Beth sydd ar y gweill yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd eleni?

Mae Canolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd yn rhaglennu, cynhyrchu a hyrwyddo gosodiadau celf, perfformiadau byw a dangosiadau ffilm yn rheolaidd. Mae ei gynnig yn 2023 yn cynnwys amrywiaeth o brofiadau aml-ffurf ar gelfyddyd. Rydyn ni wedi dewis rhai o uchafbwyntiau ein rhaglen:

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 15 March 2023

Gosodiadau celf

Leo Robinson: The Infinity Card

Hyd at 16 Ebrill 2023. Dydd Mawrth - Dydd Sul, 11am – 5pm. Mynediad yn rhad ac am ddim.

Ar gyfer ei arddangosfa unigol fawr gyntaf yng Nghymru, mae Leo Robinson yn cyflwyno oraclau, sgorau cerddorol a gwrthrychau sy’n archwilio dyfodol hapfasnachol. Rhagor o wybodaeth.

I gyd-fynd â chyfres ffilm a rhaglen ddigwyddiadau The Infinity Card.

An image of Leo Robinson
Leo Robinson

Comedi   

Tom Ward – Anthem

29 Mawrth 2023 8pm. 

Mae Tom Ward wedi’i weld ar Live at The Apollo ar BBC2, The Stand-Up Sketch Show ar ITV2, Live from the BBC gan BBC Worldwide, a Roast Battle gan Comedy Central, Stand up Central a Live From The Comedy Store. Rhagor o wybodaeth.

Comedi Go Faster Stripe

Mae Go Faster Stripe yn dychwelyd i Chapter gyda chyfres o sioeau comedi yn cynnwys Bethany Black, Rob Kemp, Wil HodgsonSteve Hall.

Lady Bushra yn Cyflwyno… Comedi Drag Cabaret

Dydd Gwener 23 Mehefin, 7pm.

Bydd y comediwr drag, Lady Bushra, sydd wedi'i henwebu am Wobr Comedi Newydd y BBC, yn dod â sioe gomedi i Chapter dros yr haf. Rhagor o wybodaeth.

Perfformiadau byw 

Jazz am ddim ar y Sul

Yn cynnwys Glen Manby ar alto sax, Jim Barber ar y piano, Don Sweeney ar y bas, a Greg Evans ar y drymiau, cewch wybod mwy.

Image of Sunday jazz
Jazz ar Ddydd Sul

Lichen Slow

Dydd Llun 24 Ebrill 7pm.

Mae Lichen Slow yn fand sy'n ein hannog i fwynhau'r pethau bach, ac os yw'n helpu, i wneud hwyl am y pethau sy'n ein rhwystro fwyaf. Rhagor o wybodaeth.

Lichen Slow
Lichen Slow

Finding Home

Dydd Mercher 26 - Dydd Gwener 29 Ebrill.

Yn benllanw 18 mis o ymchwil, mae’r straeon yn y darn hwn o theatr yn seiliedig ar brofiadau gwirioneddol a theithiau bywyd pobl sy’n byw yng Nghaerdydd. Rhagor o wybodaeth.

Digwyddiadau

Deaf Together 

Mae Deaf Together yn ddigwyddiad a arweinir gan y Byddar sy'n agored i bawb, gan ddod â thri diwrnod o ddigwyddiadau, gweithgareddau a pherfformiadau yn Chapter, ar-lein ac mewn lleoliadau ledled Cymru. Rhagor o wybodaeth.

Gŵyl Animeiddio Bach Caerdydd 2023

Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd (CAF) yn ôl ar gyfer ei rhifyn bach cyntaf erioed, a bydd yn arddangos rhai o’r animeiddiadau gorau o bob rhan o’r byd. Mae'r rhaglen yn dathlu popeth bach. Gan gynnwys rhaglenni ffilm fer, ffilmiau nodwedd, dosbarthiadau meistr, gweithdai, sesiynau holi ac ateb gwneuthurwr ffilmiau, digwyddiadau diwydiant, prydau bwyd, digwyddiadau cymdeithasol ac arddangosfa fach. Gweld y rhaglen lawn.

Rhaglen lawn Chapter ar gyfer 2023

Cymerwch olwg ar y rhestrau llawn ar wefan Chapter.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event