Mannau cydweithio

Mannau a Hybiau Creadigol: Caerdydd

Mae mannau yn bwysig i bobl greadigol. Mannau i feddwl, gwneud, cwrdd neu gydweithio.

Dyna pam rydyn ni wedi llunio rhestr i chi o'r mannau a'r hybiau creadigol sydd ar gael i'w llogi yng Nghaerdydd. P'un a oes angen lle arnoch i ymarfer neu gael cyfarfod, gobeithiwn y bydd y mannau hyn yn rhoi lle i chi wneud yr hyn sy’n bwysig i chi.

Cofiwch gysylltu â ni a rhoi gwybod i ni os ydym wedi methu rhai.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 1 September 2021

Y Stiwdio Gynaliadwy

Man i gydweithio’n greadigol, lle i wneuthurwyr a phodiau y gall gweithwyr creadigol eu llogi

Rabble Studio

Man dan arweiniad yr aelodau lle gall gweithwyr llawrydd, busnesau bach a gweithwyr o bell gydweithio

Tramshed Tech

Y ganolfan meithrin busnesau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Gofod Cydweithio gyda Desgiau Poeth, Ystafelloedd Cyfarfod, Gofod Digwyddiadau a Swyddfeydd Hyblyg. Ar agor 8-5 Llun - Gwener

Radical/Addfwyn

Man cydweithio a diwylliannol dan arweiniad y gymuned

CULTVR

Man i gydweithio gydag opsiynau desgiau poeth

Tŷ Brunel

Man i gydweithio gydag amrywiol opsiynau desgiau poeth

Indycube: Yr Efail Lychlyd

'Ystafell fyw gymunedol' yn darparu opsiynau cydweithio a desgiau poeth, 4-6 desg, 3 ystafell gyfarfod, ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9-5

Space2B, The Maltings

Mannau i gydweithio gyda desg boeth ac opsiynau desg pwrpasol, ar gael 24 awr. 

Startup Stiwdio Sefydlu, Prifysgol De Cymru

Deorfa bwrpasol Prifysgol De Cymru ar gyfer syniadau busnes newydd, sy’n cynnig lle i gydweithio

One Fox Lane Cymuned gydweithredol greadigol
Platform Llogi swyddfa ar gyfer busnesau bach a chanolig a lleoliad bwyd stryd a gynhelir gan ddatblygiad Tramshed, ar gael 24 awr.

 

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event