Cam Creadigol Cyntaf: Rhyddhau cerddoriaeth am y tro cyntaf

Yn y rhifyn hwn o Cam Creadigol Cyntaf, buom yn siarad gyda Dan Edwards, cerddor a gweithiwr creadigol llawrydd o Gaerdydd.

Rhyddhaodd band Dan Static Inc eu halbwm cyntaf Beth Nawr ym mis Hydref 2020. Ers rhyddhau'r albwm, maen nhw wedi'u ffrydio miloedd o weithiau a chael eu chwarae ar BBC Radio Wales. Yn y cyfweliad, mae Dan yn trafod y broses o greu ei albwm cyntaf ac yn rhannu awgrymiadau i’r rheini sydd am ryddhau eu cerddoriaeth eu hunain.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 1 July 2022

Creative Firsts square with Static Inc

Dywedwch wrthym amdanoch eich hun a'ch cefndir creadigol  

Rwyf i wedi bod yn creu cerddoriaeth ers i mi fod yn blentyn ond dechreuais arni go iawn wrth i mi adael yr ysgol. Penderfynais fynd i Brifysgol Falmouth i astudio Cerddoriaeth Boblogaidd, lle dysgais i lawer am y busnes a'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni, yn enwedig recordio.

Tra'r oeddwn i yng Nghernyw, dechreuais i gysylltu mwy gyda fy hunaniaeth Gymreig hefyd, a'r hyn roedd bod yn berson creadigol Cymreig yn ei olygu, felly ar ôl gorffen y cwrs roeddwn i'n gwybod y byddwn i'n dod yn ôl i Gaerdydd a rhoi cynnig ar sîn gerddoriaeth Cymru.

Beth yw eich Cam Creadigol Cyntaf, felly?

Fy Ngham Creadigol Cyntaf yw Beth Nawr, yr albwm cyntaf i mi ei ryddhau gyda fy mand Static Inc ym mis Hydref 2020, yng nghanol y pandemig. Ar ôl symud yn ôl i Gaerdydd a chysylltu â fy nghyd-chwaraewyr (Siôn a Patrick), dechreuon ni recordio gan ddefnyddio'r sgiliau roeddwn i wedi'u dysgu yn y Brifysgol, a datblygu mwy o syniadau gan ein bod ni gyda'n gilydd. Treulion ni 2019 i gyd yn recordio ac roedden ni ar fin gorffen ar ddechrau 2020, ond yn amlwg bu’n rhaid oedi oherwydd y pandemig. Yn ystod haf 2020, rhyddhaon ni'r sengl, ac yna'r albwm llawn ym mis Hydref. Roeddwn i ar ffyrlo o fy swydd ran amser ar y pryd, felly roedd yn hanfodol bwysig i mi gael rhywbeth i weithio arno yn ystod y cyfnod hwnnw i gadw fy nghymhelliad. Dyma i bob pwrpas oedd fy ngwaith bob dydd, ac roedd yn llawer o hwyl.

Beth oedd yr her fwyaf?

Y pandemig - rydyn ni wedi bod yn creu cerddoriaeth gyda'n gilydd ers 11 o flynyddoedd ac rydyn ni'n deall ein hysgogiadau creadigol yn dda iawn felly roedd y broses o gydweithio yn hwyl o'r dechrau i'r diwedd. Bydden ni'n mynd i dai ein gilydd, yn sgwrsio am beth oedden ni am ei wneud, a bwrw iddi. Roedd llawer o ymddiriedaeth hefyd. Roedd y darn cyntaf yn hwyl ac yn gyffrous, ond yna pan ddaeth y cyfan i stop, bu'n rhaid symud popeth ar-lein a chymerodd amser i addasu i weithio o bell a rhannu yn y cwmwl.  

Allwch chi rannu cyngor i bobl eraill sydd eisiau rhyddhau eu cerddoriaeth eu hunain?

  1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael hwyl - os nad ydych chi'n ei fwynhau, bydd yn anodd cadw cymhelliant.
     
  2. Cynlluniwch eich amser - gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi digon o amser iddo, ond hefyd rhaid gwybod pryd i stopio a gwneud pethau eraill. Fel gweithiwr llawrydd, gall fod yn anodd strwythuro fy amser, felly fe drefnon ni amserlen a chadw ati, oedd yn help mawr.
     
  3. Cadwch bethau'n berthnasol i chi - gweithiwch gyda beth rydych chi'n ei wybod, mae'n fwy tebygol o daro nodyn gyda phobl eraill a gall fod yn brofiad pwerus a chathartig.

Fyddech chi'n mynd ati'n wahanol pe baech chi'n dechrau o'r dechrau?

Byddwn. Ers gwneud yr albwm, rwyf i wedi dysgu cymaint am fy nghrefft, am beirianneg, cynhyrchu, ysgrifennu a pherfformio caneuon, a hynny drwy'r ymarfer o greu'r un cyntaf. Y peth nesaf rydyn ni'n gweithio arno yw EP ac yn bendant mae rhai pethau yr hoffwn eu gwneud yn wahanol y tro hwn. Wedi dweud hynny, y profiad o'i wneud yn y ffordd honno ddysgodd i fi y pethau y byddwn i'n eu gwneud i wella. Mae gwneud camgymeriadau yn gam pwysig iawn, ac mae gorffen prosiect, dysgu ohono, a symud i'r peth nesaf ynddo'i hun yn gyflawniad. Os byddwch chi'n treulio llawer o amser yn golygu, wnewch chi fyth ei ryddhau.

Does neb yn mynd i fod mor feirniadol ohonoch chi â chi eich hun, felly weithiau mae'n rhaid i chi fynd amdani.

Pam dewis Caerdydd ar gyfer eich Cam Creadigol Cyntaf?

Mae ymdeimlad cryf o undod yng Nghaerdydd, mae'n lle mor arbennig, yn enwedig i bobl greadigol. Mae pawb yn gofalu am ei gilydd, mae mor gefnogol. Roeddwn i'n gwybod ar unwaith mai dyma'r lle'r oeddwn i am fod yn berson creadigol.

Dilynwch Static Inc ar y cyfryngau cymdeithasol:

Cam Creadigol Cyntaf

Hoffech chi gael eich cynnwys mewn erthygl? Cysylltwch â ni drwy ebostio creativecardiff@caerdydd.ac.uk os oes gennych chi Gam Creadigol Cyntaf i'w rannu gyda'n cymuned.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event