Awgrymiadau Jess i feistroli rhwydweithio

Yr wythnos hon, rydym yn lansio ein digwyddiad rhwydweithio misol newydd – Paned i Ysbrydoli– sef cyfle rheolaidd i fusnesau, gweithwyr creadigol a gweithwyr llawrydd creadigol yn y ddinas i ddod at ei gilydd i gysylltu, cydweithio a chael paned. I ddathlu, mae Rheolwr Caerdydd Creadigol, Jess, yn rhannu ei 5 awgrym a fydd yn eich helpu i wneud cysylltiadau ystyrlon, dilys yn eich digwyddiad rhwydweithio nesaf.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 31 January 2023

Rwyf wedi clywed pobl yn aml yn dweud bod rhwydweithio yn ‘gelfyddyd’ – ond rwy’n meddwl mai nonsens yw hynny. Y gwir yw, gall unrhyw un fod yn rhwydwaithiwr da gyda dim ond ychydig o awgrymiadau:

1. Cyrhaeddwch yn gynnar

Mae hyn yn swnio'n syml ond os ydych chi ychydig yn llai hyderus yn rhwydweithio, mae'n werth sicrhau eich bod chi'n brydlon. Mae cyrraedd digwyddiad ar amser yn rhoi mantais i chi er mwyn gwneud y cysylltiadau gorau, ynghyd â’r amser a’r lle i gychwyn sgyrsiau cyn i bethau fynd yn orlawn a lefelau sŵn gynyddu. Yn ogystal â hynny, nid yn unig y gall fod yn frawychus i fynd i mewn i ddigwyddiad sydd eisoes wedi dechrau, mae hefyd yn eich rhoi mewn sefyllfa letchwith lle mae'n rhaid i chi naill ai loetran a mynd at grwpiau o bobl, neu fynd o gwmpas ar ben eich hun i chwilio am rywun arall i siarad hefo.

Os ydych chi yno'n barod pan fydd pobl yn cyrraedd, bydd pobl eraill yn dod tuag atoch yn naturiol, gan eich rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer rhwydweithio effeithiol. 

Image of Jess networking at an event

2. Sefwch allan oddi wrth y dorf

Pan fyddwch chi mewn digwyddiad rhwydweithio, gwnewch hi mor hawdd â phosibl i eraill ddod atoch chi trwy gliwiau gweledol ynghylch pwy ydych chi a beth yw eich diddordebau. Er enghraifft, unwaith fe wnes i gyfarfod â menyw mewn digwyddiad a oedd yn gwisgo cot du a glas hardd. Fe wnes i ei chanmol ar y peth, ac atebodd hi gyda ‘diolch, mae pawb bob amser yn rhoi sylwadau arno – fy nghot rhwydweithio i yw hi’. Cymerais ei chiw, a nawr pan fyddaf yn mynychu digwyddiad lle rwy'n gwybod y byddaf yn cwrdd â phobl newydd rydw i bob amser yn siŵr o wisgo rhywbeth ychydig 'allan o'r cyffredin', efallai broetsh vintage, neu gadwyn feiddgar, neu batrwm trawiadol. Gall agor sgwrs gyda dieithriaid fod yn anodd, felly trwy roi ‘mewn’ i bobl rydych chi’n eu gwahodd i ddechrau sgwrs gyda chi mewn ffordd sy’n teimlo’n naturiol ac anfygythiol. I chi, gallai fod yn fathodyn pin gydag enw eich hoff fand, neu grys-t slogan, pâr o sbectol neu hyd yn oed yn cario bag tote o arddangosfa oriel neu elusen arbennig. Ond beth bynnag rydych chi'n ei wisgo, wrth rwydweithio, meddyliwch pa mor effeithiol rydych chi'n cyfleu eich hunaniaeth a'ch diddordebau trwy eich ymddangosiad.

3. Perffeithiwch eich pitsh

Gyda'r ewyllys gorau yn y byd, nid oes neb eisiau gwrando ar fersiwn syfrdanol o stori eich bywyd, felly meddyliwch am sut rydych chi'n mynd i gyflwyno'ch hun a'ch gwaith cyn y digwyddiad. Meddyliwch am y ffordd orau i gyfleu’r hyn rydych chi’n ei wneud, beth yw eich cynlluniau a pha fathau o gysylltiadau rydych chi’n bwriadu eu gwneud mewn ffordd gryno a deniadol (dim mwy na 30 eiliad yn ddelfrydol). Ymarferwch ei ddweud – fe allech chi hyd yn oed ei recordio ar eich ffôn a gwrando’n ôl – a pheidiwch ag anghofio diweddaru eich ‘pitsh’ yn rheolaidd wrth i’ch blaenoriaethau ddatblygu a newid. Mae digwyddiadau rhwydweithio yn aml yn gyfyngedig o ran amser, felly trwy gadw pethau'n fachog rydych chi'n rhoi'r cyfle gorau i chi'ch hun wneud cymaint o gysylltiadau â phosib.

Image of Jess networking at an event

4. Mae'r sesiwn 'holi ac ateb' yn ffrind i chi

Bydd llawer o ddigwyddiadau rhwydweithio yn cynnwys siaradwr gwadd neu gyflwyniad, ac fel arfer bydd cyfle i’r gynulleidfa holi cwestiynau wedyn.

Bydd yn barod bob amser â chwestiwn deallus, perthnasol i'w ofyn i'r siaradwr neu'r panel, pe bai'r cyfle'n codi.

Y sesiwn holi ac ateb yw eich cyfle euraidd i ddisgleirio a chael sylw heb ei rannu gan bawb yn yr ystafell. Os byddwch chi'n hoelio'r un hwn, bydd gennych chi giw o bobl sydd eisiau eich cyfarfod chi wedyn, a byddwch chi wedi codi'ch proffil a'ch hygrededd yn sylweddol.

Image of Jess networking at an event

5. Dilynwch fyny ‘wyneb-yn-wyneb' ar gysylltiadau 

Yn y byd digidol cyflym sydd ohoni heddiw, mae'n hawdd anghofio bod angen meithrin cysylltiadau dynol dros amser. Beth bynnag rydych chi'n chwilio amdano, mae'n annhebygol iawn y byddwch chi'n dod o hyd yn union hynny mewn un digwyddiad rhwydweithio yn unig. Dyna pam ei bod yn bwysig dilyn i fyny gyda’ch cysylltiadau newydd ar ôl i bawb fynd adref, a meithrin perthnasoedd parhaol. Gyrrwch e-bost atynt, ychwanegwch nhw ar LinkedIn, cwrdd am goffi, cadwch mewn cysylltiad a gweld sut gallwch chi gydweithio a chefnogi'ch gilydd. Mae pob person newydd y byddwch yn cwrdd ag ef yn borthor i rhwydwaith personol o gydweithwyr a chysylltiadau, felly cymerwch yr amser i ddod i nabod eich cysylltiadau newydd.

Image of Jess networking at an event

Mae Paned i Ysbrydoli yn cael ei gynnal ar ddydd Iau cyntaf o bob mis. Darganfyddwch mwy ac archebwch eich lle yn ein digwyddiad nesaf i roi rhai o'r awgrymiadau rhwydweithio hyn ar waith.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event