Canolfan flaenllaw newydd yn agor ei drysau i Arloeswyr Caerdydd

Mae canolfan arloesedd wedi agor ym Mhrifysgol Caerdydd. Nod Arloesedd Caerdydd yn sbarc yw dod â busnesau, gweithwyr llawrydd, cwmnïau deillio a busnesau newydd myfyrwyr ynghyd mewn adeilad newydd yng nghanol campws y Brifysgol.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 23 September 2022

Grisiau yn sbarc

Mae dros 40,000 o fyfyrwyr, academyddion a gweithwyr proffesiynol, yn ogystal â chynfyfyrwyr ledled y byd yn rhan o gymuned Prifysgol Caerdydd. Mae'r Brifysgol yn denu buddsoddiadau gan y sector cyhoeddus a phreifat i drosi ymchwil o'r radd flaenaf yn gynnyrch, gwasanaethau a phrosesau ar gyfer y dyfodol.

Gall busnesau ac entrepreneuriaid sydd am weithio yng nghanol y Brifysgol, ddefnyddio ystafelloedd yn Arloesedd Caerdydd, ac mae hyn yn creu cyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau â myfyrwyr, graddedigion, athrawon ac ymchwilwyr y Brifysgol.

Os oes angen swyddfeydd, labordai neu fannau cydweithio arnoch, mae Arloesedd Caerdydd yn sbarc yn eich gwahodd i ymuno â'u cymuned.

Beth sydd ar gael?

  • Swyddfeydd y gellir eu llogi
  • Cydweithio: opsiynau o ran desgiau pwrpasol a thros dro
  • Labordai gwlyb y gellir eu llogi
  • Mannau ar gyfer cynadledda/digwyddiadau
  • Derbynfa ganolog
  • Caffi Llaeth a Siwgr
  • Mannau ffurfiol ac anffurfiol ar gyfer cyfarfodydd, gyda chyfleusterau cynadledda o'r radd flaenaf

Cyfleusterau

  • Bydd ystafelloedd cyfarfod y gellir ac na ellir eu cadw ar gael. Bydd offer TG ac offer clyweledol ar gael ym mhob un
  • Ceir cegin bwrpasol, ac mae te a choffi yn gynwysedig. Ceir hefyd gaffi ar y safle a digon o fannau trafod nad oes angen eu cadw o flaen llaw, a hynny ledled yr adeilad
  • Cysylltedd rhyngrwyd tra-chyflym
  • Gwasanaethau glanhau, diogelwch a derbynfa, ynghyd â mynediad cerdyn allwedd 24/7

Pobl yn gweithio yn sbarc

Rhagor o wybodaeth

Os ydych chi am logi desg, mae opsiynau ar gael ar gyfer desgiau dros dro, desgiau pwrpasol neu swyddfeydd pwrpasol. 

I gael manylion llawn am opsiynau prisio a llogi, edrychwch ar y llyfryn

Os ydych yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd neu wedi graddio'n ddiweddar ac yn datblygu eich busnes eich hun, cysylltwch â Dyfodol Myfyrwyr i gael mynediad at gymorth a all gynnwys mynediad am ddim at yr adeilad: studentconnect@caerdydd.ac.uk

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr adeilad, cysylltwch â thîm Arloesi Caerdydd ar sbarcinnovations@caerdydd.ac.uk

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event