Prosiect Gwydnwch ac Adferiad

Mae Caerdydd Creadigol wedi dod yn un o bartneriaid prosiect o’r enw Gwydnwch ac Adferiad yr Economi Greadigol wedi COVID-19.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 12 January 2022

Ac yntau’n cael ei redeg gan y Labordy Economïau Creadigol ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, dechreuodd y prosiect hwn ag arolwg o ficrofusnesau creadigol yn y DU. Yn seiliedig ar ganfyddiadau'r arolwg ac ymchwil flaenorol, mae Pecyn Cymorth Gwydnwch wrthi’n cael ei ddatblygu. Bydd y pecyn hwn ar gael ar-lein am ddim er mwyn helpu microfusnesau creadigol i feithrin gwydnwch a helpu’r sector creadigol i adfer wedi pandemig COVID-19.

Mae ymchwil flaenorol yn dangos bod llawer o ficrofusnesau creadigol wedi dal i fod yn gynhyrchiol neu wedi dod yn fwy llwyddiannus yn ystod y pandemig, a nodwyd nifer o nodweddion ymhlith y sefydliadau hyn. Drwy ddefnyddio cyfraniadau carfan o ficrofusnesau creadigol ledled y DU i adeiladu ar y nodweddion hyn, bydd y Pecyn Cymorth Gwydnwch yn cynnig adnoddau diagnostig y gall busnesau eu defnyddio i wella eu gallu i wrthsefyll cyfnodau anodd.

Ac yntau’n un o bartneriaid y prosiect, mae Caerdydd Creadigol wedi recriwtio carfan o ficrofusnesau creadigol yn y rhanbarth i gymryd rhan mewn grwpiau ffocws rhithwir a gweithdy rhanbarthol wyneb-yn-wyneb am dâl. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn profi'r Pecyn Cymorth Gwydnwch ac yn ei lywio i ddiwallu eu hanghenion drwy rannu eu profiadau a'u gofynion. Bydd yn cael ei brofi drwy Hapdreial Rheoledig, a bydd y fersiwn ddiwygiedig ar gael ar-lein er mwyn cefnogi microfusnesau creadigol a helpu i adfer ac ailadeiladu'r sector creadigol ledled y DU. Mae cymryd rhan yn galluogi rhwydweithio â microfusnesau creadigol eraill yn y rhanbarth.

 

Mae partneriaid eraill y prosiect yn cynnwys y British Council, Kaleider studios  Watershed creative technology centre  MadLab  Baltic Creative  Croydon Enterprise Zone, Future Screens NI 

Darlllenwch mwy:

Unpacking the implications of a sector in transition as a result of covid-19

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event