Cam Creadigol Cyntaf: Creu podlediad am y tro cyntaf

Yn y rhifyn hwn o Cam Creadigol Cyntaf, buom yn siarad â Nick Yeo, bardd a phodlediwr o Gaerdydd sy'n sôn am greu ei bodlediad cyntaf, Sgwrsio.

Mae podlediad Nick, Sgwrsio, wedi cael ei greu gan ddysgwyr Cymraeg i ddysgwyr Cymraeg, ac ers ei lansio mae wedi cael ei lawrlwytho dros 13,000 o weithiau. Yn y cyfweliad hwn, mae Nick yn siarad am ei resymau dros greu Sgwrsio, yn rhannu awgrymiadau a chyngor i'r rhai sydd am gynhyrchu eu podlediad eu hunain, ac yn sôn am sut mae cymuned greadigol Caerdydd yn ei gefnogi ef a'i waith.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 6 June 2022

 

Nick Yeo in Creative Firsts border

Dywedwch wrthym amdanoch eich hun a'ch cefndir creadigol

I ddechrau, fe wnes i ddarganfod sîn greadigol Caerdydd drwy fyd barddoniaeth, ar ôl mynd yn rheolaidd i ddigwyddiadau barddoniaeth fel Where I'm Coming From.  Drwy fynd i'r digwyddiadau hyn a chyfrannu atynt, dechreuais gwrdd â'r gymuned greadigol a datblygu fy syniadau fy hun o ran fy uchelgeisiau creadigol.

Gan ein bod ni'n byw mewn gwlad mor fach, mae hi mor hawdd cysylltu â phobl greadigol ledled Cymru felly dechreuais feddwl am ffyrdd newydd o rannu fy syniadau, y tu allan i fyd barddoniaeth. Yn gyntaf, fe wnes i weithio gydag S4C, yn benodol gyda Hansh, a chreu fideo ar gyngor dadleuol i ddysgwyr. Drwy fy ngwaith gyda Hansh, cefais flas ar fideo ac roeddwn i'n hoffi’r ffaith bod yr hyn sy’n cael ei greu yn mynd yn sydyn o rywbeth sy’n cyrraedd ystafell o 20 o bobl, i rywbeth sy’n cyrraedd miloedd o wylwyr. Roeddwn i hefyd eisiau cysylltu â phobl ddi-Gymraeg i rannu fy syniadau ar hunaniaeth Gymreig a'r iaith Gymraeg, felly cysylltais â BBC Sesh gydag ychydig o gynnwys arall roeddwn i eisiau ei greu. Fe wnaethon nhw gysylltu’n ôl, ac yna cefais gyfle i wneud rhai fideos gyda nhw yn ystod y cyfnod clo. Yn ystod y cyfnod hwn, penderfynais fwrw ymlaen a chreu fy mhodlediad fy hun.

Beth yw eich Cam Creadigol Cyntaf, felly?

Fy Ngham Creadigol Cyntaf yw Sgwrsio, podlediad Cymraeg i ddysgwyr gan ddysgwyr. Roeddwn i eisiau dathlu ac arddangos lleisiau dysgwyr Cymraeg ar draws y byd ar ôl darganfod cymuned enfawr o ddysgwyr ar Twitter, Facebook ac Instagram.

Roeddwn i eisiau dangos i bobl fy realiti o fyw gyda'r Gymraeg. Rwy'n credu bod hyder weithiau'n gallu bod yn broblem gyda siaradwyr ail iaith — ac iaith gyntaf — felly roeddwn i eisiau dangos i bobl 'Hei, rwy'n siarad yr iaith ac rwy'n gwneud camgymeriadau, weithiau rwy'n gofyn beth yw'r gair ac — i'r rhai sydd ddim yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf - eich bod chi'n gallu cyfathrebu, yn gallu chwerthin, yn gallu dod i adnabod eich gilydd ac nid oes rhaid iddo fod yn berffaith'. Nid yw hyder a rhuglder yn golygu cywirdeb - nid oes rhaid i chi fod yn gywir i gyfathrebu mewn unrhyw iaith.

Beth oedd yr her fwyaf?

Yr her gyntaf oedd gweithio allan sut i ddechrau podlediad. Roeddwn i eisiau ei wneud heb wario gormod, felly prynais feicroffon am £50 a defnyddiais blatfform podlediadau rhad ac am ddim RedCircle i lanlwytho fy mhenodau, ac Audacity i'w golygu am ddim. Un o'r heriau mwyaf oedd dysgu fy hun sut i ddefnyddio'r platfformau hynny, yn enwedig o ran y golygu. Mae'r ansawdd, rwy'n falch o ddweud, wedi gwella a chymerodd hynny amser.

