Beth sydd ymlaen yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2023

Mae eleni’n argoeli i fod yn un brysur yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gyda rhaglen lawn o arddangosfeydd, celf weledol, nosweithiau ‘Mwy o Amser’ a digwyddiadau arbennig.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 24 January 2023

Gallwch fwynhau rhaglen arddangosfeydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyda’r nos ar y dydd Iau cyntaf o bob mis gyda’u cyhoeddiad ‘Mwy o Amser’. Yn ogystal ag amser ychwanegol i fwynhau’r arddangosfeydd, bydd yr amgueddfa’n parhau i gynnal digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. Dyma grynodeb o’r hyn i’w ddisgwyl yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd eleni:

Hwyrnos: Queer

Hwyrnos: QUEER will take over the museum on 17 February to coincide with LGBTQ+ History Month. The evening will celebrate the LGBTQ+ communities of Cardiff, with contributors to the night including TikTok legend Ellis Jones and Cardiff DJ duo, Welsh Chicks. The event will fill the museum with music and entertainment, with a Queeroke and showcases by The Welsh Ballroom and Qwerin.

Bydd Hwyrnos: QUEER yn meddiannu’r Amgueddfa ar 17 Chwefror fel rhan o Fis Hanes LHDTQ+. Bydd hi'n noson o ddathlu, cefnogi a chysylltu cymunedau LHDTQ+ Caerdydd, gyda chyfraniadau gan un o sêr TikTok, Ellis Jones a'r DJs lleol, Welsh Chicks. Er mwyn llenwi'r Amgueddfa â cherddoriaeth a hwyl, byddwn ni hefyd yn gweld perfformiadau dawns gan The Welsh Ballroom a Qwerin.

Dywedodd Ruth Oliver, Rheolwr Digwyddiadau Amgueddfa Cymru:

Bydd y digwyddiad hwn yn dechrau 2023 gyda bang, ac rydyn ni'n edrych ymlaen i agor drysau'r Amgueddfa eto i groesawu Hwyrnos arall – un o ddigwyddiadau mwyaf a mwyaf deinamig Caerdydd. Mae Hwyrnos: QUEER yn gyfle i oedolion o bob oed ymlacio, ymfalchio yn eu hunaniaeth, a mwynhau'r holl weithgareddau llawn hwyl.  Mae’r Amgueddfa’n lle diogel i bob cymuned yng Nghaerdydd, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda busnesau LHDTQ+ yn y digwyddiad cyffrous hwn.

17 Chwefror, 19:00 – 23:30. Tocynnau £10, rhagor o wybodaeth

BBC 100 yng Nghymru

I nodi 100 mlynedd o ddarlledu yng Nghymru, mae BBC 100 yng Nghymru yn mynd ag ymwelwyr ar daith drwy amser, o'r darllediadau cyntaf yn y 1920au i’n hoes ddigidol ni heddiw, gan gynnwys golwg ar rhai o'r cynyrchiadau diweddaraf, His Dark Materials, Doctor Who a Casualty. 

Yn parhau tan 16 Ebrill, rhagor o wybodaeth

 

BBC 100 yng Nghymru: Trwy'r Lens

Digwyddiad am ddim, addas i bawb.

Dewch i ddarganfod beth sy'n digwydd tu ôl i'r llenni wrth gynhyrchu rhaglenni teledu; o greu eich bwletin tywydd eich hun, i golur effeithiau arbennig. Bydd hefyd sgyrsiau gydol y dydd, gan gynnwys ‘Gwyddoniaeth Doctor Who’ a dosbarth colur effeithiau arbennig gyda  phrif golurydd  rhaglen Casualty.

11 Chwefror 2023 10am - 4pm, mwy o wybodaeth.

Image of Ryan and Ronnie outside the BBC building
Credit: BBC

Rheolau Celf?

Mae Rheolau Celf? yn trafod y berthynas rhwng gwahanol fathau o gelf, gan edrych o’r newydd ar sut y caiff gwahanol fathau o gelf eu dyrchafu a’u diystyru, a straeon pwy sy’n cael eu hadrodd a phwy sy’n cael llais. Mae’r arddangosfa yn crynhoi pum canrif o baentio, darlunio, cerflunio, ffotograffiaeth, ffilm a cherameg i godi cwestiynau am gynrychiolaeth, hunaniaeth a’r amgylchedd. Yn cynnwys gwaith gan yr enillydd Gwobr Turner, Chris Ofili o Chwefror 2023. 

Yn parhau tan 4 Mehefin, rhagor o wybodaeth.

Ailfframio Picton

Arddangosfa gan y gymuned sy’n ail-fframio hanes yr Is-gadfridog Syr Thomas Picton (1758-1815) gan roi llais i’r bobl gafodd eu heffeithio fwyaf gan ei weithredoedd.  

Yn parhau tan 3 Medi, rhagor o wybodaeth.

Môrwelion

Arddangosfa newydd yn cynnwys 40 o ffotograffau gan Garry Fabian Miller – un o ffigurau mwyaf blaengar ffotograffiaeth gain – pob un ohonynt wedi’u tynnu ym 1976–77 o do ei gartref yn Clevedon

18 Chwefror – 10 Medi, rhagor o wybodaeth

Artes Mundi 10

Mae prif wobr gelf gyfoes ryngwladol y DU yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd enillydd y wobr fawreddog o £40,000 – yr wobr fwyaf yn y DU am gelf gyfoes – yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr arddangosfa.

20 Hydref 2023 - 25 Chwefror 2024, rhagor o wybodaeth.

A collage of the Artes Mundi artists
The Artes Mundi shortlist, credit Artes Mundi

Galw am Gerrig

Mae ffonau symudol yn rhan hanfodol o’n bywydau. Ond ydyn ni’n gwybod o le maen nhw’n dod? A beth yw cost amgylcheddol y ddyfais yn eich poced? Bydd yr arddangosfa hon yn mynd â ni ar daith i ddarganfod mwy. 

Agor Hydref 2023, mwy o wybodaeth i ddilyn ar y wefan.

Rhagor o wybodaeth am Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae'r Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am ddim i'w hymweld, rhagor o wybodaeth a chipolwg ar ddigwyddiadau i ddod.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event