Mannau cyfarfod

Mannau a Hybiau Creadigol: Caerdydd

Mae mannau yn bwysig i bobl greadigol. Mannau i feddwl, gwneud, cwrdd neu gydweithio.

Dyna pam rydyn ni wedi llunio rhestr i chi o'r mannau a'r hybiau creadigol sydd ar gael i'w llogi yng Nghaerdydd. P'un a oes angen lle arnoch i ymarfer neu gael cyfarfod, gobeithiwn y bydd y mannau hyn yn rhoi lle i chi wneud yr hyn sy’n bwysig i chi.

Cofiwch gysylltu â ni a rhoi gwybod i ni os ydym wedi methu rhai.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 1 September 2021

Canolfan Mileniwm Cymru 6 ystafell gyfarfod gwahanol feintiau ar gael i'w llogi
ProMo-Cymru

Ystafelloedd amrywiol ar gyfer cyfarfodydd, gweithdai a seminarau

Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru

10 ystafell ymneilltuo a chyfarfodydd gyda chyfleusterau clyweledol

Coleg Caerdydd a'r Fro

Ystafelloedd cyfarfod gwahanol feintiau, wedi'u lleoli yn y Ganolfan Fusnes, ar Gampws Canol y Ddinas

Lolfa Virgin Money

Lolfa bwrpasol fawr yn fan cyfarfod i'r gymuned, capasiti o 14 yn yr ystafelloedd cyfarfod, gofod hefo seddi meddal, gofod cydweithio a digwyddiadau

Castell Caerdydd

Ystafelloedd cyfarfod hyblyg ar gael i'w llogi ar dir y castell

Neuadd Aberdâr, Prifysgol Caerdydd

3 ystafell gyfarfod ar gael ym mhrif adeilad y neuadd

Urdd Gwneuthurwyr Cymru

Ystafelloedd cyfarfod hyblyg ar gael i’w llogi ar gyferhanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan

Hwb Seren (Gwell Campfa)

Stiwdio fawr gydag aerdymheru ac ystafell gyfarfod lai ar gael i'w llogi,

ar gael 6-8:30pm

Canolfan Gymunedol Cathays

Ystafell gyfarfod gyda lle i 16 ar gael i'w llogi fesul awr. Hefyd hefo neuaddau mwy ar gyfer cyfarfodydd

Canolfan Gymunedol Yr Eglwys Newydd

2 ystafell gyda lle i 40, y gellir eu cyfuno ar gyfer grwpiau mwy

Canolfan Gymunedol Butetown

Ystafell gyfarfod bwrpasol gyda lle i 14. Hefyd lle seminar/cynadledda ar gyfer hyd at 70 o bobl

Theatr Sherman

Ystafelloedd cyfarfod hyblyg ar gael i'w llogi

Neuadd Dewi Sant

10 ardal gwahanol feintiau ar gael i'w llogi

Canolfan Gelfyddydau Neuadd Llanofer

Man cyfarfod gyda lle i hyd at 25 - Ffoniwch i archebu 02920 631144

Arena Motorpoint

Ystafelloedd cyfarfod meintiau amrywiol

Space2B, The Maltings

Ystafelloedd cyfarfod gwahanol feintiau gyda lle i rhwng 2 a 18 o bobl

Oasis Caerdydd

Ystafelloedd bach, neuaddau mwy ac ardal allanol ar gael i'w harchebu

Celfyddydau Cefnfor Caerdydd Dosbarthiadau, cyfarfodydd, sgyrsiau, gweithdai
Canolfan Ymwelwyr Parc Bute Lle ar gyfer hyd at 50 - ystafell fawr a bach
Llyfrgell Ganolog Caerdydd 2 ystafell gyfarfod gyda lle ar gyfer 40 ar y mwyaf ac ystafell greadigol gyda lle ar gyfer 60 ar y mwyaf

Norwegian Church Arts Centre

2 le gyda capasiti hyd at 120

Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru 

Amryw o ystafelloedd ar gael rhwng 40 a 100 o gapasiti
Urban Space Ystafell gyfarfod i 6 o bobl, 8 desg yn ogystal â swyddfa breifat i'w rhentu

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event