchu rhaglenni teledu, gan arwain at gytundeb cyd-gynhyrchu rhyngwladol gyda Viacom CBS ar gyfer cyfres deledu fyd-eang 8 rhan mewn cydweithrediad â Wildflame (Cymru), Zig Zag (Lloegr) a Tindefilm (Norwy). 

 

Cadwch lygad ar ein gwefan, cylchlythyr a chyfryngau cymdeithasol i ddarganfod mwy am yr artistiaid hyn a'u prosiectau dewisol.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event