Roedd dod o hyd i siaradwyr hefyd yn her, yn enwedig i ddod o hyd i bobl newydd yn rheolaidd. Mae ceisio cysylltu â dysgwyr nad ydych chi'n eu hadnabod yn anodd weithiau gan nad ydyn nhw'n credu bod eu Cymraeg yn ddigon da i fod ar y podlediad, ond rwy'n gwybod eu bod nhw’n gallu ei wneud yn bendant. Wedi dweud hynny, mae amrywiaeth mor fawr o grwpiau ac unigolion ar Twitter, Facebook ac Instagram, ac rwy’n cysylltu’n uniongyrchol â nhw. Nawr mae gen i gatalog o benodau, mae'n edrych fel rhywbeth dilys, fel podlediad go iawn, felly oherwydd hynny mae cysylltu â siaradwyr yn llawer haws.

Gallwch glywed ateb llawn Nick i'r cwestiwn hwn yn y clip sain ar waelod yr erthygl hon

Allwch chi rannu cyngor i bobl eraill sydd eisiau creu eu podlediad eu hunain?

  1. Mae YouTube yn ffrind i chi: mae cymaint o diwtorialau defnyddiol allan yna i'ch helpu chi i greu eich podlediad, defnyddiais i YouTube i ddysgu sut i olygu ac i ddod o hyd i feddalwedd priodol.
     
  2. Byddwch yn angerddol am eich pwnc: mae creu podlediadau yn cymryd llawer o amser, a dylai eich brwdfrydedd am y pwnc eich ysgogi. Mae'r angerdd hwnnw yn amlwg pan fyddwch chi'n siarad am rywbeth - os ydych chi'n ystyried y pwnc yn ddiflas, rydych chi'n mynd i swnio'n ddiflas.
     
  3. Recordiwch sawl pennod cyn rhyddhau’r un cyntaf - bydd pobl yn colli diddordeb os byddwch chi'n rhyddhau un ac yn cymryd chwe mis i rannu'r un nesaf. Dylai fod gennych chi o leiaf dri yn barod i’w rhyddhau bob mis, a gallwch chi gynllunio a chynhyrchu'r rhai nesaf wrth rannu'r rheini.

Wrth edrych yn ôl, a oes unrhyw beth y byddech chi wedi'i wneud yn wahanol?

Fyddwn i ddim yn newid unrhyw beth - roedd yn brofiad dysgu - ac rydw i wedi mwynhau'r elfen ddysgu a'r broses greadigol o ddatblygu fy sgiliau podlediad.

Pam dewis Caerdydd ar gyfer eich Cam Creadigol Cyntaf?

Mae Caerdydd yn hynod gyffrous - mae'n fach, ond yn llawn bwrlwm prifddinas. Mae cymaint yn digwydd yn y cymunedau creadigol Cymraeg a Saesneg eu hiaith. Mae'r diwydiant yng Nghaerdydd yn fywiog, ac yn ddigon bach fel ei bod yn hawdd cysylltu â phobl. Fe wnes i gael Ellis Lloyd Jones i fod yn rhan o fy mhodlediad. Mae'n siarad Cymraeg ac yn adnabyddus iawn ar TikTok, boi diymhongar a hyfryd a roddodd o’i amser i wneud podlediad gyda fi, ac rydw i wedi’i weld yng Nghaerdydd o dro i dro ers hynny.

Yr hyn sy'n wirioneddol wych am Gaerdydd yw nad rhif ydych chi, ond enw. Mae’n hawdd rhwydweithio ac mae'r gymuned yn gefnogol iawn. Rwy'n teimlo mor gadarnhaol am sîn greadigol Caerdydd ac mae’r holl beth yn gyffrous iawn.

Gwrandewch ar glip o'n cyfweliad, lle mae Nick yn sôn am yr ochr ymarferol o greu podlediad

Dilynwch Sgwrsio ar y cyfryngau cymdeithasol:

  • Instagram @sgwrsio
  • Twitter @sgwrsio1
  • Facebook @sgwrsiopodlediad

Mae Sgwrsio ar gael ar Y Pod, Spotify, iTunes, Amazon Podcasts, Google Podcasts, YouTube a mwy.

Cam Creadigol Cyntaf

Hoffech chi gael eich cynnwys mewn erthygl? Cysylltwch â ni drwy ebostio creativecardiff@caerdydd.ac.uk os oes gennych chi Gam Creadigol Cyntaf i'w rannu gyda'n cymuned.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event