Bod yn weithiwr llawrydd mewn maes creadigol: awgrymiadau o gyfeiriadur ein rhwydwaith

Yn ddiweddar gofynnodd ein Cynhyrchydd-Fyfyriwr, Rhiannon Jones, i aelodau cyfeiriadur ein rhwydwaith am eu cyngor ynghylch adeiladu gyrfa greadigol sy’n rhoi boddhad i’r gweithiwr llawrydd.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 26 July 2022

Mae’n amhosib rhoi un diffiniad o’r hyn yw gyrfa greadigol. Yn yr un modd, nid un llwybr sydd at weithio'n llawrydd mewn maes creadigol. Fe holon ni dri aelod o gyfeiriadur ein rhwydwaith: Myfanwy Harris, Sophie BuchaillardJeannette Baxter am yr hyn sydd wedi eu helpu i sefydlu eu gyrfaoedd creadigol.

Dywed yr artist, Myfanwy Harris:

“Mae bod yn greadigol yn daith gyffrous lle daw eich dychymyg a’ch syniadau’n fyw. O’ch comisiwn cyntaf i’r teimlad balch y tu mewn pan fydd eich creadigaethau’n cael eu derbyn â gwên.”

Mae Myfanwy yn credu bod adeiladu rhwydwaith cymorth yn bwysig:

“Wrth feddwl am y rhan fwyaf o’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu ar ein taith, mae’n debygol bod rhywun arall wedi’u hwynebu hefyd. Mae rhwydweithio’n hynod bwysig ar gyfer cael pobl i adnabod eich enw, ac weithiau fe allwch gael comisiwn mewn ffair grefftau neu yn ystod noson allan mewn bwyty.”

Myfanwy Harris
Myfanwy Harris

Mae Sophie Buchaillard, awdur This Is Not Who We Are, hefyd yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a’r adborth gan y rhai o’i chwmpas. Dyma a ddywedodd:

“Yn fy mhrofiad i mae cyhoeddi yn ymdrech grŵp. Mae bod yn rhan o grŵp awduron yn rhoi mynediad i chi at ddarllenwyr parod sy'n dod yn gyfarwydd â'ch prosiect ac sy'n gallu rhoi adborth adeiladol manwl. Yn bennaf oll, mae grŵp awduron yn rhwydwaith cefnogol lle gallwch chi rannu eich heriau eich hun a chael rhywfaint o bersbectif mawr ei angen.”

Sophie Buchaillard
Sophie Buchaillard

Yn fyfyriwr graddedig diweddar ac yn weithiwr creadigol sy’n dod i’r amlwg yn y diwydiant theatr, mae Jeannette Baxter yn credu bod dysgu oddi wrth eraill a meithrin perthnasoedd ag eraill wedi helpu ei gyrfa llawrydd:

“Mae cael fy mentora gan weithwyr proffesiynol sefydledig yn y diwydiant a chydweithio â nhw wedi bod yn allweddol yn fy ngyrfa hyd yn hyn. Os oes cysylltiadau yr ydych wedi'u gwneud, boed yn yr ysgol neu mewn swyddi blaenorol, cadwch mewn cysylltiad. Dydych chi byth yn gwybod pryd y gallent fod yn chwilio am rywun!"

Jeannette
Jeannette Baxter

Mae hefyd yn bwysig bod yn hyderus yn eich creadigrwydd, fel y mae Myfanwy yn ychwanegu: “Cofiwch, mae eich creadigaeth yn unigryw ac os yw’n hynny’n teimlo’n iawn, fe fyddwn i bob amser yn cymryd risg.”

Cofrestrwch ar gyfer Cyfeiriadur y Rhwydwaith i chwilio am bobl greadigol eraill a chydweithio â nhw.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event